Parc Coedwig Gwydir - Cae'n y Coed, ger Betws-y-coed

Ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd

Beth sydd yma

Mae Llwybr Craig Forris a’r safle picnic uchaf yn y maes parcio wedi cau oherwydd gweithrediadau coedwigaeth.

 

Diweddariad coronafeirws

 

Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.

 

Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.

 

Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.

 

Croeso

Mae Cae’n y Coed yn safle picnic mawr ger Betws-y-coed ar yr A5.

Ceir byrddau o amgylch y maes parcio ger y brif ffordd ac mae digon o le i blant chwarae hefyd.

Mae'r llechwedd uwchben y maes parcio yn gartref i "ardd goedwig" a blannwyd â choed o bob cwr o'r byd yn y 1930au.

Dilynwch ein llwybr sydd wedi’i arwyddo heibio i ardd goedwig i fwynhau panorama mynydd syfrdanol gyda Moel Siabod yn erbyn cefndir mynyddoedd Carneddau.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Taith Gerdded Craig Forris

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2 filltir/3.4 cilomedr
  • Amser: 1½-2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr hwn ar ffyrdd coedwig sydd wedi’u cysylltu gan lwybrau cul o lai na 60 cm o led mewn mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, lle gallwch ddisgwyl mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae’r llwybr yn esgyn yn serth, ac yn disgyn yn raddol. Mae nifer o fyrddau picnic yn y maes parcio, ac mae mainc wrth yr olygfan.

Mae’r dringo serth ar ddechrau’r daith gerdded yn werth yr ymdrech wrth ichi ddilyn eich ffordd drwy goed godidog ac anarferol yn yr hen goedfa.

Cewch gipolwg ar Gwm Llugwy wrth ichi ddringo, ond dim ond blas yw’r golygfeydd hyn.

Ar ben bryncyn, mae mainc ac yno olygfa banoramig fendigedig draw at Foel Siabod, mynyddoedd Carneddau, ac, ar ddiwrnod clir, gopa Tryfan.

Parc Coedwig Gwydir

Mae Cae'n y Coed ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o sawl feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae llwybrau beicio mynydd gradd coch, Gwydir Mawr a Gwydir Bach, yn dechrau o feyseydd parcio Mainc Lifio a Hafna..

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Cae’n y Coed 2 filltir i’r gorllewin o Fetws-y-coed.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Cae’n y Coed ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 763 576.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar yr A5 o Fetws-y-coed tuag at Gapel Curig ac mae’r maes parcio ar y chwith yn union ar ôl y brif fynedfa i’r Rhaeadr Ewynnol.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy