Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni
Coetir bychan gydag amrywiaeth mawr a llwybr bordiau...
Lle gwych i wylio adar o guddfannnau gwylio a llwyfannau
Bydd y maes parcio ar gau nes yr hysbysir yn wahanol o 28 Rhagfyr 2020.
Gweithredir y maes parcio, y ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r toiledau gan yr RSPB – ewch i wefan yr RSPB i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleusterau ymwelwyr.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Yn swatio rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, mae un o’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol mwyaf diweddar a mwyaf nodedig yng Nghymru.
Rhan o ardal dawel Lefelau Gwent yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd; mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd tir isel, yn cynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a lagŵnau heli.
Y cyfuniad yma o nodweddion arbennig sy’n gwneud y warchodfa hon yn un o’r lleoliadau gorau yn y wlad i wylio adar, ac mae’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn caniatáu i chi wneud y gorau o’r profiad.
Ceir rhwydwaith saith cilomedr o lwybrau wedi eu hail-wynebu yn ardal corsleoedd Aber-wysg.
Mae gan bump o’r gwelyau cors sgriniau gwylio â golygfeydd ar draws sianeli’r dyfnddwr.
Mae gan un o’r gwelyau cors blatfform gwylio wedi’i godi ac mae gan un guddfan wylio adar wedi’i chodi.
Mae pontŵn sy’n arnofio yn llunio llwybr uniongyrchol at oleudy Dwyrain Wysg sydd dros 120 oed.
Sylwer: croesawir cŵn ar dennyn byr ar y Lonydd Gwyrdd a Rhodfa’r Arfordir yn unig.
Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau cerdded.
1 milltir/1.6 cilomedr, hygyrch
Yn hwyr yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf, chwiliwch am degeirianau.
1 milltir/1.5 cilomedr, hygyrch
Llwybr drwy’r gwelyau cyrs, dros y bont sy’n arnofio a heibio’r goleudy.
1½ miles/2.3 cilomedr, hygyrch
Mynd drwy wahanol gynefinoedd megis gwelyau cyrs a choedlannau a heibio dwr agored a’r aber.
3 milltir/4.5 cilomedr, hygyrch
Mae’n gyfuniad o’r llwybr tegeirianau, llwybr y goedlan a’r aber a rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
4m/6 cilomedr, hawdd
Mae uchafbwyntiau yn cynnwys goleudy Dwyrain Wysg, golygfeydd dros Aber Afon Hafren cyn belled ag Exmoor, cuddfan adar a lonydd gwyrdd (gall Fish-house Lane fod yn fwdlyd iawn yn y gaeaf neu ar ôl glaw trwm).
Mae croeso i gwn ar dennyn byr ar y daith gerdded hon, ond cofiwch lanhau ar ôl eich ci.
Mae Gwlyptir Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlypdiroedd Casnewydd.
Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych hefyd yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.
Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.
Clustfeiniwch am atsain ‘bwwwn’ aderyn y bwn yn y gwelyau cyrs, ‘tincian’ y titwod barfog a gwichian rhegenod y dŵr. Mae’r telorion Cetti yma drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gwanwyn mae telorion y cyrs a’r hesg yn cyrraedd mewn niferoedd a’r gwrywod yn canu’n uchel yn y cyrs.
Yn yr haf, gallwch fwynhau blodau a phlanhigion y warchodfa yn eu holl ogoniant. Mae’r tegeirianau’n blodeuo ym mhobman, a chadwch olwg am y gardwenynen feinlais brin ymysg blodau’r pys bythol. Wrth gerdded draw at y lagŵnau heli, fe welwch gynefin cwbl wahanol. Hon yw’r unig fan yng Nghymru lle mae’r cambig – aderyn rhydiog, hirgoes a chanddo big nodedig sy’n crymu at i fyny – yn magu.
Yr hydref yw’r adeg orau yn y flwyddyn i wylio adar yng Ngwlyptir Casnewydd, gan mai dyna pryd mae’r adar gwylltion mudol a’r adar rhydiog yn dechrau cyrraedd.
Mae’r heidiau mwyaf o adar i’w gweld yn y gaeaf – cadwch olwg am y cudyllod bach a’r hebog tramor pan fo haid o gornchwiglod yn cael eu dychryn.
Partneriaeth yw Gwlyptir Casnewydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r RSPB.
Yr RSPB sy’n rheoli’r Ganolfan Addysg Amgylcheddol a’r Ganolfan Ymwelwyr, ac mae hi ar agor bob dydd o’r flwyddyn (heblaw dydd Nadolig), yn rhad ac am ddim.
Mae’r ganolfan yn cynnwys gofod ar gyfer gweithgareddau i grwpiau a theuluoedd, cyfleusterau cynadledda, siop fawr a siop goffi organig/Masnach Deg.
Mae ardal chwarae tu allan.
Mae’r RSPB yn trefnu digwyddiadau sy’n amrywio o ddiwrnodau hwyliog i deuluoedd i deithiau cerdded tywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd.
Mae llawer o’r digwyddiadau hyn yn boblogaidd iawn ac mae’n hanfodol archebu lle ar gyfer rhai ohonynt.
Ewch i wefan yr RSPB i gael rhaglen y digwyddiadau a manylion ar sut i archebu lle.
Mae’r holl lwybrau o gwmpas y gwelyau cyrs yn Aber Wysg yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae meinciau bob rhyw 200 metr.
Mae’r llwybrau’n wastad, gyda rhai llethrau esmwyth a ramp igam-ogam i ddringo’r pum metr i fyny at y gwelyau cyrs sydd ar lefel uwch.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r Ganolfan Addysg Amgylcheddol a’r Ganolfan Ymwelwyr, sy’n eiddo i’r RSPB, ar agor yn rhad ac am ddim o 9 y bore hyd 5 y prynhawn, saith diwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn (heblaw dydd Nadolig).
Mae’r maes parcio ar agor 9 y bore hyd 5 y prynhawn.
Lleolir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd bum milltir i’r de o Gasnewydd, oddi ar yr A48.
Mae’r safle hwn yn Sir Casnewydd.
Prisiau meysydd parcio £3. Bydd aelodau’r RSPB yn dal i allu parcio am ddim.
O Gyffordd 24 ar yr M4, cymerwch yr A48 i’r gorllewin, ac yna dilynwch yr arwyddion hwyaid brown i faes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd.
O Gyffordd 28 ar yr M4, cymerwch yr A48 i’r dwyrain, ac yna dilynwch yr arwyddion hwyaid brown.
Mae’r maes parcio ar ffordd Gorllewin yr As, ychydig cyn y fynedfa i Orsaf Bŵer Aber Wysg.
Mae gan Lwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans, Rhif 4, gangen sy’n cysylltu â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd gan ddefnyddio llwybrau beicio a ffyrdd tawel. Yn y maes parcio mae lle pwrpasol dan do i gadw beiciau a stand beiciau wrth fynedfa’r canolfan ymwelwyr.
Y cod post ar gyfer teclyn SAT NAV yw NP18 2BZ.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd ar fap Arolwg Ordnans (AR) 152.
Cyfeirnod grid yr OS yw ST 334 834.
Mae yna wasanaeth bws sy’n rhedeg yn ôl y galw i Wlypdiroedd Casnewydd.
Ffoniwch 01633 21120 i fwcio bws cyn 5pm ar y diwrnod cyn y byddwch yn dymuno teithio.
Mae’r orsaf drenau agosaf yng Nghasnewydd.
Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffôn: 0300 065 3000
Ebost ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
RSPB
01633 636363
Ebost: newport-wetlands@rspb.org.uk