Beicio
Darganfod ble gallwch chi feicio yng Nghymru a...
Boed haul neu hindda gallwch fwynhau diwrnod gwych i'r teulu yn ein coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae gan bob coetir a Gwarchodfa Natur Genedlaethol le i'r ymwelwyr iau ddefnyddio eu hegni a mynd yn agosach at natur.
Mae gan rai llefydd gyfleusterau i deuluoedd megis ardaloedd chwarae, llwybrau beicio hawdd a llwybrau cerdded sy'n addas i fygis.
Mae caffis a thoiledau ar gael hefyd pan fyddwch chi eu hangen.
Darllenwch mwy i gael rhagor o awgrymiadau gwych am ddyddiau allan i'r teulu yn yr awyr agored gwych.
Mae coesau bach yn blino'n hawdd, felly mae llawer o lwybrau byrrach i'w cael sy'n berffaith i goesau bach ynghyd â llwybrau â phosau i helpu i gadw diddordeb y cerddwyr iau ar hyd y ffordd.
Mae rhai o'n llwybrau cerdded yn dilyn llwybrau llydan a gwastad sy'n addas i fygis.
Dyma ein dewis o lefydd gyda llwybrau cerdded i deuluoedd.
Cae'n y Coed, ger Betws-y-Coed
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau
Coed Moel Famau Forest, ger Yr Wyddgrug
Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn
Coedwig Dyfi – Coed Tan y Coed, ger Machynlleth
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd
Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot
O dasgu mewn pyllau i chwilio am chwilod, does dim byd tebyg i'r rhyddid wrth chwarae yn yr awyr agored.
Mae digon o hwyl i'w gael yn yr awyr agored yn y llefydd yr ydym yn gofalu amdanynt ac mae gan rai o'n coedwigoedd ardaloedd chwarae, hefyd.
Mae'r ardaloedd chwarae yn y coetiroedd hyn yn manteisio ar eu lleoliad naturiol ac yn lle gwych i'r rhai bach ddefnyddio'u hegni.
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau
Coed Moel Famau Forest, ger Yr Wyddgrug
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd
Mae'n hawdd mynd â'r plant ar gefn beic yn un o'n coedwigoedd diolch i lwybrau beicio addas i'r teulu sydd â chyfeirbwyntiau.
Cadwch olwg am lwybrau beicio mynydd gradd werdd neu glas sydd wedi'u hanelu at ddechreuwyr ac yn ddiwrnod allan perffaith i blant hŷn.
Mae gan rai o'n canolfannau i ymwelwyr lwybrau beicio mynydd byrrach wedi'u hadeiladu yn benodol i feicwyr ifanc ac ardaloedd sgiliau wedi'u hadeiladu i'r diben er mwyn ymarfer technegau beicio cyn dechrau ar lwybr.
Mae rhai yn llogi beiciau a chanddynt gyfleusterau golchi felly nid yn unig y gallwch chi logi dwy olwyn, fe allwch eu golchi hefyd!
Ewch i grwydro'r awyr agored ar ddwy olwyn yn un o'r llefydd hyn sydd â'r llwybrau beicio gorau i deuluoedd.
Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau
Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn
Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot
Mae ein coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn llefydd gwych i ddianc o brysurdeb bywyd a mynd yn agos at natur.
Mae llawer ohonynt yn hygyrch i'r teulu cyfan ac yn llefydd gwych i fwynhau treulio amser gyda'ch gilydd a darganfod ychydig o fywyd gwyllt rhyfeddol Cymru.
Byddwch chi allan yng nghanol y bywyd gwyllt pa bryd bynnag y byddwch chi'n ymweld ag un o'n llefydd ni, ond mae yna rai sydd â chyfleusterau i'r teulu ynghyd â chyfle gwych i weld pob math o wahanol fywyd gwyllt.
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi: Ynyslas a Chanolfan Ymwelwyr, ger Aberystwyth (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn, ger Abermaw
Weithiau'r cyfan yr ydych chi eisiau yw diwrnod allan yn rhywle gydag ychydig o gysur.
Mae gan ein canolfannau i ymwelwyr bopeth y mae ei angen arnoch i wneud ymweliad gyda chwilotwyr ifanc yn un hawdd.
O siopau yn gwerthu hufen iâ a nwyddau i blant wario eu harian poced i ganolfannau i ymwelwyr gyda chaffis a thoiledau; popeth y mae ei angen arnoch chi.
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi a Chanolfan Ymwelwyr, ger Aberystwyth (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)
Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Chanolfan Ymwelwyr Cadair Idris, ger Dolgellau (gwarchodfa ar agor drwy'r blwyddyn; canolfan ymwelwyr ar agor yn dymhorol)
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd (canolfan i ymwelwyr a redir gan RSPB)
Parc Coedwig Afan, ger Port Talbot (canolfan i ymwelwyr a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot)
Gallwch logi pecyn darganfod rhad ac am ddim mewn tair o’n canolfannau ymwelwyr.
Mae pob pecyn yn cynnwys offer defnyddiol fel binocwlars, chwyddwydr, potyn chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd ag arweiniad yn esbonio sut i’w defnyddio.