Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin
Llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac...
Taith goetir gyda golygfeydd o aber
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coedwig Mynwar wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’n hawdd dod o hyd iddi oddi ar yr A40.
Mae Mynwar ger pen uchaf adran llanw Dwyrain Afon Cleddau - mae’r cylch llanw ‘n arwain at amrywiadau mawr mewn halwynedd dŵr sy’n darparu cynefin amrywiol i fywyd gwyllt.
Mae yna adar glan dŵr fel crëyr glas a hefyd mae’n le gwych i weld adar y coetir gan gynnwys y titwod cynffon-hir, cnocellau brith fwyaf a’r dringwyr bach.
Mae Mynwar ynghyd â Choedwig Canaston, sydd gerllaw, wedi bod yn goedwig drwchus ers canrifoedd - fe ddenodd yr argaeledd parod hwn o bren ddiwydiannau lleol i ymsefydlu yn yr ardal.
Roedd y diwydiannau hyn wedi dirywio erbyn y 19eg ganrif ac yn ystod yr 20fed ganrif, fe blannwyd coed conwydd yn y mannau hynny arferai fod yn goetir collddail.
Yn y gwanwyn, mae ymylon llwybrau’r goedwig yn wledd o flodau melyn llachar, llygad Ebrill a gwyn prydferth blodau’r gwynt ac mae clystyrau o glychau’r gog o dan y coed.
Ym misoedd yr Hydref, mae lliwiau llathredig y coed derw coch a’r ffawydd yn y coetiroedd yn olygfa ysblennydd.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r daith gerdded gylchol gydag arwyddion yn cychwyn o’r maes parcio ac yn arwain at yr olygfan sydd â mainc dros Aber Cleddau.
Ar hyd y llwybr mae yna ardal bicnic anffurfiol gyda meinciau pren wedi’u cerfio o foncyffion coed.
Saif Coedwig Mynwar ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Arfordir Penfro yw’r unig barc cenedlaethol hollol arfordirol ym Mhrydain, ac mae’n cynnwys 240 milltir sgwâr o dir godidog ar lannau de-orllewin Cymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae Coedwig Mynwar 8 milltir i’r dwyrain o Hwlffordd.
Mae yn Sir Benfro.
Mae Coedwig Mynwar ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 36.
Cyfeirnod grid yr AO yw SN 059 142.
Dilynwch ffordd A40 i’r dwyrain o Hwlffordd i gyfeiriad Sanclêr.
Ar ôl 7 milltir, trowch i’r dde ar gylchfan Pont Canaston, a dilyn ffordd A4075 i gyfeiriad Dinbych-y-pysgod.
Cymerwch y tro cyntaf ar y dde, gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown a gwyn i gyfeiriad Melin Blackpool.
Dilynwch y ffordd hon heibio’r felin ac mae’r maes parcio ar y dde.
Y prif orsaf/oedd rheilffyrdd agosaf yw Hwlffordd.
I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.