Parc Coed y Brenin - Glasdir

Darganfod hen waith copr yng nghefn gwlad sydd â llwybr hygyrch tuag at olygfan uwchben yr hen offer cloddio

Beth sydd yma

Diweddariad Coronafeirws

 

Bydd y maes parcio a'r holl lwybrau ar agor yma o 6 Gorffennaf.

 

Ymweld â’n safleoedd yn ddiogel

 

Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu profiad diogel a chroesawgar wrth i'n safleoedd ailagor.

 

Cymerwch gyfrifoldeb personol am eich diogelwch, gan gymryd camau ychwanegol i baratoi cyn eich ymweliad a chan gadw at y mesurau diogelwch sydd ar waith.

 

Rydym wedi newid y llwybr arferol yn achos rhai o'n llwybrau er mwyn eich helpu i gynnal y pellter priodol oddi wrth eraill - dilynwch yr arwyddion ar y safle.

 

Gweler ein cyngor ar sut i gynllunio ymweliad diogel a’i fwynhau.

Croeso

Mae Glasdir ym Mharc Coed y Brenin. 

Mae’r daith gerdded trwy hen chwarel gopr Glasdir yn cychwyn o faes parcio Glasdir.

Ceir yno safle picnic a barbeciw ar lannau Afon Las.

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am Glasdir

Mae maes parcio ychwanegol ar gyfer ymwelwyr anabl yn unig i’w gael ym Mhont Llam yr ewig.

Ceir yno fwrdd picnic hygyrch, ac mae llwybr hygyrch yn cychwyn oddi yno tuag at olygfan uwchben yr hen waith copr.

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am Bont Llam yr Ewig

Llwybrau cerdded

Ceir arwyddion ar gyfer y daith gerdded gymedrol o barc Glasdir.

Ceir arwyddion ar gyfer y daith hygyrch o faes parcio Pont Llam yr Ewig.

Arhoswch ar y llwybrau os gwelwch yn dda, gall hen weithiau ac adeiladau mwyngloddio fod yn beryglus, ac mae ymylon serth i’r ceunentydd. 

Llwybr Copr Glasdir (arwyddion coch o faes parcio Glasdir)

Uchafbwyntiau: Dewch o hyd i hen waith copr yn cuddio mewn lleoliad heddychlon.

Pellter: ¾ milltir, 1.2 cilomedr

Gradd: cymedrol

Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr coch yn aml yn llai na 1m o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir sawl set o risiau ar y dringfeydd a disgynfeydd serth drwy’r hen weithfeydd.

Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain

Llwybr Hygyrch Glasdir (arwyddion glas o faes parcio Pont Llam yr Ewig ar gyfer ymwelwyr anabl)

Uchafbwyntiau: Dewch o hyd i hen waith copr yn cuddio mewn lleoliad heddychlon.

Pellter: ½ milltir, 850m 

Gradd: Hygyrch

Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddbyst glas yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’n 1.5m o led, yn wastad a chanddo arwyneb da gyda mannau pasio bob 50m a mannau gorffwys bob 150m.

Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain

Gwybodaeth hygyrchedd

Ymwelwyr anabl yn unig gaiff ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.

Mae’r llwybr hygyrch tuag at yr olygfan uwchben y gwaith copr yn cychwyn o faes parcio Pont Llam yr Ewig.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd

Mae maes parcio Glasdir a maes parcio Pont Llam yr Ewig oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Cyfeirnod grid yr AO Glastir yw SH 737 225.

Cyfeirnod grid yr AO Pont Llam yr Ewig yw SH 743 226.

Mae'r maes parcio am ddim.

Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.

Cyfarwyddiadau i faes parcio Glastir

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes. Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr. Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.

Cyfarwyddiadau i faes parcio Pont Llam yr Ewig

Dilynwch y cyfeiriadau i gyrraedd maes parcio Glasdir. Pan gyrhaeddwch faes parcio Glasdir, parhewch ar hyd y ffordd darmac, trowch yn sydyn i'r chwith i fyny'r rhiw serth, trowch i'r dde wrth y groesffordd ar gopa'r bryn a bydd maes parcio Pont Llam yr Ewig i bobl anabl yn unig ar y dde dros y bont garreg.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Darganfod Parc Coed y Brenin

Mae'r parc coedwig yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig.  Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma o faes parcio Glasdir, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd.  Hefyd ceir caffi, siop redeg a siop feiciau
  • Pont Cae’n y Coed – dechrau'r Llwybr Llosfygynydd garw
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
  • Gardd y Goedwig – dewis o lwybrau drwy goed o bob cwr o'r byd yn ardd y goedwig, y mae un yn addas ar gyfer pob gallu
  • Tŷ'n y Groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon pob gallu a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

Ffôn: 01341 440747

E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru