Beicio
Ein llwybrau beicio a gwybodaeth er mwyn cynllunio...
Mae cyfeiriannu’n gamp llawn antur y gallwch ei mwynhau yn yr awyr agored.
Byddwch yn cerdded neu’n rhedeg ac yn ceisio canfod eich ffordd o amgylch cwrs gan ddefnyddio map manwl a chwmpawd weithiau.
Y nod yw canfod eich ffordd o un pwynt rheoli i’r llall gan ddewis y llwybr gorau er mwyn cwblhau’r cwrs yn yr amser cyflymaf.
Does dim gwahaniaeth pa mor ffit ydych chi – gallwch redeg neu gerdded y cwrs ar eich cyflymder eich hun.
Mae yna gyrsiau cyfeiriannu penodol mewn pedair coedwig sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae yna bedwar cwrs cyfeiriannu parhaol o Ganolfan Bwlch Nant Yr Arian, ger Aberystwyth.
Mae’r cyrsiau’n cychwyn ac yn gorffen ym maes parcio'r ganolfan ymwelwyr.
Edrychwch ar dudalen Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant Yy Arian i gael mwy o wybodaeth.
Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau.
Mae’r cyrsiau’n cychwyn ac yn gorffen ym maes parcio'r ganolfan ymwelwyr.
Edrychwch ar dudalen Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin i gael mwy o wybodaeth.
Mae ein cwrs cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Gwydir.
Mae'n dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen yng nghanol y pentref.
Mwy o wybodaeth ynglŷn â chyfeiriannu ym Mharc Coedwig Gwydir
Mae tri chwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Niwbwrch.
Maent yn cychwyn ac yn gorffen ger y prif faes parcio (Traeth)
Mwy o wybodaeth ynglŷn â chyfeiriannu yng Nghoedwig Niwbwrch
Weithiau bydd angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybrau er diogelwch i chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill.
Gwiriwch y dudalen am y coetir neu warchodfa ar y wefan hon am unrhyw newidiadau cyn i chi ymweld, yn enwedig os ydych am ddilyn llwybr penodol, a dilynwch unrhyw arwyddion dros dro a chyfarwyddiadau gan staff.
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dysgwch fwy am drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad.
Mae'r Codau Cefn Gwlad yn darparu cyngor i gynllunio ymweliad â'r awyr agored ac i helpu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.
Dysgwch fwy am y Codau Cefn Gwlad.
British Orienteering yw’r corff llywodraethu ar gyfer camp cyfeiriannu yn y Deyrnas Unedig.
Ewch i wefan British Orienteering i gael mwy o wybodaeth am gyfeiriannu.