Beicio
Darganfod ble gallwch chi feicio yng Nghymru a...
Darganfod ble gallwch chi farchogaeth ceffyl neu yrru car a cheffyl yng Nghymru a chael gwybodaeth er mwyn cynllunio eich ymweliad
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae’r rhwydwaith o lwybrau ceffylau sydd yng Nghymru’n cynnig cyfleoedd gwych i ddechreuwyr ac arbenigwyr fynd allan i’r awyr agored ar gefn ceffyl.
Mae gennych hawl i farchogaeth ceffyl ar lwybrau ceffylau ac ar bob cilffordd. Mae’r rhain yn agored i ddefnyddwyr eraill hefyd, fel beicwyr a cherddwyr.
Mae gennych hawl i yrru car a cheffyl ar gilffyrdd cyfyngedig ac ar gilffyrdd sy’n agored i bob math o draffig.
Gallwch hefyd farchogaeth ceffyl neu yrru car a cheffyl yn rhai o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
O gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de, mae Llwybr Arfordir Cymru’n darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch Cymru.
Heb fod yn bell o’r llwybr, mae yna lwybrau ceffylau, coedwigoedd a thraethau lle gallwch chi farchogaeth ceffyl. Mae yna hefyd ganolfannau merlota sy’n darparu ar gyfer marchogion o bob oed a gallu.
Edrychwch ar wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael mwy o wybodaeth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rheoli llwybrau meddal sydd wedi cael eu creu’n bwrpasol ar gyfer pobl ar gefn ceffylau yng Nghoedwig Crychan, ger Llanymddyfri, a Choedwig Dyfnant, ger y Trallwng.
Mae llawer o’r coetiroedd eraill sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnig cyfleoedd i farchogaeth ceffylau, ac maen nhw’n cynnwys rhai llwybrau ag arwyddbyst ar gyfer pobl ar gefn ceffyl.
Cafodd y llwybrau ag arwyddbyst yng Nghoedwig Crychan eu creu mewn partneriaeth â Chymdeithas Coedwig Crychan.
Maen nhw’n dilyn hen draciau ac yn cysylltu maes parcio Halfway â’r meysydd parcio eraill sydd yng Nghoedwig Crychan - Brynffo, Esgair Fwyog a Fferm Cefn.
Mae yna hefyd lwybrau byr sy’n ymuno â Llwybr Epynt, llwybr ceffylau 50 milltir o hyd o amgylch terfynau ardal hyfforddiant milwrol Pontsenni.
Mae cyfleusterau ar gyfer marchogion yn y pedwar maes parcio hyn.
Darganfod mwy am farchogaeth ceffylau yng Nghoedwig Crychan (Halfway) neu yng Nghoedwig Crychan (lleoedd eraill).
Casgliad o lwybrau ag arwyddbyst ar gyfer pobl sy’n marchogaeth ceffylau yng Nghoedwig Dyfnant yw Llwybrau’r Enfys.
Cafodd y llwybrau eu datblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae’r maes parcio ym Mhen-y-ffordd yng Nghoedwig Dyfnant wedi cael ei adeiladu’n bwrpasol, ac mae ganddo system unffordd er mwyn i gerbydau sy’n tynnu trelar allu dod i mewn ar hyd un ffordd a mynd allan ar hyd ffordd arall. Mae digon o le i barcio trelars ceffylau a cheir yno, ac mae yna gorlan ar gyfer ceffylau.
Darganfod mwy am farchogaeth ceffylau yng Nghoedwig Dyfnant.
Gallwch farchogaeth ceffylau mewn llawer o goetiroedd eraill sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Does dim angen i chi gael trwydded i yrru car a cheffyl yng Nghoedwig Crychan ger Llanymddyfri nac yng Nghoedwig Dyfnant ger y Trallwng.
Bydd angen i chi gael trwydded i yrru car a cheffyl ym mhob coetir arall sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ewch i’r dudalen Coetiroedd a Chi i ddarganfod sut i wneud cais am drwydded.
Yr Hendre yw’r man cychwyn ar gyfer y llwybrau car a cheffyl sydd yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae’r maes parcio’n cynnwys rheiliau i roi’r ceffyl yn sownd, lle tawel i roi harnais arno a bachu’r car, a digon o le i gadw trelars ceffylau.
Darganfod mwy am yrru car a cheffyl yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae croeso i unrhyw un yrru car a cheffyl ar hyd y ffyrdd coedwig yng Nghoedwig Crychan.
Gallwch gychwyn dilyn Llwybr Car a Cheffyl Fferm Cefn o feysydd parcio pwrpasol Fferm Cefn neu o faes parcio Brynffo. Brynffo yw’r pwynt mynediad sy’n cael ei argymell ar gyfer gyrru car a cheffyl gan fod mwy o le yno i barcio a dadlwytho.
Darganfod mwy am yrru car a cheffyl yng Nghoedwig Crychan (Brynffo, Esgair Fwyog a Fferm Cefn).
Weithiau mae’n rhaid cau neu wyro hawl dramwy gyhoeddus.
Dylai arwyddion ar y safle ddweud wrthych chi ydy hawl dramwy gyhoeddus ar agor neu wedi cau.
Ewch i Coetiroedd a Chi i ddarganfod sut i gael caniatâd i drefnu digwyddiad marchogaeth ceffylau neu yrru car a cheffyl yn un o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Darganfod mwy am y concordat rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Ceffylau Prydain.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.
Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.
Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn i chi gychwyn.