Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Ardal bicnic ar lan yr afon a phorth i lwybr glan-yr-afon hygyrchu a llwybr mynydd garw
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae'r maes parcio a'r ardal bicnic yn Ty'n y Groes ar lan yr afon yn fan cychwyn i'r ddau lwybr drwy'r goedwig.
Mae'r Llwybr Marchogion y Brenin yn llwybr hygyrch sy'n dilyn yr afon ac yn mynd heibio i'r coed talaf ym Mharc Coed y Brenin.
Mae Llwybr Mynydd Penrhos yn llwybr mynydd garw, a'r goron ar y cyfan yw'r golygfeydd gwych dros Eryri.
Ceir ardal laswellt wastad yn y maes parcio lle gall plant chwarae. Hefyd ceir cyfleusterau barbiciw ac mae toiledau ar gael yn y maes parcio.
Lawrlwythwch mwy o wybodaeth am Dy'n y Groes.
Ceir arwyddbyst ar hyd yr llwybrau cerdded ac maent yn dechrau o'r maes parcio.
Uchafbwyntiau: Ar y daith hon sy’n hygyrch i bawb, gallwch weld y ffynidwydd Douglas ysblennydd, coed mwyaf Coed y Brenin.
Pellter: ½ milltir/800 metr
Gradd: hygyrch
Disgrifiad y llwybyr: Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddbyst glas yn llwybr dolen byr sy’n arwain at y ‘Brenin’ ac yna’n dychwelyd i’r maes parcio.
Dyma lwybr 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir mannau gorffwys o leiaf bob 100m.
Nid oes grisiau na chamfeydd ar hyd yr holl lwybr.
Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain
Uchafbwyntiau: Mwynhewch y llwybr gwastad hwn i’r teulu cyfan ar hyd glan yr afon i weld coed mwyaf y goedwig. Gallwch gerdded at ‘Bencampwr y Brenin’, y goeden dalaf ac ymweld â’r maen coffa.
Pellter: ½ milltir/900 metr
Gradd: hawdd
Disgrifiad y llwybyr: Mae’r llwybr yn dilyn y llwybr hygyrch sy’n arwain at y ‘Brenin’. Dyma lwybr 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Mae’r arwyddbyst melyn yn mynd ymlaen at y ‘Pencampwr’ ar lethr ychydig yn fwy serth ac yn disgyn yn ôl i’r maes parcio ar hyd ffordd darmac â llethr o 20%/1 mewn 5. Mae’r adran hon yn addas i gadeiriau gwthio plant.
Nid oes grisiau na chamfeydd ar hyd yr holl lwybr.
Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain
Uchafbwyntiau: Fel yr awgryma’r enw, bydd llwybr mynydd Penrhos yn rhoi blas i chi ar gerdded mynyddoedd go iawn, a’ch gwobr o’r copa fydd golygfeydd syfrdanol o’r Garn, Cader Idris a Rhobell Fawr.
Pellter: 3¼ milltir/5.2 cilomedr
Gradd: anodd
Disgrifiad y llwybyr: Mae gan y daith lwybrau serth a chul, llai nag 50cm o led mewn mannau ar arwyneb anwastad, garw, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae sawl set o risiau ar y llwybr hefyd. Unwaith y byddwch yn cyrraedd y copa ceir mainc ble gallwch orffwys a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd.
Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr
Mae rhan gyntaf Llwybr Hygyrch Gwarchodlu'r Brenin ar dir gwastad bron i gyd ac mae'n addas i gadeiriau olwyn.
Ymhlith cyfleusterau maes parcio Tŷ'n y Groes mae:
Mae'r toiledau ar agor drwy'r amser.
Sylwch:
Mae parc coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau sy'n dechrau o Ty'n y Groes, ceir llwybrau cerdded ag arwyddbyst o'r lleoedd hyn ym Mharc Coed y Brenin:
Mae maes parcio Ty'n y Groes oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.
Mae yn Sir Gwynedd.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 730 233.
Mae'r maes parcio am ddim.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dy'n y Groes. Mae'r maes parcio 300 metr i fyny'r rhiw wrth ymyl afon Mawddach.
O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dy'n y Groes. Mae'r maes parcio 300 metr i fyny'r rhiw wrth ymyl afon Mawddach.
Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747
E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk