Coedwig Clocaenog - Bod Petryal, ger Rhuthun
Lle picnic heddychion ar lan y llyn gyda llwybr...
Y peth cyntaf a welwch chi wrth gyrraedd maes parcio Alwen yw’r argae enfawr sy’n sefyll ar draws y gronfa ddŵr.
Yr argae yw’r man cychwyn ar gyfer llwybr saith milltir o hyd o amgylch cronfa ddŵr Alwen sy’n addas ar gyfer beicwyr a cherddwyr fel ei gilydd.
Mae’r llwybr yn arwain drwy goedwigoedd a gweundiroedd ac yn cynnwys golygfeydd eang dros y gronfa ddŵr.
Adeiladwyd y gronfa ddŵr a’r argae ar ddechrau’r 20fed ganrif er mwyn cyflenwi dŵr i borthladd Penbedw.
Mae’r coedwigoedd conwydd o amgylch y gronfa ddŵr yn rhan o Goedwig Hiraethog a chawsant eu plannu i adnewyddu cyflenwadau pren ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gall beicwyr a cherddwyr ddilyn llwybr cyswllt o gronfa ddŵr Alwen hyd at Lyn Brenig ble mae canolfan ymwelwyr i’w chael gyda chaffi a thoiledau.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Llwybr Alwen yn rhedeg drwy goedwigoedd, gweundiroedd, ac ar hyd ymyl y dŵr ar lonydd ag wyneb iddynt a llwybrau coedwigaeth.
Ar hyd y daith mae golygfeydd amrywiol ar draws y gronfa ddŵr a thua mynyddoedd Eryri.
Mae paneli darluniedig ar hyd y llwybr yn cyflwyno bywyd gwyllt, diwylliant a llên gwerin tirwedd yr ucheldir.
Gwyliwch am fywyd gwyllt, o fodaod tinwen i grugieir duon, o’r gwcw i’r gylfingroes - efallai y byddech chi’n ddigon lwcus, hyd yn oed, i weld gwiwer goch neu walch y pysgod.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae’r llwybr yn cysylltu lonydd drwy’r goedwig gyda rhannau ar ffurf llwybrau un lôn pwrpasol yn gweu i mewn ac allan o’r goedwig ac o gwmpas y gronfa ddŵr.
Mae ganddo gryn amrywiaeth o lwybr mor fyr gydag ychydig o goetir cysgodol a gweundir agored.
Mae’r esgyniad i fyny o’r bont dros y gronfa ddŵr yn flinderus ond mae gwthio’ch beic i fyny yn bosib.
Mae pwynt uchaf y llwybr y tu hwnt i’r bont yn agored iawn i’r gwynt a’r glaw a dylech baratoi ar gyfer unrhyw newid yn y tywydd.
Dylid dilyn y llwybr rhanedig yma yn erbyn y cloc gyda beic – gwyliwch am yr arwyddion ac ildiwch i gerddwyr.
Mae’r fynedfa i faes parcio Llyn Brenig oddi ar y B4501, 1 filltir o’r fynedfa ar gyfer maes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae canolfan ymwelwyr Llyn Brenig wedi ei rheoli gan Ddŵr Cymru/Welsh Water.
Mae ganddi gaffi, toiledau, siop bysgota, parc chwarae a chyfleusterau llogi beic.
Mae Llwybr Brenig (9½ milltir/15 cilomedr) yn cychwyn o faes parcio’r ganolfan ymwelwyr ac yn gwneud ei ffordd o amgylch cronfa ddŵr Brenig – gall cerddwyr a beicwyr ddilyn y llwybr.
Gall beicwyr a cherddwyr ddilyn lôn gyswllt rhwng meysydd parcio cronfa ddŵr Alwen a Llyn Brenig.
Cafodd y gronfa Llyn Brenig ei hadeiladu yn yr 1970au ac mae’n cael ei defnyddio i reoli’r cyflenwad dŵr i Afon Dyfrdwy.
Mae hefyd yn un o’r prif bysgodfeydd plu yn y DU ac yn cynnal cystadlaethau rhyngwladol.
Mae tocynnau ar gyfer pysgota yng nghronfeydd Alwen a Brenig ar gael o’r ganolfan ymwelwyr.
Gweler gwefan Llyn Brenig am fwy o wybodaeth.
Mae Alwen 11 milltir i’r de-orllewin o Ddinbych.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sirol Bwrdeistref Sirol Conwy a Sir Ddinbych.
O’r de: dilynwch y B4501 o Gerrigydrudion tuag at Ddinbych, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn hyd at Lyn Brenig. Wedi tair o filltiroedd, trowch i’r chwith i lawr llwybr caregog tuag at faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
O’r gogledd: dilynwch y B4501 o Ddinbych tuag at Gerrigydrudion. Wedi 11 o filltiroedd, ewch heibio i faes parcio canolfan ymwelwyr Dŵr Cymru/Welsh Water Llyn Brenig. Wedi 1 filltir, mae’r troad am faes parcio Alwen ar y dde. Dilynwch y llwybr caregog hwn tuag at faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r orsaf reilffordd agosaf yn y Rhyl.
I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gweithredir y maes parcio ger Cronfa Ddŵr Alwen gan Dŵr Cymru.
Rhaid talu £2.50 am barcio.
Mae angen ichi dalu ffi'r maes parcio â’r arian cywir.
0300 065 3000