Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin
Llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac...
Coed gyda llwybr cerdded a llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol fel ei gilydd
Mae gwyriadau ar y llwybrau cerdded a beicio mynydd yn y safle hwn - dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a’r gwyriadau sydd wedi’u harwyddo ar y safle.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.
Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.
Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.
Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.
Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren.
Mae llwybrau cerdded a beicio mynydd drwy’r ddwy goedlan yma yng Nghoedwig Brechfa:
Mae yma hefyd lwybrau cerdded eraill mewn llefydd eraill ym Mrechfa ac mae croeso i bobl fynd ar gefn ceffyl ar y ffyrdd coedwigaeth.
Mae gan y goedlan hon rai coed Ffynidwydd Douglas anferthol o fawr.
Mae gan y llwybr cerdded arwyddbyst ac mae’n pasio heibio i adfeilion hen dyddyn, un o nifer o adfeilion tebyg ar draws Coedwig Brechfa. Maent yn atgof ingol yr arferai mwy o bobl fyw oddi ar y tir yma unwaith.
Gall beicwyr mynydd o bob gallu fwynhau’r coed hefyd, oherwydd mae llwybr i ddechreuwyr a theuluoedd a llwybr du i feicwyr mwy profiadol.
Mae gan y llwybr cerdded arwyddbyst ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
4 milltir, 6.4 km, cymedrol
Mae’r tro hwn yn mynd drwy goedlan agored braf gyda choed ffynidwydd Douglas anferthol ynghyd ag ardaloedd mwsoglog mwy tywyll gyda choed sbriws Norwy. Mae’n pasio heibio i adfeilion hen dyddyn ac yn rhoi golygfeydd o Ddyffryn Cothi.
Mae gan y llwybrau beicio mynydd i gyd arwyddbyst ac yn cychwyn o’r maes parcio.
Lawrlwythwch y llwybrau cyn mynd.
Ewch i’n tudalen beicio mynydd am restr o’n holl lwybrau beicio mynydd a gwybodaeth am y gwahanol raddau i wneud yn siŵr eich bod yn dewis llwybr sy’n iawn i chi.
Gallwch hefyd ddarllen y wybodaeth sydd ar y safle cyn cychwyn ar eich taith feicio.
9.2 km, gradd gwyrdd
Fel arfer, mae llwybrau gwyrdd i gyd ar hyd ffyrdd coedwigaeth neu lwybrau ochr camlas – ond nid ym Mrechfa! Mae Llwybr Derwen wedi'i enwi ar ôl y goedwig dderw y mae’n rhedeg yn hamddenol drwyddi gan roi cyflwyniad unigryw i’r beiciwr mynydd dibrofiad i fyd beicio mynydd, gyda dringfeydd eithaf graddol a llwybrau goriwaered llawn hwyl.
4.2 km, gradd glas – estyniad i’r Llwybr Derwen gwyrdd
Estyniad i’r Llwybr Derwen gwyrdd yw hwn, a byddwch yn ymuno â fo hanner ffordd ar hyd y llwybr gwyrdd. Mae yna’n dringo llethr mwy serth cyn gollwng i lawr goriwaered hir a chyflym ac ailymuno â’r llwybr gwyrdd i ddychwelyd i’r maes parcio.
18.5 km, gradd du
Dyluniwyd Llwybr y Gigfran gan Rowan Sorrell a Brian Rumble, sy’n adnabyddus yn y byd beicio mynydd.
Nid yw’n addas ond ar gyfer beicwyr profiadol ac mae’n mynd â chi allan i rai o’r corneli mwyaf diddorol yn y goedwig. Mae’n cyfuno’r llwybrau cul, untrac mwy traddodiadol drwy’r coed â llwybrau goriwaered caregog a llwybrau troellog a chyflym rhwng coed ac allan i lwybrau ymyl a thros neidiau.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Portalŵs yw’r toiledau, sy’n agored bob amser.
Mae Allt Byrgwm ddwy filltir i’r gogledd-ddwyrain o bentref Brechfa ar y B4310.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
Mae Byrgwm ar fap Arolwg Ordnans (AR) 186.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 544 315.
Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
O’r A40 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, cymrwch y B4310 i gyfeiriad pentref Brechfa.
Gallwch barcio yno am ddim.
Sylwch:
Ffôn: 0300 065 3000