Coed y Parc, ger Abertawe

Beth sydd yma

Croeso

Mae coetir Coed y Parc wedi’i leoli yng Ngŵyr, naw milltir yn unig o Abertawe, ac ers talwm arferai fod yn barc ceirw canoloesol a oedd yn eiddo i’r Arglwyddi de Breos, sef Arglwyddi Gŵyr.

Mae nifer o safleoedd archaeolegol cenedlaethol bwysig i’w cael yma, yn cynnwys siambr gladdu Neolithig, ogofâu ac odynau calch.

Mae Coed y Parc yn cynnwys coed derw, coed ynn a choed conwydd ysblennydd, ac yn y fan hon y ceir rhai o’r planhigfeydd hynaf yn Ne Cymru (cafodd y derw, yr ynn a’r masarn eu plannu ym 1851).

Mae’r coetir yn gartref i fwncathod, cnocellau, delorion y cnau, ystlumod pedol lleiaf ac ystlumod pedol mwyaf, yn ogystal â thoreth o rywogaethau eraill.

Ymweld â Choed y Parc

Ceir panel croeso yn y maes parcio, ynghyd â map a gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld.

Dilynwch ffordd raeanog, lydan y goedwig i gyrraedd y nodweddion archaeolegol – mae gan bob un banel gwybodaeth gerllaw, gan gynnwys:

  • Mae archaeolegwyr wedi darganfod gweddillion hyd at 40 o ddynion, merched a phlant yn y Garnedd Hir.
  • Mae Ogof Cathole yn nodwedd naturiol yn y calchfaen ac mae ei mynedfa yn 15 metr o uchder.
  • Adeiladwyd yr odyn galch yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn cynhyrchu calch i wella’r tir ac i’w ddefnyddio mewn morter.

Mae’r safle picnic wrth fynedfa’r maes parcio a cheir mainc ar hyd ffordd y goedwig.

Bydd y rhwydwaith o lwybrau troed yn eich tywys trwy’r coetir, neu ymhellach pe baech yn dymuno mynd am dro hirach.

Llwybr Gŵyr

Mae Llwybr Gŵyr yn mynd trwy Goed y Parc – cadwch olwg am yr arwyddbyst.

Mae’r llwybr pellter mawr hwn yn 35 milltir (56 cilometr) o hyd, ac mae’n arwain o Rosili yn ne-orllewin Penrhyn Gŵyr hyd at Benlle’r Castell ar ucheldir y Mawr.

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Cymdeithas y Cerddwyr Pellter Mawr (Long Distance Walkers Association).

Canolfan Treftadaeth Gŵyr

Lleolir Canolfan Treftadaeth Gŵyr ar yr A4118, hanner milltir o Goed y Parc.

Mae’r amgueddfa bywyd gwledig hon wedi’i seilio ar felin ddŵr weithredol o’r ddeuddegfed ganrif, a cheir ystafell de yno.

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Canolfan Treftadaeth Gŵyr.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Marchogaeth

Mae angen caniatâd arnoch i farchogaeth yng Nghoed y Parc.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coed y Parc 9 milltir i'r gorllewin o Abertawe.

Cod post

Y cod post yw SA3 2HA.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar hyd yr A4118 o Abertawe i gyfeiriad Gŵyr a Phorth Einon.

Ewch trwy bentref Parkmill ac ar ôl ⅓ milltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn i Barc Le Breos.

Ewch ymlaen ar hyd yr isffordd hon am ½ milltir ac mae'r maes parcio ar y chwith.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SS 538 896 (Explorer Map 164).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Tregŵyr.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf