Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin
Llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac...
Dringfa serth i fyny bryn coediog, lle ceir golygfeydd o adfeilion hen abaty
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coetiroedd Talyllychau’n edrych dros bentref hanesyddol yn Nyffryn Cothi yn sir Gaerfyrddin.
Tyfodd pentref Talyllychau o gwmpas yr abaty a sefydlwyd yn y 12fed ganrif.
Diddymwyd y fynachlog gan Harri‘r Wythfed a defnyddiwyd y garreg i adeiladu rhan sylweddol o’r pentref presennol, gan gynnwys y capel.
Ceir golygfeydd o adfeilion yr abaty, sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan Cadw, o’r tri llwybr cerdded.
Mae pob un o’r llwybrau cerdded yn cynnwys rhannau serth.
Mae’r holl lwybrau wedi cael eu harwyddo a phob un yn cychwyn o’r gilfan barcio fechan ger y fynedfa i'r coetir, y tu draw i faes parcio’r abaty.
Mae’r llwybrau cerdded hyn i gyd yn cynnwys dringfa serth ac yn eich arwain at olygfan, lle ceir mainc i fwynhau’r golygfeydd.
1¼ milltir, 2.2 km, anodd
Mae’r llwybr hwn yn mynd drwy hen blanhigfa goed sy’n gartref i goed deri, ynn, pinwydd a sbriws enfawr.
1¾ milltir, 2.9 km, anodd
Mae’r drofa serth hon yn dilyn llwybr igam ogam sy’n dringo i ben bryn eithinog. Mae’n rhoi golygfeydd o bentref Talyllychau a Dyffryn Cothi.
2½ milltir, 4 km, anodd
Mae’r hiraf o’r tri llwybr yn dringo i fyny ffyrdd coedwig serth drwy Gwm yr Efail i’r olygfan ysblen-nydd, cyn troelli ei ffordd i lawr y Rhiw i’r maes parcio.
Sylwch:
Mae Coetiroedd Talyllychau 12 milltir i'r gorllewin o Lanymddyfri.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Coetiroedd Talyllychau ar fap Arolwg Ordnans (AR) 186.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 631 328.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Llandeilo.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri cymrwch y B4302 i Dalyllychau a Llandeilo.
Wrth gyrraedd Talyllychau dilynwch yr arwyddion am Abaty Talyllychau gan barcio’n sensitif yn y gilfan barcio wrth y fynedfa i’r coed ar y chwith, ychydig yr ochr draw i faes parcio’r abaty.
Gallwch barcio mewn cilfan barcio wrth y fynedfa i’r coed.
Ffôn: 0300 065 3000