Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Bydd y maes parcio uchaf ar gau o 17 Ebrill er mwyn caniatáu’r gwaith o adnewyddu’r ardal chwarae. Bydd y maes parcio gwaelod yn parhau i fod yn agored yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd lleoedd parcio yn gyfyngedig. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn dechrau mis Mehefin.
Mae dewis o ddau lwybr cerdded o'r maes parcio Whitestone ond mae dau ohonynt yn mynd heibio i dri golygfan hanesyddol, sy’n edrych dros geunant ac afon ddramatig Gwy.
Ysgrifennodd y bardd Wordsworth “Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey” ger yr olygfan uchaf.
Mae ambell fainc bicnic wrth ochr y maes parcio uchaf.
Mae Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy, llwybr pellter hir, yn mynd drwy Whitestone.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Rhyfeddodau Whitestone yn cynnwys tair golygfan sy’n edrych dros Dyffryn Gwy.
Mae’r llwybr cylchol hwn yn dychwelyd drwy gymysgedd hyfryd o goetiroedd.
Mae rhan gyntaf y llwybr yn mynd â chi heibio i dair golygfan ar hyd Llwybr Rhyfeddodau Whitestone.
Yna mae’n parhau ar hyd Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy, trwy lôn o goed pinwydd yr Alban, i olygfan Duchess Ride.
Mae’r fainc yma yn lleoliad gwych ar gyfer cael picnic cyn i chi ddychwelyd yn ôl i faes parcio Whitestone.
Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn mynd drwy Whitestone.
Aiff y llwybr cerdded 136 milltir hir hwn ar hyd afon Gwy rhwng Cas-gwent a Choedwig Hafren.
Gallwch ymuno â'r llwybr o faes parcio.
Am fwy o wybodaeth am Lwybr Dyffryn Gwy ewch i wefan Lwybr Dyffryn Gwy.
Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r coetiroedd harddaf ym Mhrydain.
Mae’r golygfeydd naturiol ysblennydd yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.
Mae golygfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros geunant ac afon Gwy, tuag at Fôr Hafren a Phontydd Hafren.
Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn; clychau'r gog yn y gwanwyn, dail iraidd yr haf, lliwiau llachar yr hydref, a harddwch silwetau’r coed yn y gaeaf.
Mae yna lwybrau cerdded mewn tair o'n coetiroedd Dyffryn Gwy eraill - Coed Manor, Coed Wyndcliff a Golygfa Ban.
Lleolir y Coetiroedd Dyffryn Gwy yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.
Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig rhyngwladol bwysig sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o Afon Gwy a gydnabyddir am ei golygfeydd trawiadol o’r ceunant, coetiroedd yr hafnau a thir fferm.
Dysgwch fwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy
Mae Coetiroedd Dyffryn Gwy yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Whitestone 10 milltir i'r gogledd o Gas-gwent.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae Whitestone ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 14.
Cyfeirnod grid yr AO yw SO 525 029.
Dilynwch ffordd A466 o Gas-gwent i gyfeiriad Tyndyrn.
Dilynwch yr arwyddion am Catbrook ar y cyffordd ger Gwesty’r Wye Valley, Tyndyrn.
Ar ôl 1½ milltir, byddwch yn cyrraedd cyffordd ac mae'r maes parcio isaf gyferbyn.
Mae'r maes parcio uchaf mwyaf trwy'r atalfa ac ar hyd ffordd y goedwig.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cas-gwent.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Mae dau faes parcio yma.
Rydych yn mynd i mewn i’r maes parcio isaf yn union ar ôl yr arwydd mynediad.
Er mwyn cyrraedd y maes parcio uchaf sy’n fwy, gyrrwch drwy’r rhwystr ym mhen uchaf y maes parcio isaf ac ar hyd ffordd y goedwig.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.