Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Oherwydd effeithiau Storm Darragh dros y penwythnos, mae ein holl goetiroedd, gwarchodfeydd, canolfannau ymwelwyr a meysydd parcio ar gau heddiw (dydd Llun 9 Rhagfyr) er diogelwch staff ac ymwelwyr. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach pan fydd gwiriadau diogelwch wedi’u cwblhau.
Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru
Bydd y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo mewn tair canolfan ymwelwyr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau tan 31 Mawrth 2025, ac yna byddant yn cau.
Ar ôl iddynt gau, byddwn yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.
Bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor ar y safleoedd dan sylw.
Edrychwch ar dudalen Facebook Ynyslas neu Instagram i weld yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Ynyslas yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi sydd wedi’i lleoli hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Lleolir twyni tywod gwych Ynyslas ar ochr ddeheuol ceg yr aber, a rhain yw’r twyni mwyaf yng Ngheredigion. Maent yn gartref i boblogaeth gyforiog o degeirianau, mwsogl, llys yr afu, ffwng, pryfed a phryfed cop; llawer ohonynt yn rhywogaethau prin, gyda rhai ohonynt ar gael yn unlle arall ym Mhrydain.
Mae’r aber Afon Dyfi yn cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt fflatiau llaid, banciau tywod a morfa heli, ac yn darparu ardaloedd bwydo a chlwydo arbennig i adar dŵr.
Gellir gweld yn bell dros yr aber i gyfeiriad Aberdyfi ond, er bod y dref honno i’w gweld mor agos, mae’n daith 45 munud mewn car o amgylch yr aber i’w chyrraedd o Ynyslas.
Gallwch archwilio'r twyni a glan y môr, y traeth ar y llwybrau cerdded o'r maes parcio neu yn syml dilynwch eich trwyn ac ymgollwch yn y golygfeydd digymar, ac yn synau’r
gwynt, y môr a’r adar.
Y ganolfan ymwelwyr yw’r lle delfrydol i ddechrau eich ymweliad.
Yno ceir arddangosfa o’r hyn sydd i’w weld yn y warchodfa, a siop sy’n gwerthu diodydd poeth ac oer, byrbrydau, llyfrau a chynnyrch lleol.
Mae’r toiledau drws nesaf i’r ganolfan ymwelwyr.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth yng nghanolfan ymwelwyr ac ym maes parcio.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Ymlwybrwch trwy dwyni, sy’n newid trwy’r amser, ac ar hyd y traeth, gydag arddangosfa ysblennydd o flodau yn y gwanwyn a’r haf, a ffwng lliwgar yn yr Hydref.
Cewch brofi amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys twyni tywod, glan y môr, tir amaeth a morfa heli a golygfeydd godidog o’r aber.
Mae Ynyslas yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Mae'r warchodfa 2,000 hectar hon hefyd yn cynnwys aber Afon Dyfi a Chors Forchno.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Fel mae’r tywydd yn cynhesu, mae blodau’r gwanwyn yn blodeuo yn y twyni a’r hesgen gotwm ar y gyforgors.
Gallwch gael cipolwg ar un o’r niferoedd o ymlusgiaid sy’n byw yma fel y fadfall, madfall y tywod, y neidr ddu a’r neidr fraith. Mae’r wenynen durio wanwynol yn brysur yma yn y gwanwyn hefyd.
Os mai cân yr adar sy’n mynd â’ch bryd yna rydych yn siŵr o fwynhau clywed yr ehedydd, y llinos, y sïff siaff, a thelor yr helyg yn canu. Fin nos gellir clywed gweilch y nos yn canu.
Daw’r gwanwyn ag arddangosfa amrywiol o flodau i’r warchodfa. Gwelir tegeirian rhuddgoch a thegeirian gwenynog ar ddechrau’r haf yn y llaciau twyni (ardaloedd gwlyb y twyni) ac yna’r tegeirian bera. Mae yna hefyd flodau lliwgar yn y morfa heli, clustog Fair, serenllys y morfa, troellig arfor, ac yna ddiwedd yr haf, caldrist y gors.
Llenwir yr awyr â phili palaod a gwyfynod sy’n hedfan yn y dydd, tra bo gwas y Neidr yn saethu o amgylch y gyforgors.
Gallwch hyd yn oed weld y gweilch a’r dyfrgi ar yr aber.
Mae lliwiau’r hydref yn gyfoethog ac amrywiol yn y gyforgors. Mae’n cael ei gwisgo mewn ystod o liwiau rhuddgoch.
Mae ffwng yn cynnwys capiau cwyr, seren y ddaear, coden fwg a ffwng nyth aderyn yn ychwanegu at yr arddangosfa liwgar.
Gellir gweld rhydwyr sy’n ymfudo ar yr aber.
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae aber y Ddyfi yn gartref i adar gwyllt y gaeaf, tra ar y traeth, gallwch weld rhydwyr, pibydd y tywod a’r cwtiad aur.
Cadwch eich llygaid ar agor er mwyn gweld yr adar ysglyfaethus dros y gors, yn arbennig y canlynol:
Efallai hyd yn oed y cewch gipolwg ar wyddau Bronwyn Yr Ynys Las: dyma’r unig leoliad trwy Gymru a Lloegr y gallwch eu gweld.
Mae dros 70 o warchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Genedlaethol.
Ynyslas yw dechrau neu ddiwedd Llwybr Arfordir Ceredigion.
Mae llawer o Lwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn yr un trywydd â Llwybr Arfordir Cymru.
Mae’r ddau lwybr hwn yn rhannu’n ddau yn Borth ac mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn mynd ymlaen i’r aber a’r twyni tywod yn Ynyslas.
I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr Arfordir Ceredigion ewch i wefan Darganfod Ceredigion.
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr gan Croeso Cymru.
Mae logo brand "Sicrhau Ansawdd Sicr" Croeso Cymru yn cael ei roi i atyniadau sydd wedi eu hasesu'n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol y Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr.
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas wedi ennill Gwobr y Faner Werdd.
Mae'r wobr - a chydlynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am y Faner Werdd, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus.
Ni chaniateir nofio nac offer wedi’i lenwi ag aer.
Mae baner goch ar gyfer traeth y warchodfa oherwydd bod cerrynt llanw cryf iawn.
Gallwch gael benthyg pecyn darganfod yn y ganolfan ymwelwyr.
Mae pob pecyn yn cynnwys pethau da a defnyddiol fel ysbienddrychau, chwyddwydrau, potiau chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd â chanllaw yn egluro sut i’w defnyddio.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Ceir maes parcio bach ar gyfer ymwelwyr gyda Bathodyn Glas yn unig wrth ymyl y brif ffordd i mewn i Ynyslas, 30 metr i’r de o faes parcio’r traeth.
Mae mynediad o faes parcio deiliaid Bathodyn Glas ar hyd trac wyneb caled gyda ramp pren addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar gyfer Canolfan Ymwelwyr Ynyslas.
Mae rhan 300m o’r Llwybr Twyni sy’n arwain o’r ganolfan ymwelwyr i’r prif lac twyni yn hygyrch. Nid yw gweddill y llwybrau yn hygyrch oherwydd tywod meddal a mwd.
Mae’r toiledau yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas yn hygyrch.
Cofiwch gadw cŵn dan reolaeth a pheidiwch â gadael iddynt redeg ar ôl adar ar hyd llinell y llanw.
Cadwch bob ci ar dennyn:
Codwch faw eich cŵn a defnyddiwch y biniau baw cŵn pwrpasol.
I gael ymweliad diogel a braf gyda’ch ci, ac i osgoi achosi problemau i eraill, cofiwch ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon neu ein tudalen Facebook i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn agored yn ddyddiol o 9.30am tan 4pm.
Mae'r gwarchodfa natur a'r llwybrau cerdded ar agor trwy’r flwyddyn.
Mae'r maes parcio ar agor trwy’r flwyddyn ond mae'n dibynnu ar lefelau llanw uchel.
Mae'r toiledau ar agor o 9am tan 4.30pm bob dydd trwy'r flwyddyn.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Ynyslas 10 milltir i'r gogledd o Aberystwyth.
Y cod post yw SY24 5JZ.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Cymerwch yr A487 o Aberystwyth tuag at Fachynlleth.
Yn Bow Street, trowch i'r chwith ar y B4353, gydag arwydd at Borth.
Ar ôl 2½ milltir, trowch i'r dde wrth y gylchfan a dilyn y ffordd ar hyd glan y môr.
Ewch yn eich blaen am 2 filltir ac, ar y troad sydyn i'r dde ym mhentref Ynyslas, ewch i'r chwith gan ddilyn y ffordd fechan sy’n parhau i ddilyn glan y môr.
Wedi 1 milltir daw'r ffordd hon i ben wrth fynedfa maes parcio Canolfan Ymwelwyr Ynyslas.
Mae'r maes parcio ar y traeth a phan mae’r llanw uchel, mae’n llenwi â dŵr y môr.
Felly: nodwch amseroedd y llanw ar yr arwydd wrth fynedfa’r maes parcio.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 610 941 (Explorer Map OL 23).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Borth.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r maes parcio wedi’i leoli ar y traeth ac mae’n gorlifo yn ystod llanw uchel iawn.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Talwch y gofalwr wrth gyrraedd, gydag arian parod neu gerdyn.
Os nad oes staff yn y maes parcio, talwch yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl parcio eich cerbyd.
Gall trigolion lleol wneud cais am docyn parcio am ddim.
I wybod a yw eich cyfeiriad o fewn yr ardal gymwys, ffoniwch y ganolfan ymwelwyr neu gofynnwch i ofalwr y maes parcio wrth gyrraedd.
Bydd angen i chi ddangos prawf o’ch cyfeiriad - fel trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar - i gael eich tocyn parcio am ddim.
Sylwch fod y pàs i breswylwyr yn ddilys am flwyddyn a bydd angen i chi ailymgeisio bob blwyddyn.