Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Cynfal, ger Blaenau Ffestiniog

Beth sydd yma

Croeso

Ceunant Cynfal yw un o'r ceunentydd mwyaf trawiadol ym Mhrydain.

Crëwyd y ceunant cul, dwfn hwn gan Afon Cynfal sy'n disgyn o'i tharddiad yng nghanol Eryri ac yn troi'n ffrwd fyrlymus gyda rhaeadrau serth.

O blith y rhain, Rhaeadr Cynfal yw un o’r rhai mwyaf dramatig a gallwch weld ei dyfroedd gwyllt yn disgyn o'r olygfan Fictoraidd sydd wedi'i hadfer.

Gweddillion coedwig law Geltaidd helaeth yw’r coetir derw yma, a arferai ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.

Mae planhigion nodedig yn ffynnu yn yr amodau cysgodol a llaith o dan y canopi derw trwchus ac mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Cynfal yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol.

""

Llwybr cerdded

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Rhaeadr Cynfal

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1.4 milltir/2.2 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch y llwybr cyhoeddus o bentref Llan Ffestiniog (gydag arwydd Rhaeadr Cynfal) i fynedfa'r warchodfa. Nid oes arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded.

Gwylio’r rhaeadr o’r olygfan Fictoraidd a theimlo’r dwr yn tasgu o’r rhaeadr.

Cael eich gwefreiddio gan y ceunant a’r planhigion sy’n ynnu yn y lleithder a mwynhau atmoser ‘coedwig law’ y coetir derw hynafol hwn.

""

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Ceunant Cynfal yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Daeareg

Dyma dirwedd hynafol - llifoedd enfawr o ddwr rhewlifol ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf fu’n gyfrifol am naddu’r ceunant hwn.

Mae’r ‘dffrynnoedd crog’ (dyffryn gyda dyffryn dyfnach neu graig yn torri ar ei draws) yn dal i’w gweld, a nifer o nodweddion daearegol eraill gydag enwau fel ‘padelli’, ‘agennau’, ‘bwâu’ a chraig ar ffurf ‘stac’ – Pulpud Huw Llwyd.

Mwsoglau, llysiau'r afu a chennau

Mae 154 gwahanol fath o fwsoglau a llysiau’r afu yn y ceunant.

Mae llawer ohonynt yn rhai prin: chwiliwch am y mwsogl gwyn bach anghyffredin, sy’n ffurfio clustogau ar lawr y goedwig a boncyffon.

Mae digonedd o gennau yma hefyd, gan gynnwys y cen gronynnog disg prin, sy’n tyfu ar risgl coed derw aeddfed, mwsoglyd.

Ystlumod ac adar

Mae’r goedwig yn dir bwydo pwysig i ystlumod.

Gyda’r nos yn yr haf a dechrau’r hydref, maent i’w gweld yn bwydo ar hyd ymyl y coed ac mewn llennyrch agored.

Mae cadarnle Prydeinig yr ystlum pedol lleiaf yma yng ngogledd Cymru, ac mae’n dibynnu ar ddal pryfed tail ar frigau’r coed diolch i’r anifeiliaid sy’n pori o fewn y coetiroedd.

Mae’r coetir yn gartref i lawer o adar. Yn yr haf, mae’r tingoch, telor y coed a’r gwybedog brith yn ymwelwyr cyson – sef y rhywogaethau sy’n nodweddiadol o’r ‘coetiroedd derw uwchdirol’.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Coedydd Derw Meirionnydd

Mae Ceunant Cynfal yn un o’r chwech o Goedydd Derw Meirionnydd mawr sydd wedi'u gwarchod fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Mae'r coedydd derw hyn yr un mor bwysig yn fyd-eang ac yr un mor fregus â rhai coedwigoedd glaw trofannol ac maent yn weddillion 'coed gwyllt' Atlantig helaeth a oedd ar un adeg yn ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.

Gellir ymweld â dau o Goedydd Derw eraill Meirionnydd yn ofalus:

Mae llystyfiant trwchus a mynediad serth yn golygu nad yw'r Coedydd Derw eraill (Coed Camlyn, Coed Cymerau, a Choed y Rhygen) yn addas ar gyfer ymwelwyr.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Ceunant Cynfal wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • ceir daear anwastad dan draed, gyda brigiadau caregog, creigiau a chlogwyni, yn aml wedi’u gorchuddio â llystyfiant uchel – gwisgwch esgidiau cadarn a chadwch at y llwybrau.
  • mae’r afon yn gallu dod yn ffrydlif tymhestlog mewn dim amser yn ystod tywydd gwlyb – mae perygl o gael eich cario ymaith – cadwch draw.
  • nid oes signal i ffonau symudol yn y ceunant.
  • mae wynebau’r creigiau o fewn y ceunant yn hynod o lithrig pan fo’n wlyb.
  • byddwch yn ofalus pan fyddwch yn cerdded ar hyd darnau agored o’r llwybr wrth ymyl llethrau serth i lawr i’r ceunant.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Cynfal 3 milltir i'r de o Flaenau Ffestiniog.

Mae yn Sir Gwynedd.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Ceunant Cynfal ar fap Explorer OL 18 yr Arolwg Ordnans (OS).

Y cyfeirnod grid OS ar gyfer dechrau'r llwybr yw SH 703 418.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A470 o Flaenau Ffestiniog tuag at Ddolgellau.

Ar ôl 3 milltir ewch i bentref Llan Ffestiniog lle ceir man parcio bach ar y chwith ychydig cyn pont y rheilffordd.

Dilynwch y llwybr cyhoeddus gyferbyn â'r maes parcio (gydag arwydd Rhaeadr Cynfal) i fynedfa'r warchodfa.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Penrhyndeudraeth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Nid oes maes parcio yn y warchodfa.

Parciwch yn ystyriol ym mhentref Llan Ffestiniog a dilynwch y llwybr cyhoeddus o'r pentref i fynedfa'r warchodfa.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf