Beicio
Darganfod ble gallwch chi feicio yng Nghymru a...
Ein llwybrau cerdded a gwybodaeth i gynllunio'ch taith gerdded
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae yna lwybrau cerdded yn llawer o'r coetiroedd a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r llwybrau cerdded hyn wedi'u harwyddo o'r dechrau i'r diwedd ac wedi’u graddio i roi syniad o’u hanhawster.
Maent fel arfer yn cychwyn o faes parcio lle mae panel gwybodaeth am y llwybr.
Mae'r panel yn nodi pa arwyddion (saeth wedi’i lliwio neu symbol arall) i'w dilyn ac mae ganddo wybodaeth am radd y llwybr, faint o amser y gall ei gymryd i'w gwblhau a beth i gadw golwg amdano ar hyd y llwybr.
Weithiau mae angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybr wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill - dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae yna lwybrau cerdded hygyrch yn rhai o'r coetiroedd a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r llwybrau hyn yn addas i bawb gan gynnwys pobl â chadeiriau olwyn a bygis.
Maent wedi'u harwyddo o'u man cychwyn yn y maes parcio hyd at y diwedd.
Mae gan lawer ohonynt feinciau neu fannau gorffwys eraill ar hyd y llwybr.
Gallwch gerdded ar bob un o'r pedwar categori o hawl tramwy cyhoeddus:
Dysgwch fwy am hawliau tramwy cyhoeddus.
Gallwch gerdded ar unrhyw dir sydd wedi'i ddynodi'n dir mynediad agored.
Mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd a rhai o'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u dynodi'n diroedd mynediad agored.
Dangosir tir mynediad agored ar fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans.
Dysgwch fwy am dir mynediad agored.
Mae Llwybrau Cenedlaethol yn llwybrau hir trwy rai o’r tirweddau gorau yng Nghymru a Lloegr.
Mae tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru:
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch arfordir Cymru.
Mae'r llwybr yn 870 milltir o hyd o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.
Mae'r Codau Cefn Gwlad yn darparu cyngor i gynllunio ymweliad â'r awyr agored ac i helpu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.
Dysgwch fwy am y Codau Cefn Gwlad.