Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Llwybrau cerdded heibio rhaeadrau, i bawb eu mwynhau
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Plannwyd coedwig Hafren gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 1930au ac fe’i henwyd ar ôl yr Afon Hafren.
Mae afon Hafren yn dechrau'n ddistaw mewn cors fawn sgwâr ar lethrau Plynlimon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru.
Mewn dim o dro mae’n troi’n ffrwd gyda rhaeadrau a chwympiadau yn plymio’n wyllt drwy’r goedwig.
Mae tarddiad Afon Hafren y tu allan i ffin y goedwig ond gallwch gerdded iddi ar ein taith gerdded â mynegbyst.
Ceir teithiau cerdded byrrach hefyd drwy'r coetir i Raeadr enwog Afon Hafren, Rhaeadr y gwddf a Rhaeadr Blaenhafren, ac mae llwybr estyll yn mynd â chi ar hyd glan yr afon i Bistyll Rhaeadr.
Coedwig Hafren yw'r man cychwyn (neu ddiwedd) ar gyfer dwy daith gerdded hir, llinellol-Llwybr Dyffryn Gwy a ffordd Hafren.
Mae gan y llwybrau cerdded i gyd arwyddbyst ac maen nhw’n cychwyn o faes parcio Rhydybenwch.
½ milltir, 0.8 cilomedr, hygyrch
Mae Llwybr Rhaeadr Hafren yn mynd i lawr at lwybr pren ar hyd glan yr afon a thros Raeadr Hafren lle gallwch eistedd a mwynhau’r olygfa oddi ar lwyfan wedi’i godi cyn dychwelyd drwy’r coed i’r maes parcio.
1½ milltir, 2.8 cilomedr, cymedrol
Mae Llwybr Dŵr Torri Gwddf yn dilyn y llwybr pren ar lan yr afon cyn pasio drwy ddôl gyda meinciau picnic a choetir.
Mae yna'n croesi pompren lle mae Afon Hafren yn pistyllio i lawr gyli’n genllif gwyn ac i mewn i raeadr enwog Dŵr Torri Gwddf.
3½ milltir, 6 cilomedr, cymedrol
Mae Llwybr Rhaeadr Blaenhafren yn dro golygfaol drwy galon y goedwig ac yn dilyn glan Afon Hafren yr holl ffordd i Raeadr Blaenhafren.
8 milltir, 12.8 cilomedr, anodd
Mae tarddiad Llwybr Hafren yn arwain drwy’r coed ac allan i lwybr cerrig drwy weundir corsog ac ymlaen i darddiad Afon Hafren a nodir gan bostyn pren ar uchder o 620 metr (2034 troedfedd).
Mae’r ffordd yn ôl yn mynd heibio i raeadr ac olion hen waith copr o’r Oes Efydd.
Mae Llwybr Bro Gwy’n daith gerdded bell o 136 milltir ar hyd glan Afon Gwy i Gas-gwent.
Coedwig Hafren yw man cychwyn a diwedd y daith llinell syth hon.
Gweler Llwybr Bro Gwy.
Mae Llwybr Afon Hafren yn daith gerdded bell 210 milltir i Fryste.
Coedwig Hafren yw man cychwyn (neu ddiwedd) y llwybr llinell syth hwn a dyma’r daith gerdded glan yr afon hiraf ym Mhrydain.
Gweler gwefan y Long Distance Walkers Association.
Mae rhannau bychain o Lwybr Glyndŵr, sy’n Llwybr Cenedlaethol, yn pasio drwy gwr dwyreiniol Coedwig Hafren.
Gweler gwefan Llwybr Glyndŵr.
Taith gron 25 milltir gydag arwyddbyst yw Sarn Sabrina, a rhan ohoni’n pasio drwy Goedwig Hafren.
Enwir y llwybr ar ôl y chwedl Geltaidd am sabrina, nymff ddŵr oedd yn byw yn nyfroedd Afon Hafren yn ôl y sôn.
Gweler gwefan Sarn Sabrina (Saesneg yn unig)
Mae gan lwybr beicio Sustrans rhif 8 arwyddbyst ar ei hyd ac mae’n mynd rhwng Caerdydd a Chaergybi.
Mae’n pasio drwy Goedwig Hafren ar hyd ffordd sy’n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Powys.
Gweler gwefan Sustrans am fwy o wybodaeth.
Mae Llwybr Rhaeadr Hafren yn hanner milltir o hyd ac yn ddelfrydol i rai o bob oed a gallu.
Dyluniwyd y llwybr mewn partneriaeth â chymdeithasau anabl lleol.
Mae llwybr igam-ogam cysgodol yn arwain i lawr at lwybr pren pob gallu ar hyd glan yr afon i Lwybr Rhaeadr Hafren lle mae llwyfan wedi'i godi gyda mainc bicnic yn rhoi cyfle i fwynhau’r olygfa.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Mae Coedwig Hafren chwe milltir i’r gorllewin o Lanidloes ar hyd lôn fach.
Mae yn Sir Powys.
Gallwch barcio am ddim ym maes parcio Rhydybenwch.
Dilynwch Stryd y Bont Fer allan o ganol tref Llanidloes.
Croeswch yr afon a throi i’r chwith.
Dilynwch y ordd gul hon am 5½ milltir, gan fynd heibio’r Hen Neuadd, ac mae maes parcio Rhyd-y-benwch ar y chwith.
Gallwch hefyd gyrraedd maes parcio Rhydybenwch o ben gogleddol Llyn Clywedog ar hyd lonydd bach.
Mae Coedwig Hafren ar fap Arolwg Ordnans (AR) 214.
Cyfeirnod Arolwg Ordnans yw SN 857 869.
Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaersws.
Mae sawl byssus yn mynd i Lanidloes.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan TravelineCymru.