Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coedwig Tywi yn gorchuddio'r bryniau ger tref fach Tregaron yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell y canolbarth.
Plannwyd y goedwig gonifferaidd enfawr hon yn wreiddiol gan y Comisiwn Coedwigaeth i gynhyrchu pren ac mae'n parhau i fod yn goedwig weithredol.
Mae gan ein meysydd parcio olygfannau dros gronfa ddŵr drawiadol Llyn Brianne ac mae llwybr cerdded byr ag arwyddbyst trwy goetir at ffynnon hanesyddol.
Mae yna hefyd lwybrau a thraciau coedwigaeth sy’n addas ar gyfer cerdded, beicio mynydd a marchogaeth – nid oes arwyddbyst ar y rhain felly bydd angen map arnoch i archwilio.
Mae ffordd goedwigaeth yn arwain at faes parcio Cwm Berwyn.
Mae'r olygfan yn edrych i lawr y dyffryn i gyfeiriad Tregaron.
Mae clogfeini mawr yn darparu seddi anffurfiol yn yr olygfan.
Mae ardal laswelltog sy'n addas ar gyfer cael picnic ger y maes parcio.
Mae llwybr byr o’r maes parcio bach i lawr at olygfan ar ymyl cronfa ddŵr Llyn Brianne.
Mae’r olygfan yn ymwthio allan i’r gronfa ddŵr ac mae’n fan prydferth ar gyfer ffotograffau neu bicnic ar y lan laswelltog.
Mae gan Garreg Clochdy faes parcio mawr gyda golygfan yn uchel uwchben cronfa ddŵr Llyn Brianne.
Mae clogfeini mawr yn darparu seddi anffurfiol i fwynhau'r golygfeydd.
Mae ardal laswelltog sy'n addas ar gyfer cael picnic ger y maes parcio.
Mae yna lwybr cerdded byr ag arwyddbyst tuag at hen ffynnon.
Mae'r llwybr yn mynd heibio i goed derw cnotiog ac yn croesi cerrig camu dros afon lle mae mainc bicnic.
Mae’n bosib fod y ffynnon yn perthyn i abaty Sistersaidd Ystrad Fflur sydd gerllaw – mae adfeilion yr abaty yn cael eu rheoli gan Cadw ac ar agor i ymwelwyr.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedwig Tywi 10 milltir i'r dwyrain o Dregaron.
Mae’r Ffynnon Sanctaidd a Chwm Berwyn yn sir Ceredigion.
Mae Fannog a Charreg Clochdy yn sir Powys.
Mae Coedwig Tywi ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (AO).
Cwm Berwyn, Fannog a Charreg Clochdy
Trowch oddi ar y B4343 ger Gwesty’r Talbot yng nghanol Tregaron a dilynwch yr arwydd brown a gwyn am Lyn Brianne.
Parhewch ar hyd yr isffordd hon am 4 milltir ac mae’r trac i faes parcio Cwm Berwyn ar y dde.
Ar gyfer maes parcio’r Fannog, ewch ymlaen am 6 ½ milltir arall. Ar y cyffordd, cymerwch y tro tynn i'r dde tuag at Lyn Brianne. Parhewch am 2 filltir, gan ddilyn glannau’r gronfa ddŵr ac mae maes parcio Fannog ar y dde.
Ar gyfer maes parcio Carreg Clochdy, ewch ymlaen ar hyd y ffordd am tua 1 ½ milltir ac mae'r maes parcio ar y dde.
Ffynnon Sanctaidd
Cymerwch y B4343 o Dregaron tuag at Bontrhydfendigaid.
Ar ôl 5½ milltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn tuag at Abaty Ystrad Fflur.
Parhewch heibio'r abaty ac mae'r ffordd yn mynd yn drac sengl.
Mae’r maes parcio’n gilfan fechan ar y chwith ar ôl tua milltir, ar ddiwedd y ffordd trac sengl – cadwch olwg am y panel gwybodaeth a pharciwch yn ofalus er mwyn peidio â rhwystro mynedfa’r eiddo cyfagos.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.