Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae coed Nant Gwernol ar gyrion pentref Abergynolwyn.
Mae wedi’i enwi ar ôl rhaeadrau byrlymus y ceunant creigiog. Mae’r llwybrau ag arwyddbyst yn dilyn glan yr afon ac yn mynd heibio olion chwarel lechi Bryn Eglwys.
Mae pob llwybr yn cychwyn yng ngorsaf Nant Gwernol ond gallwch barcio ym mhentref Abergynolwyn neu yng ngorsaf Abergynolwyn.
Mae arwyddbyst ar bob un o’r llwybrau cerdded ac maen nhw’n cychwyn o orsaf Nant Gwernol.
Mae taflenni ar gael yng ngorsafoedd rheilffordd Tal-y-llyn ac yng nghanolfan gymunedol/ caffi Abergynolwyn.
Peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybrau – mae’r hen chwareli’n beryglus.
1 filltir, 1.7 cilometr (llwybr un ffordd), cymedrol
Mae Llwybr Cyswllt y Gorsafoedd yn llwybr llinol rhwng gorsaf Nant Gwernol a gorsaf Abergynolwyn – mae’n llwybr serth ar i fyny os ydych chi’n cychwyn yn Nant Gwernol ac yn llwybr serth ar i lawr os ydych chi’n cychwyn yn Abergynolwyn. Mae’r llwybr yn cynnig golygfeydd o’r mynyddoedd o’ch cwmpas ac inclein Allt Wyllt, rhan o’r hen chwarel. Cadwch lygad am y trenau pan fyddwch chi’n croesi croesfan y rheilffordd tua hanner ffordd ar hyd y llwybr hwn.
1 filltir, 1.6 cilometr, cymedrol
Mae Llwybr y Rhaeadr yn mynd ar i fyny, gan ddilyn glannau’r afon fyrlymus. Yna mae’n croesi pont bren i ymuno â’r hen dramffordd cyn mynd i lawr allt serth wrth ochr rhan o hen inclein Allt Wyllt yn ôl i orsaf Nant Gwernol.
3¼ milltir, 5.1 cilometr, anodd
Mae hon yn daith gerdded eithaf anodd â llethrau serth i fyny ac i lawr. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys golygfeydd da o Gader Idris, rhaeadrau ac adfeilion chwarel Bryn Eglwys.
Mae Coedwig Dyfi wedi’i lleoli i’r gogledd o afon Dyfi gan mwyaf, rhwng trefi Dolgellau tua’r gogledd a Machynlleth tua’r de.
Daw cribau creigiog y mynyddoedd i’r golwg uwchben y llethrau coediog, lle gwelir tomennydd llechi ac ambell adfail unig.
Mae’r trenau stêm yn pwffian mynd ar hyd y llethrau, ac er mai cario llechi o’r chwareli i’r arfordir oedd eu gwaith gwreiddiol, ymwelwyr sy’n cael eu cludo heddiw.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn y coetiroedd eraill yng Nghoedwig Dyfi:
Mae Coedwig Dyfi yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Sylwch:
Mae coed Nant Gwernol ar gyrion pentref Abergynolwyn sydd ar y B4405, i’r de o Ddolgellau.
Mae yn Sir Gwynedd.
O’r A487 tua’r gogledd, trowch i’r chwith i’r B4405 ar ôl pasio Corris gan ddilyn yr arwydd i Abergynolwyn neu Dywyn (i gyfeiriad rheilffordd Tal-y-llyn).
O’r A487 tua’r de, trowch i’r dde i’r B4405 ar ôl pasio tafarn Minffordd gan ddilyn yr arwydd i Abergynolwyn neu Dywyn (i gyfeiriad rheilffordd Tal-y-llyn).
Mae coed Nant Gwernol ar fap OL 23 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SH 681 067.
Mae’r tri llwybr yn cychwyn o orsaf Nant Gwernol ond nid oes lle parcio yng ngorsaf Nant Gwernol ei hun.
O Dywyn gallwch ddal trên stêm ar Reilffordd Tal-y-llyn i orsaf pentref Abergynolwyn neu i orsaf Nant Gwernol.
Mae’r orsaf reilffordd agosaf yn Nhywyn. I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000