Hygyrchedd gwefannau eraill CNC
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cyfoethnaturiol.cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i bawb allu cael mynediad i'n gwefannau. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydyn ni’n ceisio gwneud testun y wefan yn hawdd i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Rydyn ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwefannau hyn yn gwbl hygyrch, er enghraifft:
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi o un o’n gwefannau mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rydyn ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwefannau. Os byddwch chi’n dod ar draws problemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen neu os nad ydych chi’n meddwl ein bod ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch Dîm Digidol CNC digidol@naturalresourceswales.gov.uk
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cefnogi a Chynghori ar Gydraddoldeb
Rydyn ni’n ymwybodol o'r problemau canlynol gyda'r dolenni ar ein safle:
Rydyn ni’n cynnal archwiliadau rheolaidd o unrhyw ddolenni sydd newydd dorri ar ein tudalennau gwe, ac yn eu trwsio cyn gynted ag y cânt eu nodi.
Ni fyddwn yn trwsio dolenni sydd wedi torri mewn dogfennau a gyhoeddwyd cyn Medi 2018, os nad yw'n hanfodol i ddefnyddiwr gael mynediad at wasanaeth.
Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein dolenni’n bodloni safonau hygyrchedd.
Nid yw mapiau sydd wedi eu mewnblannu i’n gwefan yn hygyrch.
Mae’r rhestr o leoedd i ymweld â nhw yn ddewis amgen hygyrch yn lle’r map diwrnodau allan.
Nid yw papurau a chofnodion cyfarfodydd a fforymau Bwrdd CNC a gyhoeddwyd cyn Medi 2020 yn hygyrch gan nad ydyn nhw wedi eu tagio'n iawn.
Bydd unrhyw bapurau a chofnodion bwrdd newydd o fis Medi 2020 mor hygyrch â phosibl.
Nid yw rhai adroddiadau a dogfennau technegol a gyhoeddwyd ar ôl Medi 2018 yn ddogfennau hygyrch, a gallant gynnwys:
Rydyn ni wedi ceisio gwneud dogfennau ymchwil ac adroddiadau o fis Medi 2019 mor hygyrch â phosibl.
Rydyn ni’n defnyddio cynnyrch o'r enw Hotjar i'n helpu ni i gasglu adborth gan bobl am eu profiad o ddefnyddio ein gwefan. Dim ond os ydych yn defnyddio llygoden i glicio arno y mae’n hygyrch. Rydyn ni wedi gofyn i'r cyflenwr ddatrys y problemau.
Os na allwch ddefnyddio ein botwm 'Adborth', defnyddiwch ein ffurflen adborth amgen i ddweud wrthyn ni am eich profiad.
Mae rhai o'r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio ar-lein gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnal ar wefannau ar wahân i’r prif safle, cyfoethnaturiol.cymru.
Mae'r crynodeb o statws hygyrchedd gwefannau eraill CNC yn esbonio statws hygyrchedd presennol gwefannau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rydyn ni wedi blaenoriaethu’r gwaith o adolygu a datrys problemau hygyrchedd ar ein gwefannau sydd â’r nifer uchaf o bobl yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol.
Bydd gwelliannau'n rhan o'n map trywydd gwaith yn y dyfodol.
Nid ydyn ni’n bwriadu trwsio’r canlynol, gan eu bod wedi eu heithrio yn y rheoliadau
Nid yw'r rhan fwyaf o'n PDFs hŷn, ffeiliau Excel a dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydyn nhw wedi eu strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 a maen prawf llwyddiant 4.1.2.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Felly, nid ydym yn bwriadu datrys y wybodaeth ganlynol os cafodd ei chyhoeddi cyn 23 Medi 2018:
Mae ein 'chwiliad safleoedd dynodedig' yn cynnwys dros 10,000 o ddogfennau hanesyddol. Gall rhai ohonyn nhw fod wedi'u heithrio o'r rheoliadau (e.e mapiau), ond gellir ystyried rhai ohonyn nhw fel canllawiau. Byddai'n cymryd cryn dipyn o amser ac arian i adolygu a mynd i'r afael â'r rhain yn llawn, felly, rydyn ni wedi asesu y byddai hyn yn faich anghymesur ar hyn o bryd.
Bydd unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir gennym mor hygyrch â phosibl.
Rydyn ni wrthi'n ceisio gwella hygyrchedd ein gwefan.
Dyma rai o'r meysydd rydyn ni’n canolbwyntio arnyn nhw dros y 12 mis nesaf i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch.
Byddwn yn diweddaru ein rhestr o bethau rydyn ni wedi eu gwneud i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch a bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 22 Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mehefin 2020. Cynhaliwyd profion gan Zoonou ac mae profwyr mewnol yn parhau i gynnal profion wrth i ni symud ymlaen gyda gwaith i ddatrys problemau a nodwyd.
Defnyddiodd y profwyr sampl gynrychioliadol o'r gwefannau fel y'u diffinnir gan Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth â Hygyrchedd Gwefannau.
Profodd ein partner prawf y safle hwn drwy adolygu URLau cynrychioliadol o'r holl dempledi yn ogystal â darparu canlyniadau sgan o'r safle cyfan i adrodd am broblemau y gellid eu canfod drwy awtomeiddio.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio SiteMorse i redeg sganiau awtomataidd o ddolenni wedi torri a thestun amgen coll ar gyfer problemau delweddau yn rheolaidd.