Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
O ddydd Llun 24 Chwefror bydd amseroedd agor y ganolfan ymwelwyr yn newid i 11yb tan 3yp bob dydd.
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Newidiadau i gyfleusterau o fis Ebrill 2025
Bydd darpariaeth manwerthu ac arlwyo mewn tair canolfan ymwelwyr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod ar agor tan 31 Mawrth, 2025, ac yna’n cau.
Ar ôl iddynt gau, byddwn yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.
Bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor ar y safleoedd dan sylw.
Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru
Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf ym Mhrydain ac mae’n dal i fod yn un o’r cyrchfannau gorau yn y maes chwaraeon.
Mae llwybrau beicio mynydd yn cychwyn o’r maes parcio, ac maent yn amrywio o lwybrau hawdd ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr i lwybrau technegol ar gyfer beicwyr medrus.
Mae’r cyfleusterau eraill ar gyfer beicwyr mynydd yn cynnwys siop feiciau ac ardal sgiliau lle gallwch feithrin eich technegau beicio.
Mae'r llwybrau beicio graean yn cynnig ffordd i archwilio'r parc coedwig heb fynd ar y llwybrau beicio mynydd technegol.
Mae amrywiaeth o lwybrau cerdded a llwybrau rhedeg trwy Barc Coedwig Coed y Brenin.
Mae rhai o’r llwybrau cerdded sydd wedi’u harwyddo yn addas ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio sgwter symuded oddi ar y ffordd.
Hefyd, mae yna fannau chwarae i blant a digonedd o fyrddau picnic.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch y llwybr hygyrch i lawr trwy’r coetiroedd at y safle picnic ar lan yr afon, lle mae Afon Eden yn llifeirio dros y creigiau.
Ewch i nôl taflen llwybr pos anifeiliaid a gadewch i’r ymwelwyr ifanc ddilyn y cliwiau.
Hefyd, gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes a bywyd gwyllt y goedwig.
Ymlwybrwch drwy goetiroedd cymysg a mwynhau'r dyfroedd byrlymus yn y safle picnic.
Gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes a bywyd gwyllt y goedwig.
Rhowch gynnig ar y llwybr hardd hwn sy’n addas i’r holl deulu ac sy’n arwain at olygfan Cefndeuddwr a’r ardal bicnic.
O’r fan honno, mwynhewch y golygfeydd godidog o’r Garn a’r Rhinogydd.
Mae Llwybr Rhaeadr Gain yn dringo dros esgair Cefndeuddwr cyn disgyn i’r dyffryn nesaf ac i lawr at gydlifiad Afon Gain ac Afon Mawddach a’u rhaeadrau dwbl.
Cadwch at y llwybrau ag arwyddbyst, oherwydd efallai nad yw hen adeiladau a gweithfeydd y mwynglawdd yn ddiogel a cheir disgynfeydd heb rwystrau diogelwch i lawr i’r ceunentydd.
Dysgwch am fywyd gwyllt, coed a hanes Parc Coed y Brenin ar ein llwybr sain mp3.
Mae wedi’i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr Afon Eden ac mae'n dechrau o'r maes parcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan.
Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.
Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.
I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.
Mae dau o’r llwybrau cerdded sydd wedi’u harwyddo yn addas ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio sgwter symuded oddi ar y ffordd (Afon Eden a Chefndeuddwr).
Mae’r naill yn mynd i lawr at yr ardal bicnic ger yr afon a’r llall yn arwain i fyny’r bryn at olygfan lle ceir bwrdd picnic.
Gallwch logi sgwter symudedd oddi ar y ffordd ‘Tramper’ yn y ganolfan ymwelwyr. Sylwer - rhaid ei archebu ymlaen llaw drwy gysylltu landmanagementnw@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Mae’r llwybrau graean yn gyfres o lwybrau beicio wedi’u harwyddo sy’n dilyn ffyrdd coedwig a lonydd tarmac yn bennaf.
Mae’r llwybrau’n cynnig opsiynau ar gyfer ystod o sgiliau a galluoedd.
Mae’r llwybrau’n ddelfrydol ar gyfer beiciau graean â bariau dolennog sydd â theiars cnapiog 40mm neu letach, ac ar gyfer beiciau mynydd â bariau syth ac e-feiciau mynydd/graean.
Gallai’r llwybrau hirach hefyd gynnwys darnau o drac sengl a darnau byr lle bydd angen i chi wthio neu gario eich beic.
Gradd llwybr beicio yr holl lwybrau hyn yw “ffordd goedwig a thebyg” sy’n golygu:
Bydd edrych ar y pellter a faint o ddringo sydd ar lwybr yn rhoi syniad da i chi o ba mor anodd fydd y llwybr i chi.
Mwy o wybodaeth
Taith hamddenol sy'n addas i'r teulu cyfan gyda lle perffaith i aros hanner ffordd.
Llwybr y Coblynnau yw'r llwybr mwyaf gwastad yng Nghoed y Brenin ac mae'n dilyn afonydd hardd Eden a Mawddach i safle picnic a thoiledau Pont Ty'n-y-groes.
Mae'r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd.
Llwybr delfrydol ar gyfer taith hamddenol gyda phicnic wrth ymyl yr afon.
Mae llwybr Yr Afon yn addas i'r teulu cyfan.
Yn dilyn yr afon, mae'r llwybr hwn ar hyd ffyrdd y goedwig yn cynnwys rhai o rannau mwyaf prydferth y goedwig, gan gynnwys y rhaeadrau trawiadol ar afon Gain ac afon Mawddach.
Mae'n llwybr lefel isel ond mae'n cynnwys rhan fwy garw o drac preifat.
Mae cwpl o ddringfeydd byr a disgynfa serth.
Dringwch yn uchel i esgair Cefndeuddwr, edmygwch y golygfeydd godidog ar draws mynyddoedd garw'r Rhinogau, ac ewch am dro lle bu'r Rhufeiniaid yn gorymdeithio gynt.
Mae llwybr yr Olwyn Dân yn rhoi prawf ar eich gallu wrth i chi ddringo ar ffyrdd y goedwig allan o ddyffryn dwfn yr afon, i fyny dringfa hir a pharhaus, i'r grib.
Mae golygfeydd godidog o'r Rhinogau i'w gweld o'r copa.
Mae'r llwybr yn dychwelyd ar hyd ffordd Rufeinig hynafol Sarn Helen.
Gan fentro i ochr dawelach y goedwig, mae llwybr Y Fuwch Frech yn cynnig golygfeydd godidog o'r mynyddoedd a'r goedwig wrth i chi ddringo'n uchel uwchben y dyffryn.
Llwybr y Fuwch Frech yw'r llwybr cyntaf sy'n cynnig taith hirach na'r llwybrau eraill y gellir eu dilyn.
Mae'r llwybr yn dringo ochr y bryn gyferbyn â'r ganolfan ymwelwyr ac yn cynnig golygfeydd gwych o'r goedwig a'r mynyddoedd.
Cymerwch bwyll gyda'r traffig beicio dwy ffordd ar y llwybr cul sy'n mynd o dan yr A470.
Gan droi a throelli ar hyd ffyrdd coedwig Craig Ganllwyd, mae llwybr Y Fuwch Gyfeiliorn yn cynnig golygfeydd syfrdanol o'r goedwig a'r ardal gyfagos.
Mae llwybr hwn yn dringo ar hyd ffyrdd y goedwig ar ochr dawelach y goedwig, gan ddatgelu golygfa o barc y goedwig nad ydych chi'n ei gweld fel arfer.
Mae darn byr o drac sengl ar ddechrau'r llwybr.
Cymerwch bwyll gyda'r traffig beicio dwy ffordd ar y llwybr cul sy'n mynd o dan yr A470.
O ddringfeydd serth i fannau i groesi'r afonydd, mae'r llwybr hwn yn cynnig rhywbeth o amgylch pob cornel.
Mae llwybr Y Gwyllgi yn llwybr arall sy'n cynnig taith hirach lle mae modd dringo'n uwch.
Mae'r llwybr yn arwain at ffin ogleddol y goedwig gan eich herio gyda thair dringfa serth a'ch gwobrwyo â phedair man croesi ar draws afonydd hardd Mawddach a Gain.
Profwch eich cryfder ac ymwelwch â rhannau mwyaf anghysbell y goedwig lle mae cribau uchel agored yn datgelu golygfeydd mynyddig.
Bydd llwybr Y Wrach Wen yn profi'ch hunanddibyniaeth gyda dringfeydd mawr a sawl rhan lle bydd rhaid i chi gario'ch beic, gan gynnwys llwybr ceffyl mwdlyd, dringfa greigiog, serth a disgynfa serth a chul iawn lle bydd rhaid i chi gerdded ar draws nant.
Cofiwch gau'r giatiau I atal da byw rhag dianc.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae’r llwybr hwn yn gyflwyniad gwych i feicio mynydd ar gyfer amrywiaeth eang o oedrannau a galluoedd.
Mae digonedd o nodweddion llawn hwyl i’w cael, yn cynnwys grisiau cerrig, rholyddion, pennau bwrdd, ysgafellau ac ambell naid.
Ceir dringfeydd byrion serth a disgynfa arw i lawr ffordd coedwig.
Mae’r llwybr wedi’i adeiladu ar ffurf pedair dolen, sy’n graddol fynd yn hirach ac yn anos.
Gall beicwyr anabl fynd ar hyd y tair dolen gyntaf ar feiciau mynydd wedi’u haddasu.
Ceir rhan fwy garw ar drac preifat yn y bedwaredd ddolen sy’n arwain i fyny at y rhaeadrau, a cheir rhwystr i’w daclo.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.
Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.
Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.
I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Os hoffech roi cynnig ar lwybrau mwy heriol Coed y Brenin, yna mae’r llwybr byr ond technegol hwn yn gyflwyniad gwych i ddangos ichi beth sydd o’ch blaen.
Mae’n anodd o’r cychwyn cyntaf, gyda grisiau a slabiau cerrig.
Mae’n cynnwys rhai nodweddion gradd coch a du a cheir dringfa hir a chaled i fyny ffordd coedwig.
Os gallwch ymdopi â hwn, yna byddwch wrth eich bodd â’n llwybrau eraill.
Mae’r Cyflym Coch yn ddelfrydol i’r beicwyr hynny sydd wedi meistroli’r MinorTaur ac sy’n dymuno symud yn eu blaen at y radd nesaf.
Mae’r llwybr yn cysylltu rhai o’r rhannau cyflym gorau sydd i’w cael ym mharc y goedwig, gyda dringfeydd cymharol fyr.
Gyda rhannau fel ‘Dream Time’ ac ‘Uncle Fester’, mae’n hwyl a hanner!
Dyma glasur o lwybr nad yw’n tynnu gormod o sylw ato’i hun, ond sydd bob amser yn eich syfrdanu gyda’i safon.
Mae’r cychwyn anodd yn dangos yn gwbl glir fod yn rhaid ichi feddu ar sgiliau o’r radd flaenaf, ond yna mae’n eich arwain at y rhan ‘DreamTime’ anhygoel sy’n llifo mor rhwydd – byddwch yn breuddwydio liw dydd am y rhan hon drwy gydol eich gwaith diflas am weddill yr wythnos!
Mae ‘Big Doug’ yn eich tywys trwy Ffynidwydd Douglas anferthol, brenhinoedd Coed y Brenin.
Beiciwch yr hen ‘Hermon’ mor gyflym ag y beiddiwch, cyn dringo at fan uchaf y goedwig.
Bydd hwyl a sbri y pum disgynfa sy’n perthyn i’r ‘Adams Family’ yn eich gwobrwyo am eich holl ymdrech.
Dyma un o’r ffefrynnau; gyda chymysgedd gwych o erwinder, trac sengl cyflym a rhannau a nodweddion newydd.
Byddwch yn beicio dros greigwely, yn taclo esgynfeydd a disgynfeydd caregog rhydd, yn saethu rownd ysgafellau, yn dod o hyd i’ch rhythm dros y rholyddion enfawr, yn gwibio i lawr grisiau, yn plymio i wagle (‘Cavity’) ac yn cael eich poeri allan y pen arall gyda chymaint o steil ag y gallwch ei ennyn!
Dyma lwybr caled gyda hediadau anochel, felly gwnewch yn siŵr fod eich sgiliau ar eu gorau.
Y Tarw Du yw llwybr gwreiddiol Coed y Brenin, a chaiff ei ystyried gan lawer fel y llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf i’w adeiladu yn y DU a thu hwnt yn ôl pob tebyg.
Mae’r rhan newydd greigiog, retro (Y Slab) yn cynnwys nifer o slabiau mawr a rhai nodweddion y mae’n rhaid ymroddi’n llwyr iddynt.
Dyma’r llwybr y mae pawb yn dyheu am ei feicio.
Mae’n hir ac yn arw, a bydd yn eich ymestyn yn gorfforol ac yn feddyliol.
Gallwch ddisgwyl dringfeydd caregog rhydd, disgynfeydd dieflig, hediadau carreg, ysgafellau, pennau bwrdd a chluniadau.
Peidiwch â cholli cyfuniad y ‘Pink Heifer’ a ‘Big Doug’ lle cewch fwy na 4 cilomedr o drac sengl anhygoel trwy ffynidwydd Douglas anferthol ac aruchel.
A fyddwch yn eich llusgo eich hun i fyny’r ddringfa derfynol, yn hercian i lawr y ddisgynfa olaf wedi llwyr ymlâdd, ynteu’n derbyn yr her i ddofi’r Anghenfil?
Yn ardal sgiliau’r Ffowndri ceir enghreifftiau o’r nodweddion sydd i’w cael ar wahanol lefelau o lwybrau beicio mynydd graddedig.
Ceir ardaloedd hyfforddi ar gyfer beicwyr newydd, fel y gallant ddysgu a meithrin technegau beicio, ac mae hefyd yn lle gwych i feicwyr mwy profiadol gynhesu neu arafu ar ôl bod yn beicio.
Cafodd yr ardal sgiliau ei hadeiladu fel rhan o Brosiect Canolfan Ragoriaeth Eryri a ariannwyd yn rhannol gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE trwy gyfrwng Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Os ydych yn newydd i feicio mynydd neu os ydych eisiau dysgu technegau beicio oddi ar y ffordd, y Parth Hyfforddi yw eich man cychwyn.
Os ydych yn newydd i Goed y Brenin ac os nad ydych yn siŵr pa radd o lwybr i’w feicio, ewch i’r Parth Trac Unigol i weld beth yw lefel eich gallu.
Ceir pedair gradd o lwybr yma, o rai hawdd (gwyrdd) i rai caled (du).
Dechreuwch gyda llwybr hawdd ac ewch yn eich blaen hyd nes y byddwch wedi dod o hyd i’ch lefel.
Mae’r Parth Rhydd yn llwybr naid/pwmp i feiciau mynydd.
Mae ganddo wyth tro ysgafell a nodweddion llawn hwyl fel rholyddion, cluniadau, dwbledi, pennau bwrdd, a grisiau i fyny ac i lawr.
Mae’r Parth Gollwng yn cynnwys y ‘Lemmingstone’, sef darn o garreg naturiol lle gellir dilyn sawl llinell – ond cofiwch edrych cyn neidio.
Bydd angen ichi feistroli’r trac coch unigol cyn rhoi cynnig ar hwn.
Mae pump o lwybrau rhedeg ag arwyddbyst yn cychwyn wrth y maes parcio ac yn arwain trwy rai o’r golygfeydd gorau ym Mharc Coed y Brenin.
Mae’r llwybrau’n amrywio o ran hyd ac maent wedi’u cynllunio ar gyfer rhedwyr dibrofiad hyd at redwyr mwy profiadol.
Maent yn cynnwys cymysgedd o draciau sengl, ffyrdd coedwig, llwybrau cyhoeddus anwneuthuredig a garw ac ambell lecyn o darmac.
Byddwch yn barod am wreiddiau, mwd a chreigiau gydag esgynfeydd a disgynfeydd serth.
Dyma lwybr byr, ac mae’n ddelfrydol i redwyr ifanc a’r rhai sydd eisiau rhoi cynnig ar eu hesgidiau rhedeg newydd.
Dringwch at esgair Cefndeudwr ac ewch o’i chwmpas, ac fe ddewch at Sarn Helen, hen ffordd Rufeinig, cyn mynd yn ôl i lawr i’r maes parcio.
Ar ôl dringo at esgair Cefndeudwr, dechreuwch fynd i lawr i’r dyffryn.
Dilynwch Afon Gain i fyny’r afon nes cyrraedd adfeilion Fferm Penmaen, lle mae’r llwybr yn dringo’r bryn drachefn nes cyrraedd Sarn Helen, ffordd Rufeinig.
Ewch yn eich ôl heibio’r gwaith haearn canoloesol ac ar hyd ffordd y goedwig i’r maes parcio.
Mae’r llwybr yn dringo dros esgair Cefndeudwr, ac yna’n gwyro ar hyd dau lwybr troed cyn mynd i lawr at Afon Mawddach.
Ar ôl croesi’r bont yn Nhyddyn Gwladys, byddwch yn dringo at y Gors Gopr, ac yn ei chroesi, cyn mynd i lawr heibio i dŷ Cae’n y Coed.
Ymunwch â’r llwybr ceffylau yn ôl i lawr at Afon Mawddach, ac yna dilynwch lwybr gwastad ar hyd Afon Eden yn ôl i’r maes parcio.
Ar ôl ichi ddringo at esgair Cefndeudwr, byddwch yn dod yn ôl i lawr ar ffyrdd coedwig at Afon Mawddach, gan deithio i lawr yr afon.
Dringwch y bryn nesaf, ar hyd ymyl y gors gopr, ac yna ewch i lawr eto ar hyd llwybr troed nes cyrraedd dyffryn Afon Wen.
Yna, mae’r llwybr yn dringo heibio’r Ceunant Hyll a’i nant fyrlymol.
Wrth ichi ddilyn ymyl ddwyreiniol eithaf parc y goedwig, gallwch fwynhau rhai golygfeydd annisgwyl.
Yna, ewch yn ôl i lawr at Afon Wen, gan deithio ar hyd llecyn byr o ffordd darmac.
Cewch gyfle i ddal eich gwynt wrth ichi ddilyn llawr y dyffryn rownd pen y bryn ac yn ôl at Afon Mawddach.
Mae yna un brath terfynol i’w gael ar ôl Ty’n y Groes: sef dringo’n ôl dros esgair Cefndeudwr ac i’r maes parcio.
Rywle allan yn y goedwig, rydyn ni wedi cuddio 11 blwch o drysor.
Eich her yw dod o hyd iddyn nhw trwy ddefnyddio’r map, GPS a’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Gallwch chwilio am y celciau mewn unrhyw drefn ond rydyn ni’n argymell eich bod chi’n eu dilyn yn ôl eu rhifau yn ein taflen.
Sylwer:
I ddechrau:
Rhowch brawf ar eich sgiliau darllen mapiau trwy ddod o hyd i’ch ffordd rhwng pyst marcio pren ar gwrs cyfeiriannu trwy Barc Coed y Brenin.
Mae’r pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yn cychwyn ac yn gorffen wrth y maes parcio.
Cawsant eu cynllunio gan Gyfeirianwyr Canolbarth Cymru ac maent wedi’u graddio’n ôl safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain.
I gychwyn, lawrlwythwch y mapiau ar waelod y dudalen hon neu prynwch fap A3 gwrth-ddŵr (graddfa 1:7,500) yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl ichi gyrraedd.
Mae modd cwblhau’r holl gwrs ar lwybrau da.
Mae’r cwrs hwn yn anos na’r cwrs melyn.
Mae ganddo byst marcio ar, neu wrth ymyl, nodweddion llinell yn ogystal â llwybrau, ac mae’n caniatáu ichi feithrin eich sgiliau llywio.
Mae’r cwrs coch yn gymedrol o ran ei ofynion llywio ac mae’n cynnwys dewis o lwybrau.
Bydd angen ichi ddefnyddio nodweddion llinell ac eithrio llwybrau (er enghraifft, waliau) fel “canllaw”.
Bydd angen ichi fentro rhywfaint oddi wrth nodweddion llinell mewn man neu ddau.
Mae gofynion y cwrs hwn o ran llywio yn anos na’r cwrs coch a cheir dewis o lwybrau.
Mae rhai o’r pyst marcio ar nodweddion pwynt sydd beth pellter oddi wrth unrhyw nodweddion llinell.
Mae’r mannau chwarae wedi’u lleoli wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr ac maent wedi’u rhannu’n dri man sy’n addas i blant o wahanol oedran.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Mae’r ardal chwarae rhydd yn defnyddio nodweddion naturiol megis cerrig camu, boncyffion, brigau i adeiladu cuddfan, coed ffrwythau a nant fechan.
Mae gan yr ardal chwarae isaf amrywiaeth o offer chwarae hygyrch ac mae’r tir wedi’i orchuddio gan arwyneb meddal.
Mae’r graig sy’n cylchdroi’n cynnig cyfle chwarae naturiol. Mae’n ysgogol, yn ysgafn ac yn hwylus gan nad oes angen llawer o gryfder yn y breichiau i’w symud.
Mae’r siglen nyth adar yn hawdd ei defnyddio ac yn ddiogel i blant sy’n ei chael hi’n anodd eistedd i fyny neu ddefnyddio siglenni arferol.
Mae’r offer “si-so” yn ddyluniad cynhwysol sy’n bodloni anghenion llawer o blant, yn arbennig ddefnyddwyr cadair olwyn gan fod ganddo ramp i fynd arno ac oddi arno ac mae’n rhoi gwefr arwyneb newidiol.
Yn y caffi sydd wedi’i leoli yn y ganolfan ymwelwyr, ceir golygfeydd o’r dyffryn a pharc y goedwig.
Gallwch eistedd dan do neu yn yr awyr agored ar falconi mawr.
Mae’r caffi’n cynnig diodydd poeth ac oer a byrbrydau.
Caiff cŵn ar dennyn byr eu croesawu yn y caffi.
Mae cyfleusterau cynadledda Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin yn addas i amrywiaeth o gyfarfodydd busnes, digwyddiadau a gweithgareddau.
Dysgu mwy am gyfleusterau cynadledda Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Mae siop Beics Brenin wedi’i lleoli ar lefel isaf Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Mae Beics Brenin yn cynnig:
I gael mwy o wybodaeth a manylion am yr amseroedd agor, ewch i wefan Beics Brenin.
Y prif feysydd parcio sydd â chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yw:
Mae Parc Coed y Brenin wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Mae’r cyfleusterau a geir yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:
Mae yna hefyd lwybrau hygyrch o’r tri maes parcio hyn ym Mharc Coedwig Coed y Brenin:
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor isod.
Mae'r parc coedwig a'r llwybrau ar agor trwy’r flwyddyn.
Mae'r ganolfan ymwelwyr, toiledau, cawodydd, y siop a'r caffi ar agor Dydd Llun i Ddydd Sul 11yb tan 3yp.
Maent ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mewn tywydd eithafol fel eira, rhew neu wyntoedd cryfion:
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin 8 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.
Ceir arwyddion ar gyfer y ganolfan ymwelwyr ar yr A470.
O Ddolgellau, ewch ar hyd yr A470 i gyfeiriad Porthmadog.
Ewch trwy bentref Ganllwyd, ewch yn eich blaen am 1½ milltir, ac mae mynedfa’r ganolfan ymwelwyr ar y dde.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 723 268 (Explorer Map OL 18).
Y cod post yw LL40 2HZ. Dilynwch yr arwyddion i’r ganolfan ymwelwyr – peidiwch â mynd ar hyd y lôn dim ffordd drwodd.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsafoedd rheilffyrdd agosaf yw Abermaw (rheilffordd Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (rheilffordd Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Bydd gwasanaethau bysiau o Ddolgellau a Blaenau Ffestiniog yn stopio ar gais wrth fynedfa’r ffordd sy’n arwain at y ganolfan ymwelwyr ar yn A470.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Codir tâl arnoch ar sail yr amser y byddwch yn parcio yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin.
Byddwch yn talu’r costau parcio pan fyddwch yn barod i adael.
Y costau yw:
Talwch gyda cherdyn neu daliad digyswllt ger rhwystr awtomatig yr allanfa wrth adael y maes parcio.
Neu rhowch rif cofrestru eich cerbyd yn un o’r peiriannau yn y maes parcio a thalwch gydag arian parod, cerdyn neu daliad digyswllt – bydd y rhwystr yn codi’n awtomatig wrth i chi yrru o’r maes parcio.
Sylwch fod y peiriant ger rhwystr awtomatig yr allanfa yn derb0yn taliadau cerdyn neu ddigyswllt yn unig.
Mae tocyn blynyddol ar werth yn nerbynfa’r ganolfan ymwelwyr.
Cewch barcio am ddim os ydych yn byw yn ardaloedd cod post LL40 neu LL41 neu ym mhentrefi cyfagos Arthog, Cutiau, Cardeon, Corris a Thal-y-Llyn.
Ewch â llyfr lòg eich car (dogfen V5) at ddesg groeso’r ganolfan ymwelwyr er mwyn cofrestru i barcio am ddim.
Cewch barcio am ddim os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas.
Wrth adael y maes parcio, sganiwch eich Bathodyn Glas wrth y rhwystr ymadael a bydd y rhwystr yn codi.
Gallwch barcio eich beic am ddim yn y rhesel feiciau o flaen Beics Brenin (y siop feiciau ar y safle).
Mae 16 o bwyntiau gwefru am ddim ar gyfer beiciau trydan wedi cael eu gosod y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr.
Mae'r gwefrwyr yn rhai 13 amp gyda socedi sy’n gwrthsefyll y tywydd.
Mae cloeon ar gyfer beiciau ar gael yn Beics Brenin.
coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, Dolgefeiliau, Dolgellau LL40 2HZ