Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Llennyrch, ger Porthmadog

Beth sydd yma

Mae Llwybr Rhaeadr Ddu ar gau oherwydd pont peryglus.

Croeso

Mae Ceunant Llennyrch yn geunant coediog dwfn ysblennydd gyda chlogwyni sy’n wyth deg troedfedd o uchder a dim ond tri deg troedfedd ar wahân mewn rhai mannau.

Rhwng muriau uchel y ceunant, mae Afon Prysor yn rhaeadru i lawr y dirwedd serth tuag at ddyffryn Dwyryd.

Mae’r ceunant yn gartref i lawer o raeadrau trawiadol gan gynnwys Rhaeadr Ddu sydd i’w gweld ar ein llwybr cerdded anodd.

Gweddillion coedwig law Geltaidd helaeth yw’r coetir derw yma, a arferai ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.

Mae'r hinsawdd fwyn ond gwlyb, gyda glawiad trwy gydol y flwyddyn a dŵr yn tasgu’n gyson o'r rhaeadrau niferus, a'r canopi trwchus sy’n llawn coed derw yn golygu bod llawer o leithder o fewn ac o amgylch y ceunant, sy’n creu amodau gwych ar gyfer planhigion sy'n hoff o wlybaniaeth.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Rhaeadr Ddu

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: I gyrraedd man cychwyn y llwybr, cerddwch ar hyd y trac o'r maes parcio. Mae arwydd gwybodaeth bach ar y dde gydag arwyddbost. Ar ôl croesi'r cae edrychwch am y panel gwybodaeth wrth fynedfa'r warchodfa. Mae’r llwybr i lawr at Raeadr Ddu yn serth gyda grisiau anwastad ac arwyneb anwastad.

Rhyfeddu at y ceunant a theimlo’r dwr yn tasgu o’r Rhaeadr Ddu.

Cyfle i fwynhau atmos¬er ‘coedwig law’ y coetir derw hynafol hwn a chwilio am gennau amrywiol o ran siâp a lliw ar y coed.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Ceunant Llennyrch yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Mwsoglau a llysiau’r afu

Mae planhigion yn ffynnu yn yr amgylchedd llaith hwn, ac mae 230 o rywogaethau o fwsoglau a llysiau’r afu yng Ngheunant Llennyrch, a bod nifer ohonynt yn anghyffredin neu’n brin.

Chwiliwch am y mwsogl pluog ymledol, y mwsogl gwddf-alarch llyfn a’r mwsogl clustog, gyda’i glustogau elffantaidd ar ymyl creigiau a chlogfeini.

Nid oes raid i chi wybod yr enwau, ond mwynhau edrych ar y mwsoglau o bob siâp ar lawr y coetir, y creigiau, y clogfeini a’r boncyffon.

Cennau

Mae Ceunant Llennyrch, gyda’i haer pur, un o’r safleoedd coetir gorau ar gyfer cennau yng Nghymru.

Mae yma bron i 250 o rywogaethau, gan gynnwys nifer o rywogaethau cenedlaethol prin, a gellir cymharu’r safle gyda dyfnentydd gorllewin yr Alban – sy’n enwog yn fyd-eang am eu cymunedau o gennau.

Adar

Mae’r coetir yn gartref i lawer o adar hefyd.

Yn yr haf, mae’r tingoch, telor y coed a’r gwybedog brith yn ymwelwyr cyson – sef y rhywogaethau sy’n nodweddiadol o’r ‘coetiroedd derw uwchdirol’.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Coedydd Derw Meirionnydd

Mae Ceunant Llennyrch yn un o’r chwech o Goedydd Derw Meirionnydd mawr sydd wedi'u gwarchod fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Mae'r coedydd derw hyn yr un mor bwysig yn fyd-eang ac yr un mor fregus â rhai coedwigoedd glaw trofannol ac maent yn weddillion 'coed gwyllt' Atlantig helaeth a oedd ar un adeg yn ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.

Gellir ymweld â dau o Goedydd Derw eraill Meirionnydd yn ofalus:

Mae llystyfiant trwchus a mynediad serth yn golygu nad yw'r Coedydd Derw eraill (Coed Camlyn, Coed Cymerau, a Choed y Rhygen) yn addas ar gyfer ymwelwyr.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Ceunant Llennyrch wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • ceir daear anwastad dan draed, gyda brigiadau caregog, creigiau a chlogwyni¸ yn aml wedi’u gorchuddio â llystyfiant uchel – gwisgwch esgidiau cadarn a chadwch at y llwybrau.
  • mae llwybr serth gyda grisiau ac wyneb anwastad i lawr i Rhaeadr Ddu ac i fyny oddi yno.
  • mae’r afon yn gallu dod yn ffrydlif tymhestlog mewn dim amser yn ystod tywydd gwlyb - mae perygl o gael eich cario ymaith – cadwch draw.
  • nid oes signal i ffonau symudol yn y ceunant.
  • mae wynebau’r creigiau o fewn y ceunant yn hynod o lithrig pan fo’n wlyb.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Ceunant Llennyrch 8½ milltir i’r dwyrain o Borthmadog.

Mae yn Sir Gwynedd.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Ceunant Llennyrch ar fap Explorer OL 18 yr Arolwg Ordnans (OS).

Y cyfeirnod grid OS ar gyfer dechrau'r llwybr yw SH 665 392.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A487 o Borthmadog i Faentwrog.

Trowch i'r dde ychydig cyn yr eglwys ac ewch i mewn i'r pentref, gan ddilyn yr arwyddion i gyfeiriad Harlech a'r A496.

Ar ôl tua milltir trowch i'r chwith i fyny'r allt i ffordd fach.

Dilynwch y ffordd gul hon am tua ¾ milltir i'r maes parcio bach ychydig oddi ar y ffordd.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Penrhyndeudraeth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Nid yw’r maes parcio yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae bocs gonestrwydd ar gyfer talu.

Sylwch fod y maes parcio yn fach a gall fynd yn llawn gan fod yr ardal hon yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer grwpiau sy’n gwneud gweithgareddau awyr agored.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf