Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Maes parcio bychan a safle picnic yw Pont Melin Fach mewn lleoliad prydferth ger hen bont garreg.
Mae’r llwybr o fan hyn yn mynd heibio pedair rhaeadr ac mae yn gyflwyniad arbennig i Fro’r Sgydau.
Mae’r tir cysgodol, llaith yn llawn mwsoglau, llysiau’r afu a chennau sy’n dibynnu ar y lleithder y mae’r coed a’r rhaeadr yn eu creu.
Nid yw'r maes parcio ar agor drwy gydol y flwyddyn - gweler y wybodaeth am oriau agor ar y dudalen we hon.
Mae Bro’r Sgydau yn dirwedd ysblennydd ond mae damweiniau difrifol yn digwydd yma i ymwelwyr a chafwyd pump o farwolaethau mewn dwy flynedd yn unig.
Rydych chi mewn perygl o ddioddef anafiadau a all newid bywyd neu o gael eich lladd os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i’r dŵr.
Peidiwch â chael eich temtio i neidio i bwll dŵr neu i gerdded i mewn i afon i nofio gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gryf a cheir creigiau llithrig, cerhyntau cryfion a pheryglon cudd.
Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded ceunentydd neu hafnau a sgramblo oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant neu oni bai eich bod yn cael eich goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
Gwisgwch esgidiau cerdded, byddwch yn eithriadol o ofalus yn yml dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo gan eu bod yn cynnig y ffordd fwyaf diogel – mae mentro y tu hwnt i’r llwybr sydd wedi’i arwyddo yn hynod o beryglus.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Llwybr Elidir yn mynd i lawr yr afon o'r maes parcio, gan ddilyn Afon Nedd Fechan.
Mae’r sgwd cyntaf, sef Sgwd Ddwli Uchaf, sydd tua 15 munud i ffordd ar hyd y llwybr.
Dilynwch arwyddbyst y gwyriad i Sgwd Gwladus. Gallwch droi o gwmpas yno neu barhau i lawr i Bontneddfechan.
Tu hwnt Sgwd Gwladus, mae’r llwybr yn gymharol wastad am ei fod yn dilyn trac hen dramffordd geffylau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i gludio dramiau yn llawn cerrig silica i lawr i’r gwaith brics ger Camlas Nedd. Heddiw gallwch weld rhai o fynedfeydd y pyllau o hyd.
Mae Pont Melin Fach mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.
Does yna unlle arall yng Nghymru gyda’r fath gyfoeth ac amrywiaeth o raeadrau mewn ardal mor fach. Yma, yn yr ardal a elwir yn Fro’r Sgydau, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin, Nedd Fechan a Sychryd yn ymdroelli i lawr ceunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.
P’un a ydych yn chwilio am antur am ddiwrnod cyfan neu dro am awr yn unig, dylech allu dod o hyd i lwybr addas i chi.
Lleolir Bro’r Sgydau yn bennaf o fewn coetir a reolir ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gyda’n gilydd, rydym yn rheoli’r llwybrau ac yn eich helpu chi i archwilio a mwynhau’r ardal unigryw hon.
Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Pont Melin Fach 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lyn-nedd.
Mae coedwigoedd Bro’r Sgydau yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys, Castell-nedd Port Talbot a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae Pont Melin Fach ar fap Explorer OL 12 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 908 105.
Cymerwch y B4242 o Lyn-nedd i Bontneddfechan.
Trowch i'r chwith tuag at Ystradfellte a dilynwch y ffordd hon am ddau gilometr.
Trowch i'r chwith a dilyn ffordd ‘dim ffordd drwodd’ (sy’n ‘anaddas i fysiau’).
Dilynwch y ffordd gul hon (lle mae mannau pasio yn brin) am un cilometr ac mae maes parcio Pont Melin Fach ar y chwith wedi i chi groesi'r bont garreg.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Castell-nedd.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Mae’r maes parcio ar gau rhwng o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Medi bob blwyddyn.
I gyrraedd Pont Melin Fach rhaid teithio ar hyd ffordd fach gul gydag ychydig iawn o leoedd pasio ac mae'r maes parcio'n rhy fach i ymdopi â nifer yr ymwelwyr sydd am ei ddefnyddio.
Felly, rydym wedi cytuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gau maes parcio Pont Melin Fach o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Medi bob blwyddyn.
Mae rhwystr wrth fynedfa'r maes parcio ac arwydd yn nodi "maes parcio ar gau" lle mae'r ffordd fechan i Bont Melin Fach yn gadael Ffordd Ystradfellte.
Peidiwch â cheisio gyrru i faes parcio Pont Melin Fach pan fydd ar gau.
I ddod o hyd i leoedd eraill i ymweld â nhw yng Ngwlad y Sgydau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.