Parc Coedwig Afan – Rhyslyn, ger Port Talbot

Beth sydd yma

Cau a dargyfeirio llwybrau oherwydd gwaith torri coed

 

Bydd rhai o'n llwybrau'n cael eu dargyfeirio neu eu cau dros dro ym Mharc Coedwig Afan oherwydd ymgyrch fawr i dorri coed. Bydd gwybodaeth i’w gweld yn y meysydd parcio - a dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar hyd y llwybrau. Byddwch yn ymwybodol y bydd lorïau cludo pren o gwmpas, a dilynwch holl gyfarwyddiadau'r staff. Dysgwch pa lwybrau sy'n cael eu heffeithio a mwy o fanylion am y gwaith torri coed.

 

Newidiadau ychwanegol i lwybrau a chyfleusterau eraill i ymwelwyr

 

  • Llwybr White’s Level – ‘Energy’ – Nodweddion newydd ar y llwybr. Byddwch yn ymwybodol fod y rhan neidio wedi cael ei hailosod felly byddwch yn ofalus ar eich reid gyntaf.

Croeso

Mae Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan.

Mae o fewn pellter cerdded i bentref Pont-rhyd-y-fen.

Mae dau lwybr cerdded ag arwyddbyst yma. Mae'r llwybr haws yn mynd wrth ymyl yr afon ac mae'r llwybr hirach yn mynd ar hyd trac cefnffordd gyda golygfeydd o draphont Pont-rhyd-y-fen.

Mae'r ardal bicnic wrth ymyl y maes parcio.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Glan-yr-Afon Rhyslyn

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1 milltir/1.8 cilomedr
  • Amser: 45 muned

Dilynwch Afon Afan i fyny'r afon at olygfan a dychwelyd ar hyd trac rheilffordd mwyngloddio segur.

Mae hwn yn llwybr gwastad bron yr holl ffordd ar hyd llwybrau glan yr afon ac ar ffyrdd coedwig.

Cadwch lygad am feicwyr ar rannau o'r daith gerdded.

Llwybr Pen-rhys

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3½ milltir/5.7 cilomedr
  • Amser: 2 awr
  • Dringo: 600 troedfedd/180 metr

Mwynhewch olygfeydd panoramig ar hyd y gefnffordd hynafol a gysylltai eglwys Baglan ar yr arfordir â Chraig y Llyn i'r gogledd o Lyncorrwg.

Gallwch weld yr holl ffordd i Fannau Sir Gâr ar ddiwrnod clir.

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr y Wal

Gyda rhai o'r disgynfeydd trac sengl gorau yn y DU, mae'r llwybr hwn yn croesi ochr ogleddol Cwm Afan ar drac sengl.

Mae'n amrywio o fod yn gyflym ac agored i fod yn dynn, technegol a gwreiddiog.

Mae golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r arfordir yn ymddangos ar wahanol adegau, ac mewn mannau gall y llethrau serth deimlo'n agored.

Mae'r ffordd at y trac sengl yn rhannu adran â Llwybr Beicio Lefel Isel Rheilffordd a'r rheilffordd segur, felly cofiwch ystyried defnyddwyr eraill y goedwig wrth feicio.

Am daith hirach, cyfunwch â Llwybr White’s Level drwy un o’r cysylltiadau W2 - gweler Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Llwybr Man Geni Richard Burton

Mae maes parcio Rhyslyn o fewn pellter cerdded hawdd i bentref Pont-rhyd-y-fen lle ganwyd yr actor enwog Richard Burton.

Mae Llwybr Man Geni Richard Burton yn cychwyn o'r maes parcio ac yn mynd i Bont-rhyd-y-fen a'i fan geni.

Mae paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr gyda ffeithiau diddorol am ei blentyndod a'i yrfa.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Castell-nedd Port Talbot.

Parc Coedwig Afan

Mae Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan.

Mae Parc Coedwig Afan yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain ac yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded.

Mae'r parc coedwig wedi'i leoli yng Nghwm Afan ychydig filltiroedd o'r M4, lle arferai glo gael ei gloddio.

Gallwch ddarganfod rhai o nodweddion treftadaeth y dyffryn ar hyd ein llwybrau yn y parc coedwig.

Llwybrau eraill ym Mharc Coedwig Afan

Archwiliwch Barc Coedwig Afan o'r meysydd parcio yn y tri lle arall hyn:

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Afan yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae Rhyslyn 4 milltir i'r gogledd ddwyrain o Bort Talbot.

Mae yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Map Arolwg Ordnans

Mae Rhyslyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) 165 a 166.

Cyfeirnod grid yr AO yw SS 800 942.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 (Port Talbot) a dilynwch yr arwyddion i’r A4107 i gyfeiriad y Cymer.

Ar ôl 3¾ milltir trowch i'r chwith i’r B4287 i gyfeiriad Pont-rhyd-y-fen.

Yn syth ar ôl y bont trowch yn sydyn i'r dde (chwiliwch am yr arwydd brown a gwyn) ac mae'r maes parcio yn syth ymlaen.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Port Talbot.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Llwybr beicio Sustrans

Gallwch feicio i Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar lwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans 887.

Mae Llwybr 887 yn darparu cyswllt rhwng trefi Port Talbot, Cwmafan, a Phont-rhyd-y-fen ac yn parhau i Barc Coedwig Afan.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Llwybr y Wal PDF [5.7 MB]

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf