Coedwig Brechfa – Tower, ger Caerfyrddin

Beth sydd yma

Croeso

Mae gan fynedfa Tower ardal barcio fach sy'n fan cychwyn ar gyfer llwybr cerdded gyda golygfeydd o'r dyffryn o fewn Coedwig Brechfa.

I gael golwg agosach ar y tyrbinau gwynt, gallwch gysylltu â llwybr cerdded llawer hirach o'r fan hon - gweler y wybodaeth am y Llwybr Gwynt a Dŵr isod.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cwm Marlais

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2¼ milltir/3.7 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Dringo: 102 metr/335 troed
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r daith yma’n dechrau ar ffordd goedwig tuag at brif safle’r tyrbinau gwynt, cyn gwyro i’r dwyrain ar ffordd goedwig segur a thawelach, sy’n troi’n llwybr wrth adfail hen ffermdy. Yna, mae’r llwybr yn disgyn i Gwm Marlais i ddilyn Afon Marlais, gan ddringo’n raddol yn ôl at fynedfa Tower.

Mwynhau golygfeydd arbennig o Gwm Marlais wrth ddychwelyd at y man cychwyn.

Crëwyd y llwybr cerdded hwn mewn partneriaeth â RWE a ddatblygodd Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa yn y rhan hon o'r goedwig.

""

Llwybr Gwynt a Dŵr

Ewch yn agos at dyrbinau enfawr Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa ar ein Llwybr Gwynt a Dŵr.

Mae'r llwybr cerdded cylchol 12 milltir/19.3 cilometr hwn yn cychwyn o faes parcio Keepers.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Llwybr Gwynt a Dŵr o faes parcio Tower trwy ddilyn rhan o Daith Gerdded Cwm Marlais a llwybr cyswllt ond sylwch y bydd y daith gyffredinol yn llawer hirach.

Am fwy o fanylion, gweler y panel gwybodaeth yn y ddau faes parcio.

Crëwyd y llwybr cerdded hwn mewn partneriaeth â RWE a ddatblygodd Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa yn y rhan hon o'r goedwig.

""

Coedwig Brechfa

Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.

Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.

Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.

Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.

Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren, ac yn fwy diweddar er mwyn cynhyrchu ynni gwynt.

Meysydd parcio eraill yng Nghoedwig Brechfa

""

Mae llwybrau cerdded a beicio mynydd o'r meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru eraill hyn yng Nghoedwig Brechfa:

  • Abergorlech - llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac arboretwm go wahanol
  • Byrgwm - taith cerdded coetir a llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol fel ei gilydd
  • Gwarallt - taith gerdded fer hawdd drwy goetir ffawydd
  • Keepers - dewis o lwybr glan yr afon neu daith gerdded hir heibio tyrbinau gwynt enfawr

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Brechfa yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae maes parcio Tower 14½ milltir i’r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin.

Cod post

Y cod post yw SA39 9EJ.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Mae maes parcio Tower 14½ milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin.

Cymerwch yr A484 o Gaerfyrddin tuag at Landeilo ac ysbyty Caerfyrddin.

Ar y gylchfan ychydig ar ôl yr ysbyty ewch ar yr A485 tuag at Lanbedr Pont Steffan.

Dilynwch yr A485 am tua 10 milltir nes i chi gyrraedd pentref New Inn.

Wrth y groesffordd yn y pentref trowch i'r dde ar yr isffordd lle mae arwydd ar gyfer Brechfa.

Ar ôl 1¾ milltir mae'r ardal barcio ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 495 354 (Explorer Map 186).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Caerfyrddin.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf