Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Coedwig Caio yn cynnwys nifer o goetiroedd conifferaidd sy’n ymestyn dros yr ucheldir, fry uwchben pentref hanesyddol Caio yn Sir Gaerfyrddin.
Mae tair o deithiau cerdded cylchol wedi eu harwyddo o’r maes parcio a milltiroedd lawer o ffyrdd a llwybrau drwy’r goedwig.
Mae’r llecyn picnic bychan mewn llannerch, yn union dros yr afon o’r maes parcio.
Gerllaw mae ystâd Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle ceir llwybrau cerdded a gwaith aur Rhufeinig sy’n agored i ymwelwyr.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr dymunol hwn drwy’r goedwig yn croesi pont dros y nant at fwrdd picnic yn y llannerch.
Mae’r llwybr hiraf sydd wedi’i arwyddo yn un hawdd a chymharol wastad ar hyd ffyrdd y goedwig
Mae’r daith hon yn dilyn llwybrau glaswelltog a ffyrdd y goedwig drwy amrywiaeth o goed.
Mae’n werth dringo i fwynhau’r golygfeydd ysblennydd.
Ceir rhwydwaith o lwybrau o amgylch Ystâd Dolaucothi gerllaw s'yn amrywio o ran hyd.
Mae’r llwybrau yn mynd drwy goetir a thiroedd yr hen blasty.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ystâd Dolaucothi ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedwig Caeo 10 milltir i’r gogledd orllewin o Lanymddyfri.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Coedwig Caeo ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) Explorer 187.
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SN 679 405.
Cymerwch yr A40 o Lanymddyfri i gyfeiriad Llandeilo.
Yn Llanwrda, dilynwch ffordd A482 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.
Ar ôl wyth milltir, trowch i’r dde a dilyn yr isffordd i Gaio.
Ewch drwy bentref Caio, heibio’r eglwys ac yn eich blaen ar hyd ffordd ‘dim ffordd drwodd’.
Cadwch i’r chwith a dilyn lôn goedwig i faes parcio Coedwig Caio.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.