Croeso

Rydym yn darparu amrywiaeth o lwybrau ar gyfer beicwyr o bob lefel a gallu yn y coetiroedd yr ydym yn gofalu amdanynt.

Mae'r llwybrau wedi'u harwyddo o'r dechrau i'r diwedda ac yn cychwyn o faes parcio fel arfer.

Mae'r llwybrau oddi ar y ffordd yn bennaf ond gall graddiannau fod yn serth neu’n amrywiol a gall arwynebau fod yn anwastad, yn rhydd neu’n dyllog.

Mae panel gwybodaeth yn y maes parcio yn nodi pa arwyddion (saeth wedi’i lliwio neu symbol arall) i'w dilyn ac mae ganddo wybodaeth am radd y llwybr, faint o amser y gall ei gymryd i'w gwblhau.

Mae ein llwybrau yn cynnwys:

  • llwybrau beicio
  • llwybrau beicio graean
  • llwybrau'n addas ar gyfer beiciau addasol
  • llwybrau beicio mynydd

Daliwch ati i ddarllen i ddysgu mwy am ein llwybrau a ble arall gallwch feicio yng Nghymru.

Llwybrau beicio

Mae yna lwybrau beicio yn y llefydd hyn:

Rhagor o wybodaeth

Dilynwch y ddolen i’r dudalen am bob un o’r llefydd sydd wedi’u rhestru yn yr adran hon

Dewch o hyd i lwybr beicio ar y map o’n llefydd i ymweld â nhw

Llwybr beicio graean

Mae yna saith llwybr beicio graean ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Mae'r llwybrau hyn yn cynnig ffordd i archwilio'r parc coedwig heb fynd ar y llwybrau beicio mynydd technegol ac mae yna opsiynau i amrywiaeth o sgiliau a galluoedd.

Mae’r llwybrau wedi’u harwyddo o faes parcio Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ac maent yn dilyn ffyrdd coedwig a lonydd tarmac yn bennaf.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y llwybrau beicio graean, gan gynnwys cardiau llwybr y gellir eu lawrlwytho, ewch i Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Llwybrau'n addas ar gyfer beiciau addasol

Mae rhai o'n llwybrau'n addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio beiciau addasol.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai rhai o'r llwybrau hyn fod cyn i chi ymweld.

Person anabl sy’n siarad ar bob ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol.

Rhagor o wybodaeth

I wylio’r ffilmiau ewch i Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybrau beicio mynydd

Yn y coetiroedd a’r coedwigoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru y mae rhai o’r llwybrau beicio mynydd enwocaf yng Nghymru.

Ceir llwybrau sy’n addas i ddechreuwyr hyd at feicwyr profiadol ac mae pob un wedi ei raddio fel y gallwch chi ddewis llwybr sy’n iawn i chi.

Os hoffech chi ddatblygu a gwella eich sgiliau beicio ewch draw i un o’n hardaloedd sgiliau neu barciau beicio.

Rhagor o wybodaeth

Edrychwch ar ein tudalen beicio mynydd i gael mwy o wybodaeth.

Dewch o hyd i lwybr beicio mynydd ar y map o’n llefydd i ymweld â nhw

Cau a dargyfeiriadau llwybrau

Weithiau bydd angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybrau er diogelwch i chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill.

Gwiriwch y dudalen am y coetir neu warchodfa ar y wefan hon am unrhyw newidiadau cyn i chi ymweld, yn enwedig os ydych am ddilyn llwybr penodol, a dilynwch unrhyw arwyddion dros dro a chyfarwyddiadau gan staff.

Hawliau tramwy cyhoeddus

Mae hawliau tramwy cyhoeddus mewn llawer o'n coetiroedd a'n gwarchodfeydd.

Gallwch feicio ar y categori hyn o hawl tramwy cyhoeddus:

  • Llwybrau ceffyl cyhoeddus
  • Cilffyrdd cyfyngedig
  • Cilffyrdd sy’n agored i bob math o draffig

Dysgwch fwy am hawliau tramwy cyhoeddus.

Ffyrdd coedwig

Gallwch feicio ar unrhyw ffyrdd coedwig o fewn coetiroedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sylwch nad oes arwyddbyst ar y ffyrdd hyn ac efallai y cânt eu defnyddio gan gerbydau ar gyfer gwaith coedwigaeth.

Gall graddiannau fod yn serth neu’n amrywiol a gall arwynebau fod yn anwastad, yn rhydd neu’n dyllog.

Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhwydwaith ar draws y DU o lwybrau ag arwyddion i’w harchwilio ar droed, ar olwynion neu ar feic.

Gweler gwefan Sustrans am fwy o wybodaeth.

Llwybrau Cenedlaethol

Mae tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru ac mae rhai adrannau yn agored i feicwyr.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch arfordir Cymru acvmae rhai adrannau yn agored i feicwyr.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.

Cod Beicio’r Goedwig

I ddarllen y Cod Beicio’r Goedwig ewch i feicio mynydd.

Codau Cefn Gwlad

Mae'r Codau Cefn Gwlad yn darparu cyngor i gynllunio ymweliad â'r awyr agored ac i helpu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.

Dysgwch fwy am y Codau Cefn Gwlad

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd god ymddygiad ar gyfer beicio mewn coedwigoedd. Gallwch weld y cod ar ein tudalen beicio mynydd.

Caniatâd ar gyfer digwyddiadau

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dysgwch fwy am drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf