Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Porth at y Rhaeadr Ewynnol enwog
Mae’r olygfan ar gau.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain drwy goetir i olygfan dros y rhaeadr enwog hon - cewch olygfa fendigedig o’r ochr hon i’r afon felly peidiwch ag anghofio’ch camera.
Mae Tŷ’n Llwyn yn fan gwych i fwynhau picnic â golygfa wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
O’r maes parcio, dilynwch y llwybr sy’n disgyn drwy’r coetir a daw sŵn yr afon yn uwch wrth ichi agosáu at Raeadr Ewynnol a’r olygfan.
Yna mae'r llwybr yn ymdroelli i fyny drwy'r coed a brigiadau creigiog i olygfan arall â golygfa i Foel Siabod a Phedol yr Wyddfa ar ddiwrnod clir.
Mae Mainc Lifio ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o sawl meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llwybrau beicio mynydd gradd coch, Gwydir Mawr a Gwydir Bach, yn dechrau o feyseydd parcio Mainc Lifio a Hafna.
Mae’r cyfleusterau yn Nhy'n Llwyn ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:
Mae Tŷ’n Llwyn 3½ milltir i'r gorllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Tŷ’n Llwyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 765 583.
Ewch ar yr A5 o Fetws-y-coed tuag at Gapel Curig.
Ewch heibio i faes parcio Gae’n y Coed a throwch i’r dde i’r is-ffordd gul yn union cyn y Tŷ Hyll.
Mae’r maes parcio bach milltir i fyny’r ffordd hon, ar y dde.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.