Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae rhaeadr Blaen y Glyn yng Nghoedwig Talybont ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o ddau o'n meysydd parcio, sef Blaen y Glyn Isaf a Blaen y Glyn Uchaf.
Mae mainc bicnic yn y ddau faes parcio.
Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o Flaen y Glyn Isaf neu Flaen y Glyn Uchaf.
Mae'r llwybr o'r maes parcio isaf yn fyrrach ac mae ganddo lai o esgyniad na'r llwybr o'r maes parcio uchaf.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Gallwch ymuno â llwybr pellter hir Ffordd y Bannau o'n maes parcio ym Mlaen y Glyn Uchaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Blaen y Glyn yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Blaen y Glyn yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae meysydd parcio Blaen y Glyn Isaf a Blaen y Glyn Uchaf 11½ milltir i'r de o Aberhonddu.
Mae yn Sir Powys.
Mae Blaen y Glyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.
Y cyfeirnod grid AO ar gyfer y meysydd parcio yw:
Cymerwch yr A40 o Aberhonddu tuag at y Fenni.
Ar ôl 5 milltir, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd tuag at Dal-y-bont ar Wysg.
Wrth y gyffordd-T, trowch i'r dde tuag at Bencelli.
Yn y pentref, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion tuag at Gronfa Ddŵr Tal-y-bont.
Ewch yn eich blaen am 5¼ milltir ac mae maes parcio Blaen y Glyn Isaf ychydig ar ôl pont garreg ar y dde.
Ar gyfer maes parcio Blaen y Glyn Uchaf ewch ymlaen am ¾ milltir arall ac mae'r maes parcio ar y dde.
Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Merthyr Tudfil.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.