Ymweliadau hygyrch
Profiad o’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd beth...
Rydym yn gofalu am lawer o leoedd arbennig o amgylch morlin Cymru, o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol gyda thwyni tywod enfawr i goedwigoedd ger traethau.
Ym mhob lle, mae llwybrau cerdded a phaneli gwybodaeth i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch ymweliad.
Gan Gymru mae’r ansawdd dŵr ymdrochi gorau yn y DU ac mae llawer o'n traethau yn ennill gwobrau fel Baneri Glas, Gwobrau Arfordir Glas a Gwobrau Glan Môr.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am ein lleoedd gorau i ymweld â nhw am ddiwrnod ar lan y môr neu i gychwyn ar eich antur eich hun ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Tywyn Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol arfordirol gyntaf Cymru. ac mae’r twyni tywod, y corsydd arfordirol a’r traethau creigiog yn gartref i lu o blanhigion ac anifeiliaid.
Ochr yn ochr â’r warchodfa mae coedwig gonwydd fawr, sy’n cynnal un o safleoedd cadwraeth pwysicaf y wiwer goch yn y DU.
Mwynhewch gerdded ar hyd y traeth neu dilynwch y cyfeirbwyntiau ar un o’n llwybrau beicio neu gerdded.
Cadwch lygad am y blodau lliwgar sy’n gorchuddio’r twyni yn yr haf a rhydwyr, hwyaid a gwyddau mudol yn y morydau yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
Ceir hefyd llwybr rhedeg, lle chwarae pren, a llwybr pos anifeiliaid i’r teulu oll.
Dysgwch fwy am ymweld â Choedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch
Mae Morfa Dyffryn a Morfa Harlech yn gartref i dwyni tywod anferth.
Efallai bod golwg llwm a digroeso ar y twyni, ond maent yn cynnal ychydig o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol iawn gan gynnwys tegeirianau syfrdanol yn y gwanwyn a’r haf a ffyngau trawiadol yn yr hydref.
Gallwch ddilyn naill ai llwybr trwy’r twyni ac i’r traeth agored neu lwybr estyllod pren byr sy’n ymestyn o’r maes parcio i’r traeth.
Mae’r llwybr pren byr yn wastad ac yn llydan o’r maes parcio i’r traeth Morfa Dyrffyn ac yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio; yn y pen draw ceir golygfan a chanddo fainc picnic.
Mae Morfa Harlech tua chwe milltir i'r gogledd o Forfa Dyffryn ar hyd yr A496.
Yma mae llwybr cyhoeddus yn arwain o’r maes parcio i’r traeth gyda’i olygfeydd trawiadol i Eryri a Phen Llŷn.
Dysgwch fwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn
Dysgwch fwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech
Lleolir twyni tywod gwych Ynyslas ar ochr ddeheuol ceg yr aber, a rhain yw’r twyni mwyaf yng Ngheredigion.
Mae’r aber Afon Dyfi yn cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt fflatiau llaid, banciau tywod a morfa heli, ac yn darparu ardaloedd bwydo a chlwydo arbennig i adar dŵr.
Gallwch archwilio'r twyni a glan y môr, y traeth ar y llwybrau cerdded o'r maes parcio neu yn syml dilynwch eich trwyn a mwynhewch y mannau agored eang a golygfeydd godidog dros yr aber.
Mae gan Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas arddangosfa am beth i’w weld yn y warchodfa, a siop sy’n gwerthu diodydd poeth ac oer, byrbrydau, llyfrau a chynnyrch lleol.
Sylwch fod gan y traeth faner goch oherwydd bod cerrynt llanw cryf iawn - ni chaniateir nofio nac offer wedi’i lenwi ag aer.
Dysgwch fwy am ymweld â Thwyni Ynyslas a’r rhannau eraill o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi
Mae’r traeth tywod hir yn Oxwich ymhlith y goreuon yng Nghymru a gallwch fwynhau diwrnod arbennig i’r teulu yma – neidio yn y tonnau, archwilio’r pyllau glan môr, a mwynhau’r golygfeydd ar draws y bae.
Bydd yn galed llusgo’ch hunain i ffwrdd o’r traeth prydferth, ond os cerddwch ychydig tua’r mewndir cewch eich gwobrwyo â gwerddon bywyd gwyllt yn y twyni, sy’n cynnal creaduriaid prin a blodau gwyllt lliwgar.
Mae’r warchodfa amrywiol hon hefyd yn cynnwys morfa heli, llynnoedd dŵr croyw, coetir a chlogwyni calchfaen, ynghyd â’r holl fywyd gwyllt amrywiol a gynhelir gan gymaint o amrywiaeth o gynefinoedd.
Mae Ystâd Penrice yn darparu cyfleusterau i ymwelwyr yn nhraeth Oxwich.
Dysgwch fwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich.
Mae Coedwig Pen-bre yn goedwig binwydd anferth a gafodd ei chreu ar dwyni tywod fel rhan o raglen i dyfu coedwigoedd newydd yn lle’r rhai a dorrwyd i lawr i gyflenwi pren ar gyfer y ddau Ryfel Byd.
Mae Coedwig Pen-bre yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion, gloÿnnod byw, adar cân mudol ac adar ysglyfaethus.
Mae ein llwybr cerdded wedi’i arwyddo yn dilyn hen draciau trên trwy'r coed ac yn arwain at adfeilion ffatri ffrwydron o’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r goedwig wrth ymyl Parc Gwledig Pen-bre (sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Gâr) sydd â gweithgareddau hamdden.
Dysgwch fwy am ymweld â Choedwig Pen-bre
Mae’r hafan bywyd gwyllt hon o welyau cyrs, morfa heli a lagwnau heli ymhlith y lleoedd gorau yng Nghymru i weld adar gwyllt.
Maent yn heidio yma am fod y warchodfa’n darparu digonedd o fwyd, cysgod, a dŵr glân a phryd bynnag yr ymwelwch yn ystod y flwyddyn, byddwch yn siŵr o weld a chlywed llawer o wahanol rywogaethau.
Mwynhewch'r rhwydwaith o lwybrau o gwmpas y gwelyau cyrs a chwilio’r pyllau o un o’r llwyfannau gwylio neu cerddwch i'r arfordir a'r Goleudy Dwyrain Wysg ac oddi yno ceir golygfeydd dros Aber Afon Hafren.
Mae llawer o’r llwybrau o gwmpas y gwelyau cyrs yn addas i gadeiriau olwyn.
Mae’r ganolfan groeso, y caffi a’r siop yn cael eu gweithredu gan RSPB.
Dysgwch fwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd
Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, yn mynd o amgylch yr arfordir o Gaer i Gas-gwent.
Mae wedi’i arwyddo gan gyfeirbwyntiau ‘draig a chragen’ glas a melyn arbennig.
Mae'r rhan ogleddol yn cynnig golygfeydd arfordirol creigiog a dramatig gyda Pharc Cenedlaethol Eryri yn gefndir trawiadol.
Mae'r llwybr drwy ganolbarth a gorllewin Cymru yn cynnwys nifer o draethau hardd, o gildraethau cysgodol i draethau tywodlyd enfawr, ac mae Bae Ceredigion yn gartref i'r haid fwyaf o ddolffiniaid yn y DU.
Mae'r llwybr trwy Dde Cymru yn llawn amrywiaeth ac yn cynnwys tirweddau dinesig, bywyd pentref a golygfeydd godidog o aberoedd.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod am drafnidiaeth gyhoeddus, i ddarllen yr hyn mae'r Cod Cefn Gwlad yn ei ddweud am weithgareddau dŵr neu i ddarganfod beth yw ansawdd dŵr ymdrochi.
Er mwyn cael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru
Ewch i we-dudalennau’r Cod Cefn Gwlad
Chwiliwch ein map ar-lein i weld beth yw ansawdd dŵr ymdrochi
Rydym ymhlith y darparwyr mwyaf o gyfleusterau hamdden awyr agored yng Nghymru.
Mae ein cannoedd o lwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd o’r radd flaenaf, canolfannau croeso ac ardaloedd picnic mewn coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn rhai o rannau mwyaf prydferth y wlad.
Dysgwch fwy am ymweld â'n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Dysgwch fwy am bethau i’w gwneud yn ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol