Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni
Coetir bychan gyda llwybr bordiau hygyrch
Yr ardal fwyaf o goetir hynafol yng Nghymru
Rydym yn torri coed er mwyn cydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion a gyhoeddwyd ar gyfer coed llarwydd yn y goedwig. Mae’r llarwydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (clefyd llarwydd).
Bydd y goedwig yn dal ar agor, ond er diogelwch ymwelwyr fe gyfyngir ar y mannau y mae’r clefyd wedi effeithio arnynt.
Os ydych yn lleol ac yn dal i ymweld â'r coetir, dilynwch ein harwyddion ar gyfer gwyriadau a llwybrau sydd wedi cau.
Darllenwch fwy ar ein gwefan am pam mae angen i ni gwympo’r coed.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Ar un adeg roedd Coed Gwent yn faes hela i Gastell Cas-gwent ond erbyn hyn mae'n lle heddychlon i grwydro a mwynhau bod yng nghanol byd natur.
Mae'r goedwig yn cwmpasu dros 1000 hectar ac mae’n frith o nodweddion archeolegol, o lwybrau hynafol i olion hen felin.
Cafodd mwyafrif y coed brodorol gwreiddiol yma eu cwympo yng nghanol yr 20fed ganrif i greu lle i goed conwydd sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n cynhyrchu pren.
Rydym yn adfer Coed Gwent yn goetir llydanddail brodorol ac mae ein prosiect adfer coetiroedd hynafol wedi’i ardystio o dan fenter Canopi'r Gymanwlad y Frenhines.
Gallwch grwydro Coed Gwent ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl.
Mae panel croesawu yn y maes parcio sydd â map a gwybodaeth am yr hyn sydd i'w weld.
Mae yna hefyd arwyddbyst i helpu i'ch tywys ar hyd y llwybrau drwy'r goedwig.
Yn y gwanwyn mae’r llwybrau wedi’u hamgylchynu gan garpedi o glychau'r gog.
Ceisiwch sylwi ar nythod morgrug y coed - mae'r twmpathau hyn hyd at 4 troedfedd o ran uchder.
Mwynhewch gytgord yr adar yn canu ac efallai y gwelwch geirw neu hyd yn oed wiber.
Mae Coed Gwent 7 milltir i'r gorllewin o Gas-gwent.
Mae'r safle hwn yn pontio ffiniau sirol Casnewydd a Sir Fynwy.
O Gasnewydd, cymerwch yr A48 tuag at Gaer-went.
Ar ôl 6 ½ milltir, trowch i'r chwith i fynd ar y ffordd i Frynbuga, a nodir ag arwydd ar gyfer Llanfairisgoed (Llanfair Disgoed / Llanvair Discoed).
Ar ôl tua 3 milltir, ewch heibio cronfa ddŵr Coed Gwent ac mae maes parcio Foresters’ Oaks ar y chwith.
Ewch yn eich blaen am ¾ milltir arall, ac mae maes parcio Cadira Beeches ar y dde.
Mae Coed Gwent ar fapiau Arolwg Ordnans (OS) OL14 a 152.
Y cyfeirnod grid OS yw ST 422 948.
Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Cil-y-Coed.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ni chodir tâl i barcio yng Nghoed Gwent.