Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Ar un cyfnod, mwyngloddio plwm a sinc oedd y prif weithgarwch ym Mharc Coedwig Gwydir, sydd bellach wedi’i leoli yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r diwydiant bellach wedi hen ddiflannu, ond mae adfeilion amryw o’r gweithfeydd wedi’u hadfer yn rhannol a’u gwneud yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr.
Gallwch gerdded trwy rai o hen waith plwm Cyffty ar y llwybr byr hwn.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dychmygwch seiniau a gweithgaredd y diwydiant oedd unwaith yn ffynnu yma.
Cerddwch dros y siafft cloddfa dan orchudd ym mhen pellaf y llwybr ac edrych i lawr rhwng eich traed i’r tywyllwch.
Mae nifer o baneli dehongli.
Mae Mwynglawdd Cyffty ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae Mwynglawdd Cyffty 2½ milltir i’r gogledd-orllewin o Llanrwst.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Mwynglawdd Cyffty ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 772 589 (man dechrau’r llwybr).
Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.
Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.
Ewch heibio i faes parcio’r Sawbench, parhewch heibio i faes parcio Hafna a maes parcio Llyn Sarnau, a bydd maes parcio Mwynglawdd Cyffty ar y chwith i chi.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.