Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot
Man cychwyn ar gyfer tri o'n llwybrau beicio mynydd...
Bydd gwaith cynaeafu yn dechrau yng Nghoedwig Brechfa o 9 Mai 2023.
Bydd y llwybrau beicio mynydd canlynol yn cael eu dargyfeirio:
Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ac arwyddion dargyfeirio ar y safle.
Mae ein maes parcio wedi’i leoli ychydig y tu allan i bentref Abergorlech a dyma’r man cychwyn ar gyfer tri llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd yng Nghoedwig Brechfa.
Mae un o’r llwybrau cerdded yn mynd i ardd goedwig, lle plannodd staff y Comisiwn Coedwigaeth amrywiaeth o goed yn y 1950au hwyr i weld pa mor dda y bydden nhw’n tyfu.
Gorlech yw enw’r afon sy’n ymuno ag afon Cothi gerllaw. Mae cerrig o siapiau rhyfedd wedi’u canfod yn yr afon, ac mae enghreifftiau o ‘Gerrig Gorlech’ i’w gweld yng ngerddi ffrynt rhai bythynnod yn y pentrefi.
Mae safle picnic ac ardal chwarae i blant yn y maes parcio, a thoiledau symudol.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr mwy neu lai gwastad hwn drwy’r coed yn mynd ar hyd glan Afon Gorlech a thros bont cyn dychwelyd ar hyd y ffordd goedwigaeth.
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Afon Gorlech cyn dringo’n serth drwy amrywiaeth ddeniadol o goedydd.
Rhowch gynnig ar ein Taith Gardd y Goedwig i weld coed o bedwar ban byd – y coed coch mawr o Galiffornia, ewcalyptws o Awstralia; nothofagus o Dde America; pinwydd o bob cyfandir ac amrywiaeth o rywogaethau Ewropeaiddfel y dderw ddigoes, coed cnau Ffrengig a phyrwydd.
Yn hytrach na choeden neu ddwy o bob math o goeden, fe welwch glwstwr cyfan.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae’r llwybr hwn yn llwybr caled, cyflym, pob tywydd sy’n dod yn fwyfwy cyffrous wrth i chi wella lefel eich sgil a’ch cyflymdra.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys llwybrau arglawdd wedi eu llunio’n berffaith, neidiau, troadau siarp a phonciau pen-bwrdd.
Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.
Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.
Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.
Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.
Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren, ac yn fwy diweddar er mwyn cynhyrchu ynni gwynt.
Mae llwybrau cerdded a beicio mynydd o'r meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru eraill hyn yng Nghoedwig Brechfar:
Mae Coedwig Brechfa yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae toiledau symudol yn agored bob amser.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Abergorlech yn bentref bychan ar y B4310 i’r de o Lambed.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Abergorlech ar fap Arolwg Ordnans (AR) Explorer 186.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 586 337.
Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri, trowch ar y B4302 i gyfeiriad Llansawel.
O Lansawel dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.
Gallwch barcio yno am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.