Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais yn rhannu nifer o’i rhinweddau gyda Chors Crymlyn- sydd ychydig i’r gorllewin ac yn dipyn mwy o ran maint.
Mae’r gwelyau cyrs a hesg yn gynefin i ystod fawr o blanhigion cors, adar, a phryfed.
Y ffordd orau o grwydro’r warchodfa yw dilyn y llwybr pren tua chanol y gors.
Mae Camlas Tennant yn ffinio’r safle ac mae ei chloddiau’n gartref i gorryn mwyaf Prydain - corryn rafftio’r ffen - yn ogystal ag amrywiaeth o adar a gweision y neidr.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
O ben arall y llwybr pren, gallwch hefyd ddilyn y llwybr halio sy’n dilyn Camlas Tennant.
Gallwch ddilyn y llwybr hwn heibio’r ffen yr holl ffordd tuag at Abertawe neu Gastell-nedd.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ffinio’r safle hefyd.
Dysgwch fwy am y Llwybr Arfordir Cymru.
Yr haf yw’r adeg gorau i ymweld â Phant y Sais, pan fydd y warchodfa’n llawn o ganu adar.
Mae teloriaid y cyrs a’r hesg yn magu yma, yn ogystal â thelor Cetti, y troellwr bach, bras y cyrs, a rhegennod dŵr.
Ceir ambell i ymwelydd prinnach hefyd, megis aderyn y bwn, boda’r gwerni, a’r titw barfog- rhywogaethau sy’n tueddu i gael eu cysylltu â ffeniau Dwyrain Anglia.
Mae’r haf yn adeg dda i weld rhai o’r planhigion cors hefyd. Ymysg yr hesg a’r cyrs ceir blodau hardd, megis gellesg, pumnalen y gors, a’r llafnlys mawr.
Cadwch lygaid barcud am lwyni o redynen gyfrdwy- maent yn un o rinweddau pennaf Pant y Sais.
Er bod corryn mwyaf Prydain yn byw yma, corryn rafftio’r ffen, rydych yn fwy tebygol o weld gloÿnnod byw a gweision y neidr yn ystod eich ymweliad.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’r llwybr pren cylchog yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Nid yw’r llwybr halio ger Camlas Tennant yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae Pant y Sais wedi’i leoli ger y B4290 ym mhentref Jersey Marine.
Mae yn Sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais ar fap Arolwg Ordnans (AO) 165.
Cyfeirnod grid yr AO yw SS 712 940.
Dilynwch yr arwyddion o’r A483 tuag at bentref Jersey Marine a’r B4290.
Dilynwch y B4290 tua’r pentref, ac wedi i chi groesi pont y gamlas trowch i’r chwith ar Heol yr Ysgol. Mae parcio cyfyngedig ar y ffordd hon, felly byddwch yn ystyriol o eraill.
Yna cerddwch yn ôl tua’r B4290 gan anelu am y safle bws ac mae’r fynedfa i’r llwybr pren y tu ôl i reiling.
Gallwch hefyd gyrraedd y warchodfa trwy ddilyn llwybr halio Camlas Tennant. Gallwch gyrraedd y llwybr o’r bont ar y B4290 sy’n gyfagos i bentref Jersey Marine.
Mae safle bws gyferbyn â mynedfa’r warchodfa, gyda gwasanaeth cyson o Abertawe a Chastell-nedd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.