Parc Coedwig Gwydir - Tŷ’n Llwyn, ger Betws-y-coed

Porth at y Rhaeadr Enwog Ewynnol

Beth sydd yma

Mae’r safle hwn a’r rhan fwyaf o’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ar agor - ceir rhagor o fanylion ar y dudalen we hon.

 

Mae’r olygfan ar gau.

 

Diweddariad coronafeirws

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau cenedlaethol o ddydd Llun 9 Tachwedd.

 

Maent yn berthnasol i bawb sy'n byw neu'n teithio yng Nghymru.

 

Mae ein safleoedd a mwyafrif ein cyfleusterau i ymwelwyr yn dal ar agor ond cynghorir pobl i osgoi teithiau nad ydynt yn hanfodol gymaint ag y bo modd.

 

Ymweld â'ch safle lleol yn ddiogel

 

Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.

 

Cofiwch wisgo mwgwd pan fyddwch yn mynd i mewn i un o’n hadeiladau.

 

Gallwch gofrestru drwy ap y GIG wrth fynd i mewn i un o'n hadeiladau – sganio'r cod QR ar boster Covid-19 y GIG ar y safle.

 

Trosolwg

Parc Coedwig Gwydir

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Ers Oes Fictoria, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi cerdded ar hyd y llwybrau coetir ac wedi pysgota yn nyfroedd clir yr afonydd yma.

Heddiw, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod y dirwedd hon o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd a dysgu am ei hanes mwyngloddio.

Ceir llwybr beicio mynydd hefyd (sydd wedi'i raddio'n goch gan ei fod ond yn addas i feicwyr medrus), gardd goedwig a llwybr cerdded ag arwyddbyst i Raeadr Ewynnol.

Hanes Coedwig Gwydir

Rhwng 1850 a 1919, gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal. Mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.  

Cafodd bron pob llyn yn y goedwig ei greu i wasanaethu'r mwyngloddiau.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Heddiw, wrth i chi ddarganfod bryncynnau, llynnoedd a phorfeydd coediog ucheldirol, bydd yn anodd i chi ddychmygu mai tirwedd ddiwydiannol adfeiledig oedd yr ardal hon ers talwm.

Ymweld â Pharc Coedwig Gwydir

Mae Parc Coedwig Gwydir yn cwmpasu ardal sy'n fwy na 72 cilomedr sgwâr (28 milltir sgwâr) ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-Coed.

Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o'r rhannau canlynol o Barc Coedwig Gwydir:

Llwybr y Marin, llwybr beicio mynydd gradd coch â dringfeydd mawr a disgyniadau trac unigol yn unig, yn dechrau o Fainc Lifio.

Tŷ’n Llwyn

Teulu ar fainc yn edrych ar yr olwgMae Tŷ’n Llwyn yn fan gwych i fwynhau picnic â golygfa wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.

Mae hefyd yn fan cychwyn llwybr cerdded drwy goetir i Raeadr Ewynnol.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Llwybr cerdded

Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.  

Llwybr Rhaeadr Ewynnol

2.5 milltir, 4 cilomedr

Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain i olygfan dros y rhaeadr enwog hon. Mae'n disgyn drwy goetir cyn cyrraedd golygfan lle ceir mainc. Yna mae'r llwybr yn ymdroelli i fyny drwy'r coed a brigiadau creigiog i olygfan arall â golygfa wych i lawr y dyffryn.

Gwybodaeth hygyrchedd

  • lleoedd parcio pwrpasol ar gyfer deiliaid bathodyn glas
  • llwybrau yn arwain o’r lleoedd parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas i’r byrddau picnic hygyrch, ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir golygfeydd hyfryd o’r byrddau picnic hygyrch

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae Tŷ’n Llwyn 3½ milltir i'r gorllewin o Fetws-y-Coed ar is-ffordd oddi ar yr A5.

Mae yn Sir Conwy.

Mae'r maes parcio am ddim.

Cyfarwyddiadau

O'r A5, ewch ar yr is-ffordd i mewn i'r goedwig o'r Tŷ Hyll.

Map Arolwg Ordnans

Mae Tŷ’n Llwyn ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 765 583.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf drên agosaf yw Betws-y-Coed.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru