Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coed Maen Arthur yn swatio yng Nghwm Ystwyth ger pentref Pont-rhyd-y-groes.
Mae’r daith â chyfeirbwyntiau drwy’r coetir yn arwain at Gastell Grogwynion, un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn mynd heibio’n agos i raeadr drawiadol.
Ar un adeg bu’r ardal yn gartref i ddiwydiant gwaith plwm prysur - cadwch lygad am y panel gwybodaeth wrth ymyl olwyn ddŵr y pentref.
Gellir cyrraedd y daith gerdded ar draws bont bren uchel dros geunant afon dwfn - cymrodd y bont hon le’r un a ddefnyddiwyd gan y mwyngloddwyr y credir iddi gwympo.
Mae Coed Maen Arthur yn arbennig o hardd yn yr hydref, pan fo’r coed yn dân o felyn a choch.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mae Llwybr Maen Arthur yn dringo llechwedd goediog y fryngaer o’r Oes Haearn ac yn arwain at lannerch gyda golygfeydd dros y coed ac i lawr i’r cwm.
Mae’r llwybr yn mynd heibio i raeadr ysblennydd ac yna’n dilyn yr afon chwim.
Mae’n dychwelyd hyd lwybr ar hyd gwaelod y ceunant.
Mae Coed Maen Arthur yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Coed Maen Arthur 14 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Y cod post yw SY25 6DQ.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at ddechrau'r llwybr os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r olwyn ddŵr.
Ewch ar hyd y B4340 o Aberystwyth am Drawsgoed.
Dilynwch y ffordd hon drwy Drawsgoed ac yna trowch yn syth i’r chwith ar ôl croesi’r bont garreg.
Ewch yn syth ymlaen heibio i’r tro am Goed Ty’n y Bedw ac am 3 milltir arall nes cyrraedd pentref Pont-rhyd-y-groes, ble gwelwch olwyn ddŵr mwynglawdd Lisburne ar y dde.
I gyrraedd y man cychwyn, ewch drwy giât llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr a chroesi’r bont dros y ceunant – cadwch lygad am y panel gwybodaeth ar ochr arall y bont.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer dechrau'r llwybr yw SN 738 722 (Explorer Map 213).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.
Mae gwasanaeth bws o Aberystwyth i Bont-rhyd-y-groes.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r llwybr yn dechrau’n agos i olwyn ddŵr mwynglawdd Lisburne ym mhentref Pont-rhyd-y-groes.
I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr.
Nid oes maes parcio ar ddechrau'r llwybr felly parciwch yn ystyriol yn y pentref.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.