Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Coetir bach yw Pont Llogel, yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae taith gerdded fer drwy’r coetir ar hyd afon Efyrnwy.
Mae dwy daith gerdded hwy yn gadael o’r maes parcio ac mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn mynd drwy Goedwig Dyfnant yma.
Mae’r maes parcio ac ardal bicnic yma wrth ochr hen bont gerrig ar gyrion pentrefan.
Ceir meinciau picnic o amgylch y maes parcio.
Mae toiled symudol yn y maes parcio cyhoeddus wrth ochr siop y pentref.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mae Llwybr Pont Llogel yn daith gerdded gysgodol drwy goetir cymysg wrth ochr afon Efyrnwy.
Mae’r llwybr llydan a gwastad yn dilyn glannau’r afon i fainc bren lle gallwch fwynhau sŵn y dŵr a’r adar.
Oddi yma, gallwch naill ai ddychwelyd yr un ffordd neu ddilyn y llwybr lefel uwch drwy goed derw os ydych yn fodlon mynd ar risiau a rhannau serth.
Mae golygfeydd o’r bryniau drwy’r coed, cyn i’r llwybr ostwng i lannau’r afon a dilyn y prif lwybr yn ôl i’r maes parcio.
Argymhellwn eich bod yn mynd â map Arolwg Ordnans neu lyfr tywys ynglŷn â theithiau cerdded i ddilyn y llwybrau hyn.
Gallwch brynu taflen ar y llwybrau hyn yn y siop ym Mhont Llogel.
Mae’r daith gerdded hon yn coffáu emynwr enwog o’r 18fed ganrif.
Mae’n cychwyn o faes parcio Pont Llogel ac mae’n gorffen yn Hen Gapel John Hughes ym Mhontrobert.
Mae’r llwybr yn dilyn afon Efyrnwy, gan gyflwyno amrywiaeth o dirweddau ac ymweld â llawer o’r mannau sy’n gysylltiedig â bywyd Ann Griffiths.
Mae’n 7 milltir/11 cilomedr bob ffordd a chaiff ei reoli gan Gyngor Sir Powys.
Mae’r daith gerdded hon yn olrhain llwybr rhwng Dyffrynnoedd Efyrnwy a Thanat, llwybr sydd wedi'i droedio gan bererinion, chwarelwyr a phorthmyn yn y canrifoedd a aeth heibio.
Mae’n cychwyn dros y ffordd i faes parcio Pont Llogel ac mae’n gorffen yn Llangynog.
Mae’n daith gerdded heriol â rhannau hir o ddringo sy’n cysylltu gwaelodion y dyffrynnoedd â darnau enfawr o weundir agored.
Mae’n 15 milltir / 24 cilomedr bob ffordd a chaiff ei reoli gan Gyngor Sir Powys.
Mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn mynd drwy Goed Pont Llogel.
Ewch i wefan Llwybr Glyndŵr i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Coedwig Dyfnant yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coed Pont Llogel 22 milltir o Ddolgellau.
Mae yn Sir Powys.
Mae Pont Llogel ar fap Explorer 239 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 032 154.
Ewch ar ffordd yr A470 o Ddolgellau tuag at Fachynlleth a throwch i fynd ar yr A458 tuag at y Trallwng.
Yn Llangadfan trowch i’r chwith i fynd ar y B4395, sydd ag arwyddbost am Lyn Efyrnwy.
Ewch heibio’r mynedfeydd ar gyfer meysydd parcio Pen-y-ffordd a Hendre ac ewch ymlaen i bentrefan Pont Llogel.
Mae’r mynediad i faes parcio Pont Llogel ar y dde, yn syth ar ôl y bont gerrig.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Trallwng.
Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.