Croeso
Mae Pandy ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.
Y maes parcio yw man cychwyn llwybr cerdded cylchol drwy ardd y goedwig.
Mae llwybr hygyrch byrrach trwy ran isaf yr ardd goedwig yn cychwyn o faes parcio Gardd y Goedwig.
Llwybr cerdded
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Llwybr Darganfod Gardd y Goedwig
- Gradd: Hawdd
- Pellter: ½ milltir 0.6 cilomeder
- Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst gwyrdd o faes parcio Pandy i’r bont dros Afon Babi. Croesir yr ardd blith draphlith â chyfres o lwybrau ffurfiol ac anffurfiol 1m o led, rhai’n serth ac anwastad. Nid oes dim grisiau na chamfeydd.
Dewch i weld coed o bob rhan o'r byd a darganfod ffeithiau diddorol amdanynt yn yr ardd goedwig.
Ymwelwch â’r olygfan ac yna ewch ling-di-long ar hyd cyfres o lwybrau anffurfiol
Cadw llygad am y pyst gwybodaeth am y coed a’r offer weindio gyda straeon sain chwedloniaeth.
Parc Coedwig Coed y Brenin
Y prif feysydd parcio sydd â chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yw:
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Pandy wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Ymweld yn ddiogel
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gwybodaeth hygyrchedd
Mae yna hefyd lwybr hygyrch byrrach trwy ran isaf yr ardd goedwig.
Mae llwybr hygyrch yn cychwyn o faes parcio Gardd y Goedwig (mae'r maes parcio bach hwn at ddefnydd deiliaid Bathodynnau Glas yn unig).
Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Trefnu digwyddiad ar ein tir
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Sut i gyrraedd yma
Mae maes parcio Pandy 6½ milltir i’r gogledd o Ddolgellau.
Cod post
Y cod post yw LL40 2NL.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cyfarwyddiadau
Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau tuag at Borthmadog.
Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.
Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr.
Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw.
Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf, croeswch bont fechan ac ewch heibio maes parcio Pont Llam yr Ewig.
Parhewch heibio maes parcio Gardd y Goedwig (ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas yn unig) ac mae maes parcio Pandy tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.
What3Words
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Arolwg Ordnans
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 744 224 (Explorer Map OL 18).
Cludiant cyhoeddus
Y prif orsafoedd rheilffordd agosaf yw y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Parcio
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Manylion cyswllt
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
01341 440747
coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk