Coed Nash, ger Llanandras

Beth sydd yma

Croeso

Mae hanner Coed Nash yng Nghymru a’r hanner arall yn Lloegr, sy’n dangos yn glir eich bod yn ardal y gororau.

Mae’r llwybr cylchol yn arwain at Olygfa Burfa ac oddi yno ceir golygfeydd dros Goedwig Maesyfed a Burfa Bank, un o’r llu o fryngaerau ar y rhan hon o’r ffin.

Mae Coed Nash yn gynefin coetir delfrydol i weld bwncathod a gweilch Marthin neu efallai y gwelwch bilaod a gyflingroesion sy’n ffynnu ar y conau mawr a gynhyrchir gan y ffynidwydd Douglas urddasol.

Mae’n gyfle da hefyd i weld un o'r nifer fawr o iyrchod sy'n byw yma ac, os dewch draw yn yr hydref, cofiwch gadw llygad yn agored am ffwng lliwgar.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Nash

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2 filltir/3.5 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn dringo’n serth o’r maes parcio a cheir gwreiddiau coed dan droed. Mae’r rhan hon yn fwdlyd a llithrig ar ôl tywydd gwlyb. Yna, mae’r llwybr yn dilyn ffordd goedwig drwy’r coed a gallwch ddewis dilyn llwybr byr ond serth i lawr yn ôl i’r maes parcio. Mae’r prif lwybr yn mynd yn ei flaen ar hyd llwybrau culion drwy’r coetir a cheir rhywfaint o waith dringo mewn mannau. Mae mainc yn yr olygfan.  

Ar ôl gwaith dringo serth drwy’r coetir, mae’r llwybr yn dod at ffordd goedwig ac yna’n mynd yn ei flaen gan ddringo at olygfan Burfa.

Mae’r olygfan yn edrych dros fryngaer Oes Haearn Burfa Bank, ac oddi yma ceir golygfeydd dros Ddyffryn Maesyfed a thu hwnt, draw i Swydd Henffordd.

""

Coedwig Maesyfed

Mae Coed Nash wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.

Roedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol.

Yr adeg honno, nid ardal goediog oedd hon ond darn o dir agored, wedi ei neilltuo’n gyfreithiol fel tir hela ceirw i’r brenhinoedd Normanaidd.

Heddiw mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion serth a bryniau, ac mae’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Y Domen Ddu sy’n 650 metr (2150 troedfedd) o uchder.

Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir arall a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed.

Ewch i Coed Cwningar a Fishpools i gael rhagor o wybodaeth. 

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coed Nash yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Nash ar gyrion Llanandras, oddi ar ffordd B4356.

Mae yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coed Nash ar fap Arolwg Ordnans (AR) 201.

Y cyfeirnod grid OS yw SO 314 635.

Cyfarwyddiadau

Mae Coed Nash oddi ar ffordd B4356 sy’n osgoi canol Llanandras.

Dewch oddi ar ffordd B4356 gyferbyn â’r ganolfan hamdden a dilynwch yr is-ffordd gul.

Pan welwch arwydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru cadwch i’r dde a dilynwch y ffordd i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Trefyclo.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf