Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Cors Fochno yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi sydd wedi’i lleoli hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Cors Fochno yw un o'r enghreifftiau mwyaf a gorau o blith y cyforgorsydd mawn sydd ar ôl ym Mhrydain - mae mawn wedi bod yn cronni yma’n raddol ac yn barhaus ers dros 6,000 o flynyddoedd ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd dyfnder o dros 6 metr.
Mae'r daith fer o'r lle parcio bychan yn cynnwys llwybr pren cylchol o amgylch cyrion y gors.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mwynhewch olygfeydd dros y fawnog enfawr ar y llwybr pren cylchol.
Dechreuodd y gors ffurfio tua 5500 CC pan oedd coedwig yn gorchuddio rhan o orlifdir yr aber, ond wrth i lefelau'r môr godi, disodlwyd y goedwig gan gorsle ac yna gan fawnog.
Mae'r rhan fwyaf gorllewinol ohoni bellach wedi’i herydu gan y môr, ond ar lanw isel mae bonion coed sydd wedi marw ers canrifoedd yn dal yn weladwy ar y traeth ger y Borth.
Heddiw, tapestri gwyrdd, aur a choch o fwsoglau migwyn sydd fwyaf amlwg ar wyneb y gors ac mae llawer o rywogaethau prin ac anghyffredin yn byw yma ac yn eu plith blanhigion sy’n bwyta pryfed fel gwlithlys, gwrid y gors a’r fursen fach goch.
Mae'r dirwedd a’r bywyd gwyllt yn amrywio yng Nghors Fochno, yn dibynnu ar ba adeg o'r flwyddyn y byddwch yn ymweld – darllenwch ymlaen i gael gwybod beth y dylech gadw llygad amdano.
Mae sawl creadur di-asgwrn-cefn prin ac arbenigol yn goroesi yma.
Yn eu plith mae:
Mae arwyneb dirlawn y gors yn lle anghyfeillgar i'r rhan fwyaf o blanhigion ac mae gan y rhai sy’n ffynnu yma, fel plu’r gweunydd, llafn y bladur a’r gwyrddling, i gyd addasiadau arbennig.
Mae planhigion cigysol hefyd yn llwyddo fan hyn ac yn eu plith mae pob un o dair rhywogaeth frodorol y gwlithlys.
Y planhigion arbenigol pwysicaf mewn corsydd (a'r prif ffurfwyr mawn) yw mwsogl y gors neu'r migwyn, sy'n creu carpedi lliwgar ar y gors agored ac yn codi ei harwyneb yn gromen fas wrth i'w gweddillion grynhoi.
Mae pymtheg rhywogaeth o fwsogl y gors i'w gweld yma gan gynnwys tair rhywogaeth sy’n brin yn genedlaethol.
Mae Cors Fochno yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Mae'r warchodfa 2,000 hectar hon hefyd yn cynnwys aber Afon Dyfi a thwyni tywod Ynyslas.
Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yw'r prif bwynt mynediad i Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Cors Fochno yn un o saith safle ym Mhrosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru.
Y prosiect hwn yw’r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd Cymru.
Cors Fochno yw un o’r cyforgorsydd mawn mwyaf sy’n dal i dyfu yn iseldir Prydain, gyda mawn hyd at 8 metr o dan yr wyneb.
Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru, ac maen nhw’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin.
Daeth enw cyforgorsydd o’u siâp cromennog (un o ystyron cyfor yw ‘ymchwydd’, fel yn llanw’r môr). Maen nhw’n ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr.
I ddysgu mwy am y gwaith adfer, cofrestru i gael e-gylchlythyron, a darllen ein newyddion diweddaraf ewch i dudalen we prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru.
Mae Cors Fochno yn un o saith cors ym mhrosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Bydd y prosiect yn helpu rhai o'r cyforgorsydd pwysicaf yng Nghymru i ddod yn lleoedd gwell fyth ar gyfer bywyd gwyllt.
Bydd y gwaith adfer sy'n digwydd yng Nghors Fochno yn:
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd ymyl ddeheuol a dwyreiniol Cors Fochno rhwng y Borth a Thre Taliesin.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Cors Fochno ym Miosffer UNESCO Dyfi.
Mae biosfferau yn ysbrydoli cymunedau i weithio gyda'i gilydd i greu dyfodol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, gan gysylltu pobl â natur a threftadaeth ddiwylliannol a chryfhau'r economi leol ar yr un pryd.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Biosffer Dyfi.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Cors Fochno 11 milltir i'r gogledd o Aberystwyth.
Mae hi yn sir Ceredigion.
Mae Cors Fochno ar fap Explorer OL 23 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 633 922.
O Aberystwyth, ewch ar hyd yr A487 tuag at Fachynlleth.
Ar ôl tua 9 milltir, yn Nhre’r-ddôl, trowch i'r chwith tuag at Ynyslas ar y B4353.
Ewch ymlaen am oddeutu 1½ milltir a throwch i'r chwith i drac bach sydd â mynedfa â giât.
Gyrrwch i lawr y trac hwn, gan gau'r giât ar ôl gyrru drwyddi, i'r man parcio bychan (tua 600 metr ar hyd y trac).
Mae prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Borth.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Gellir cyrraedd y man parcio bychan trwy yrru i lawr trac cul sydd â giât wrth y fynedfa.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.