Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Porth i raeadr ysgubol a thri llwybr cerdded
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coed Cwningar wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers dros 200 mlynedd oherwydd y rhaeadr ysblennydd sydd yno, Dŵr Torri Gwddf.
Wedi ei enwi ar ôl y gwningar a fu’n ffynhonnell fwyd yma, mae’r ardal hon wedi gweld newidiadau enfawr ers pan yr oedd Coedwig Maesyfed yn goedwig hela hynafol.
Yn y dyddiau hynny roedd yn ardal o weundir helaeth, ond yn oes Fictoria penderfynodd y perchnogion ar y pryd, sef Ystâd Harpton Court, greu coedwig ‘dlws i’r llygaid’ a phlannu llawer o goed.
Gallwch weld nifer o’r coed yma, sydd yn anferth erbyn hyn, ar ein tri llwybr cerdded gydag arwyddbyst sy’n dilyn llwybrau cerdded hanesyddol.
Mae yna fan picnic bach yn yr ardal parcio rydych yn mynd heibio ar eich ffordd i brif faes parcio Coed Cwningar.
Mae Coed Cwningar wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.
Roedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol. Y dyddiau hynny, nid coedwig ydoedd yn yr ystyr fodern o fod yn ardal goediog drwchus, ond yn yr ystyr ganoloesol o fod yn ‘fforest’ sef ardal heb fod yn gaeedig a ddefnyddiwyd i hela ceirw.
Mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion a serth a bryniau’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Black Mixen ar 650 metr (2150 troedfedd).
Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed. Ewch i goed Nash a Fishpools am fwy o wybodaeth.
Mae gan y llwybrau cerdded i gyd arwyddbyst ac maen nhw’n cychwyn o’r faes parcio.
½ milltir/1 cilomedr (yna ac yn ôl), hawdd
Mae’r daith gerdded fer hon sydd ar dir gwastad yn bennaf, yn mynd ar hyd ceunant llethrog tuag at y rhaeadr oedd yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid Fictoraidd.
Ar ôl cwpwl o ddiwrnodau o law mae’r rhaeadr yn olygfa ysblennydd ond gall ostwng i ddiferion ar ôl cyfnod hir o dywydd poeth.
Mae ‘r llwybr yn dychwelyd ar hyd yr un llwybr i’r maes parcio neu gallwch ymuno ag un arall o’r llwybrau hirach drwy’r goedwig.
½ milltir/1 cilomedr (yna ac yn ôl), cymedrol
Mae’r rhodfa goetir hon yn eich arwain i olygfan uwchben rhaeadr enwog Dŵr Torri Gwddf.
1½ milltir/2.2 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Cwningar yn grwydr egnïol gyda dringfa o 560 troedfedd (170 metr).
Yn y cylchlythyr hwn ceir golygfeydd gwych o rai o’r coed mwyaf yn Sir Faesyfed , plannwyd llawer ohonynt yn yr oes Fictoraidd. Edrychwch allan am y coed cas gan fwnci!
Sylwch:
Lleolir Coed Cwningar 1 milltir i’r de orllewin o Faesyfed.
Mae yn Sir Powys.
Gallwch barcio am ddim yn y maes parcio.
Dilynwch yr A44 o Faesyfed i Landrindod. Tua un filltir ar ôl Maesyfed, trowch i’r dde wrth yr arwydd gwybodaeth dwristiaid brown. Ewch heibio i’r maes parcio bach ac ardal picnic a dilynwch y ffordd goedwig i fyny i faes parcio Coed Cwningar.
Mae Coed Cwningar ar fap Arolwg Ordnans (AR) 200.
Y cyfeirnod grid OS yw SO 186 597.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhrefyclo.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk