Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Rhedeg

Darganfod ble gallwch chi redeg yng Nghymru a pha wybodaeth y gallwch ei chael er mwyn cynllunio eich ymweliad

Grŵp o fenywod yn rhedeg trwy Goed y Brenin

Run Coed y Brenin

Ble galla i redeg yng Nghymru?

Beth bynnag rydych chi’n ei fwynhau, mynd am jog hamddenol neu baratoi ar gyfer digwyddiad pellter hir, mae rhedeg yn ffordd dda iawn o gadw’n ffit a mwynhau’r awyr agored.

Gallwch redeg mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru, ac mewn llawer iawn o leoedd eraill hefyd.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod ble gallwch chi redeg.

  • Tir mynediad agored: Gallwch redeg ble bynnag y mynnwch chi ar dir sydd wedi cael ei ddynodi’n dir “mynediad agored”. Gall cyfyngiadau fod ar waith ar dir mynediad o dro i dro – oherwydd rhesymau’n ymwneud â rheoli’r tir neu ddiogelwch y cyhoedd
  • Llwybrau cyhoeddus: Mae llwybrau cyhoeddus ym mhob cwr o Gymru.  Maen nhw’n cael eu cynnal gan sefydliadau amrywiol, fel awdurdodau lleol, y Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llawer o berchnogion tir eraill
  • Hawliau tramwy cyhoeddus eraill: Gallwch redeg ar lwybrau ceffylau a chilffyrdd.  Mae’r rhain yn agored i ddefnyddwyr eraill hefyd, fel beicwyr a phobl ar gefn ceffylau
  • Llwybrau hir: Mae gan Gymru lawer o lwybrau hir, gan gynnwys tri Llwybr Cenedlaethol a Llwybr Arfordir Cymru, llwybr 870 milltir o hyd o amgylch Cymru
  • Coetiroedd a gwarchodfeydd natur cenedlaethol: Gallwch redeg ar lwybrau a ffyrdd yn y rhan fwyaf o’r coetiroedd a’r gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae yna hefyd lwybrau rhedeg wedi’u nodi ag arwyddbyst ym Mharc Coedwig Coed y Brenin ac ym Mharc Coedwig Bwlch Nantyrarian

I gael mwy o wybodaeth am dir mynediad agored a hawliau tramwy cyhoeddus, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.

Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru

Mae Llwybrau Cenedlaethol yn llwybrau pell ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth ceffylau drwy rai o’r tirweddau gorau yng Nghymru a Lloegr.

Mae tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru:

  • Llwybr Glyndŵr
  • Llwybr Clawdd Offa
  • Llwybr Arfordir Sir Benfro

Er mwyn cael gwybodaeth am bob llwybr a chynllunio eich taith, edrychwch ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.

Llwybr Arfordir Cymru

O gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de, mae Llwybr Arfordir Cymru’n darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Coetiroedd a gwarchodfeydd natur cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi creu llwybrau rhedeg ag arwyddbyst yn amryw coedwigoedd. 

Gallwch hefyd redeg ar unrhyw rai o’r ffyrdd neu’r llwybrau cerdded ag arwyddbyst sydd yn y gwarchodfeydd natur cenedlaethol a’r coetiroedd eraill sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Edrychwch ar y dudalen lleoedd i fynd iddyn nhw i gael mwy o wybodaeth am y llwybrau hyn.

Bydd angen i chi wisgo dillad ac esgidiau addas gan fod rhai rhannau o’r llwybrau hir yn dilyn llwybrau cerdded mwdlyd. Byddem yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau addas i redeg ar lwybrau.

Rhedeg yng Nghoedwig Niwbwrch 

Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a gallwch redeg llwybr y ras swyddogol.
  • Llwybr Rhedeg y Gymanwlad (dechrau: Maes parcio’r Traeth, pellter: 6¾ milltir/11 cilomedr)

 Darganfod mwy am redeg yng Nghoedwig Niwbwrch

Rhedeg ym Mharc Coedwig Coed y Brenin

Mae pedwar llwybr ag arwyddbyst sy’n addas ar gyfer rhedwyr yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin.

  • Maen nhw’n amrywio o ran hyd o ychydig filltiroedd i hanner marathon llawn, ac maen nhw wedi cael eu cynllunio ar gyfer dechreuwyr a rhedwyr mwy profiadol
  • Mae’r llwybrau’n cynnwys cyfuniad diddorol o ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus anwastad heb eu tarmacio, sydd â gwreiddiau, mwd a chreigiau yma ac acw arnyn nhw. Mae yna elltydd serth hefyd, ar i fyny ac ar i lawr, ond mae yna ambell ddarn o ffordd sydd wedi’i tharmacio
  • Gallwch gael golwg sydyn ar y llwybrau rhedeg drwy wylio fideo Coed y Brenin – cychwynnwch ar eich antur
  • Mae siop redeg yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Darganfod mwy am redeg ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Rhedeg yng Nghoedwig Bwlch Nant yr Arian

Mae dau lwybr rhedeg sydd wedi’u nodi ag arwyddbyst yn cychwyn o Ganolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nantyrarian.

  • Mae un llwybr rhedeg yn bum cilometr o hyd ac mae’r llall yn 10 cilometr
  • Mae’r ddau lwybr yn cynnwys rhannau gwastad, dringfeydd ac arwynebau amrywiol

Darganfod mwy am redeg ym Mharc Coedwig Bwlch Nant yr Arian.

Rhedeg yn Nhan y Coed yng Nghoedwig y Dyfi

Mae dau lwybr rhedeg wedi'i nodi ag arwyddbyst yn cychwyn o faes parcio Tan y Coed.

  • Mae'r ddau lwybr yn tua 5 milltir/8cilometr o hyd, a'n cynnwys chyfnodau hir o ddringo a llethrau serth ar hyd ffyrdd coedwig a llwybrau garw.

Darganfod mwy am redeg yn Nhan y Coed.

Sut alla i gael gwybodaeth am lwybrau sydd wedi cael eu cau neu eu gwyro?

Weithiau mae’n rhaid cau neu wyro hawl dramwy gyhoeddus.

Dylai arwyddion ar y safle ddweud wrthych chi ydy hawl dramwy gyhoeddus ar agor neu wedi cau.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae gwaharddiadau neu gyfyngiadau’n cael eu defnyddio ar dir mynediad agored, ewch i’r dudalen rheoli mynediad.

Sut alla i gael caniatâd ar gyfer digwyddiad rhedeg mewn coetir sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

Ewch i Coetiroedd a Chi i ddarganfod sut i gael caniatâd i drefnu digwyddiad rhedeg yn un o’r coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Cod Cefn Gwlad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.

Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn eich ymweliad.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.