Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Pont dros geunant yn arwain at goetir â rhaeadr a bryngaer enfawr
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coed Maenarthur yn swatio yng Nghwm Ystwyth ger pentref Pont-rhyd-y-groes.
Ar un adeg bu’r ardal yn gartref i ddiwydiant gwaith plwm prysur ac mae Coed Maenarthur ei hunan yn llawn hanes.
Mae yno daith gerdded â chyfeirbwyntiau drwy’r coetir, y gellir ei chyrraedd ar draws pont uchel dros Afon Ystwyth.
Cymrodd y bont bren hon le’r un a ddefnyddiwyd gan y mwyngloddwyr y credir iddi gwympo.
Mae’r daith yn arwain at Gastell Grogwynion, un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn mynd heibio’n agos i raeadr drawiadol.
Mae Coed Maenarthur yn arbennig o hardd yn yr hydref, pan fo’r coed yn dân o felyn a choch.
Ceir arwyddbyst ar y llwybr cerdded ac mae ar ffurf cylchdaith. Mae’n dechrau’n agos i olwyn ddŵr pentref Pont-rhyd-y-groes.
2.9 milltir, 4.6 cilometr, cymedrol
I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr ac i lawr y grisiau at y bont dros y ceunant.
Mae’r llwybr yn dringo llechwedd goediog y fryngaer o’r Oes Haearn ac yn arwain at lannerch gyda golygfeydd dros y coed ac i lawr i’r cwm.
Mae’r llwybr yn mynd heibio i raeadr ysblennydd ac yna’n dilyn yr afon chwim.
Mae’n dychwelyd hyd lwybr ar hyd gwaelod y ceunant.
Mae gan y daith gerdded hon nifer o ddringfeydd hir a disgyniadau serth.
Sylwch:
Mae Coed Maenarthur 14 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Nid oes maes parcio yma - parciwch yn ystyrlon yn y pentref.
Mae yn Sir Ceredigion.
Cymerwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed. Dilynwch y ffordd hon drwy Drawsgoed tan ei bod yn croesi Afon Ystwyth, yna trowch yn syth i’r chwith a dilyn yr afon tuag at Bont-rhyd-y-groes. Wrth y fynedfa at Bont-rhyd-y-groes, parciwch yn synhwyrol ar ochr chwith y ffordd wrth ymyl Pont y Glowyr (gyferbyn â’r olwyn ddŵr).
Mae Coed Maenarthur ar fap Arolwg Ordnans (AR) 213.
Cyfeirnod grid yr AO yw SN 738 722.
Yr orsaf drên agosaf yw Aberystwyth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk