Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot
Man cychwyn ar gyfer tri o'n llwybrau beicio mynydd...
Mae rhannau o lwybrau marchogaeth Coedwig Crychan wedi’u dargyfeirio rhwng pyst 164 a 168. Dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau.
Un o’n meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw Brynffo.
Mae’n fan cychwyn ar gyfer llwybr cerdded gyda golygfeydd o’r mynyddoedd.
Ceir meinciau picnic o amgylch y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mwynhewch olygfeydd eang o Fynyddoedd Cambria tua’r gogledd, cyn gostwng i ddyffryn cysgodol Cwm Crychan.
Byddwch yn dilyn y llwybr ar bwys y nant, cyn dringo i fyny trwy’r coed yn ôl i’r maes parcio.
Mae maes parcio Brynffo wedi’i leoli yng Nghoedwig Crychan.
Lleolir Coedwig Crychan mewn cefn gwlad hardd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria, ac mae’n frith o hen lwybrau a arferai gysylltu’r ffermydd a geid yno ers talwm.
Yn y 1930au, aeth y Comisiwn Coedwigaeth ati i brynu’r ffermydd a’r tir a phlannu coed yma fel rhan o ymdrech y DU i ailgyflenwi stociau pren a oedd wedi edwino yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erys ambell annedd adfeiliedig, ac efallai y dewch ar eu traws yn ystod eich taith.
Mae’r goedwig yn cynnwys derw, ynn, ffawydd, coed cyll a chonwydd, ac mae’r lliwiau’n amrywio gan ddibynnu ar y tymor – o lesni cylchau’r gog yn y gwanwyn i arlliwiau euraid yr hydref.
Y dyddiau hyn, mae’r safle’n darparu pren gwerthfawr ac mae’n gartref i fywyd gwyllt amrywiol.
Mae gweilch Marthin, bwncathod a barcutiaid yn nythu yma, ac efallai y gwelwch gip ar iwrch.
Yn ogystal â’r llwybr cerdded sy’n arwain o Frynffo, ceir llwybrau cerdded sy’n arwain o dri maes parcio arall yng Nghoedwig Crychan, sef:
Maes parcio Halfway yw’r rhwyddaf i’w gyrraedd o blith y rhain ac fe’i lleolir oddi ar yr A40, ychydig filltiroedd o Lanymddyfri.
Lleolir meysydd parcio Brynffo, Fferm Cefn ac Esgair Fwyog ar is-ffyrdd oddi ar yr A483 rhwng Llanymddyfri a Llanfair-ym-Muallt.
Ceir mynediad agored ar gyfer marchogaeth ceffylau trwy Goedwig Crychan.
Ein meysydd parcio yng Nghoedwig Crychan yw’r man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau.
Mae yna hefyd lwybrau byr sy’n ymuno â Llwybr Epynt, llwybr ceffylau 50 milltir o hyd o amgylch terfynau ardal hyfforddiant milwrol Pontsenni.
Mae’r cyfleusterau ar gyfer marchogion yn ein meysydd parcio yn cynnwys corlannau a rheiliau rhwymo.
Mae meysydd parcio Halfway a Brynffo yn fwy addas ar gyfer bocsys ceffylau.
Ceir mynediad ar gyfer gyrwyr car a cheffyl ym maes parcio Brynffo.
I gael rhagor o wybodaeth am farchogaeth yng Nghoedwig Crychan, edrychwch ar wefan Cymdeithas Coedwig Crychan.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae maes parcio Brynffo 7½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Lanymddyfri.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae maes parcio Brynffo ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 848 409.
Cymerwch yr A483 o Lanymddyfri tuag at Lanfair-ym-Muallt.
Ar ôl 4½ milltir trowch i'r dde wrth yr arwydd brown a gwyn am Lwybrau Coedwig Crychan.
Dilynwch yr isffordd tuag at Dirabad ac ar ôl 3 filltir mae'r maes parcio Brynffo ar y dde.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.