Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Llwybr cerdded drwy goetir â golygfeydd dros y dyffryn
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Fishpools wedi’i leoli yn yr ardal elwir yn Goedwig Maesyfed a ddefnyddiwyd fel tir hela brenhinol am ganrifoedd.
Yn yr oesoedd canol, nid coedwig ydoedd ond ardal heb fod yn gaeedig a ddefnyddiwyd i hela ceirw.
Heddiw, mae’n dir ffermio mynydd gyda gweundir, dyffrynnoedd culion a serth a bryniau.
Mae’r llwybr cerdded gydag arwyddbyst o faes parcio Fishpools yn arwain at olygfan dros bentref Bleddfa a’r wlad gyfagos.
Ystyr Bleddfa yw “lle’r blaidd” ac yn ôl y traddodiad, gyrrwyd y bleiddiaid olaf yng Nghymru allan o Goedwig Maesyfed i’r dyffryn yma a’u lladd.
Mae gan y llwybr cerdded arwyddbyst ac mae’n cychwyn o faes parcio.
2¾ milltir, 4.3 cilomedr, cymedrol
Yn gyntaf mae’r llwybr yn mynd heibio hen dŵr canfod dŵr a ddefnyddid i arolygu’r biblinell sy’n ymestyn o Ddyffryn Elan i gronfa ddŵr yng Nghanolbarth Lloegr.
Ym mhellach ymlaen, ceir golygfeydd prydferth i’r gorllewin, allan ar hyd y dyffryn a’r bryniau o amgylch Abaty Cwm Hir.
Mae’r llwybr dolen opsiynol yn mynd o amgylch y rhostir lle’r oedd gan bobl leol ar un adeg yr hawl i dorri mawn ar gyfer tanwydd (hawl hynafol o’r enw “mawnog”).
Mae Fishpools wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.
Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed.
Ewch i goed Nash a choed Cwningar am fwy o wybodaeth.
Sylwch:
Mae maes parcio Fishpools 7 milltir i’r gorllewin o Drefyclo.
Mae yn Sir Powys.
Gallwch barcio am ddim yn y maes parcio.
Dilynwch ffordd A488 o Drefyclo i bentref bach Bleddfa. Arhoswch ar y ffordd hon am ychydig mwy na 1 milltir a bydd maes parcio Fishpools ar yr ochr chwith.
Mae Fishpools ar fap Arolwg Ordnans (AR) 200.
Y cyfeirnod grid OS yw SO 188 681.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhrefyclo.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000