Blaen y Glyn, ger Aberhonddu
Dau faes parcio gyda llwybr cerdded byr at raeadr
Maes parcio Golygfan y Bannau yw'r man cychwyn ar gyfer dwy daith gerdded trwy goetir heddychlon Beacon Hill.
Mae'r ddwy daith yn arwain trwy ardaloedd o rostir sy’n ail-adfer - cafodd y mannau agored hyn eu clirio o goed pinwydd er mwyn i'r grug ddychwelyd.
Mae gwylfannau ar hyd y ffordd lle gallwch fwynhau golygfeydd eang dros Ddyffryn Gwy a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Ceir dychweliad tirwedd hynafol ar y daith gerdded hamddenol hon i ardaloedd rhostir sy’n cael eu hadfer.
Mwynhewch y golygfeydd o Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn yr olygfan.
Mwynhewch goetir a rhostir ar y daith gerdded gylchol hon, sy’n llwybr gwastad yn bennaf.
Mae'n mynd heibio'r olygfan ar Lwybr Ban ac yna'n dilyn rhan o Lwybr Dyffryn Gwy drwy rodfa o goed pinwydd yr Alban enfawr i olygfan Duchess Ride.
Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn mynd drwy goetir Beacon Hill.
Aiff y llwybr cerdded 136 milltir hir hwn ar hyd afon Gwy rhwng Cas-gwent a Choedwig Hafren.
Gallwch ymuno â'r llwybr o Daith Grwydr Duchess Ride - cadwch olwg am yr arwyddion.
Am fwy o wybodaeth am Lwybr Dyffryn Gwy ewch i wefan Lwybr Dyffryn Gwy.
Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r coetiroedd harddaf ym Mhrydain.
Mae’r golygfeydd naturiol ysblennydd yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.
Mae golygfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros geunant ac afon Gwy, tuag at Fôr Hafren a Phontydd Hafren.
Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn: clychau'r gog yn y gwanwyn, dail iraidd yr haf, lliwiau llachar yr hydref, a harddwch silwetau’r coed yn y gaeaf.
Mae yna lwybrau cerdded mewn tair o'n coetiroedd Dyffryn Gwy eraill - Coed Manor, Coed Wyndcliff a Whitestone.
Lleolir y Coetiroedd Dyffryn Gwy yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.
Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig rhyngwladol bwysig sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o Afon Gwy a gydnabyddir am ei golygfeydd trawiadol o’r ceunant, coetiroedd yr hafnau a thir fferm.
Dysgwch fwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy
Mae Coetiroedd Dyffryn Gwy yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Golygfan y Bannau yn 6 milltir i'r de o Drefynwy.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae Golygfan y Bannau ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer OL 14.
Cyfeirnod grid yr OS yw SO 510 053.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cas-gwent.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.