Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mwynhewch olygfeydd o gopaon Eryri a mynd am dro ar hyd ffordd Rufeinig
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae pentref Dolwyddelan ym mhen deheuol Parc Coedwig Gwydir.
Tyfodd yn gymuned fawr pan oedd y chwareli llechi cyfagos yn eu hanterth.
Erbyn heddiw mae'n cynnig cyfle i ymwelwyr ymlwybro i fannau diarffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae golygfeydd gwych o ben y dyffryn ac i gyfeiriad mynydd Moel Siabod i’w gweld ar hyd y llwybr cerdded hwn sydd wedi’i gyfeirbwyntio.
Mae'r llwybr yn dilyn rhan o’r ffordd Rufeinig a elwir ‘Sarn Helen’ a ddefnyddiwyd gan lengoedd o filwyr Rhufeinig wrth orymdeithio rhwng y gaer yng Nghaerhun a'u gwersyll mawr yn Nhrawsfynydd.
Mae safle picnic ger y bont droed dros yr afon, hanner ffordd ar hyd y llwybr cerdded.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mwynhewch olygfa wych o ben y dyffryn ac i gyfeiriad Moel Siabod.
Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy'r pentref ac i fyny ffordd goediog ac fe welwch y Cwm yn agor o'ch blaen.
O ben y bont gallwch edmygu golygfeydd geirwon Carreg Alltrem, sy’n boblogaidd gyda dringwyr.
Byddwch yn dychwelyd i Ddolwyddelan ar hyd y ffordd Rufeinig ‘Sarn Helen’ - oedd ar un adeg yn rhedeg trwy Gymru, o'r gogledd i'r de - ac yna’n mynd heibio i banel dehongli yn Nhai Penamnen sy'n adrodd hanes cymuned sydd wedi hen ddiflannu.
Mae'r llwybr cerdded yn cychwyn o'r maes parcio yng ngorsaf reilffordd Dolwyddelan.
Mae Dolwyddelan ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o sawl meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llwybrau beicio mynydd gradd coch, Gwydir Mawr a Gwydir Bach, yn dechrau o feyseydd parcio Mainc Lifio a Hafna.
Mae Dolwyddelan 6 milltir i'r de-orllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Dolwyddelan ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 18.
SH 737 521 yw cyfeirnod grid yr OS ar gyfer dechrau'r llwybr cerdded.
Cymerwch yr A470 o Fetws-y-coed i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog.
Ar ôl tua 6 milltir trowch i'r chwith wrth ymyl y siop i mewn i bentref Dolwyddelan.
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon ac yna trowch i'r chwith i faes parcio gorsaf reilffordd Dolwyddelan lle mae'r llwybr cerdded yn dechrau.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Dolwyddelan.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae'r llwybr cerdded yn cychwyn o'r maes parcio yng ngorsaf reilffordd Dolwyddelan.
Rheolir y maes parcio hwn gan y gymuned leol a rhaid talu tâl parcio.