Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mr Ronald Baker

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026798
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno a system ymdreiddio
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Maes Gwersylla Perllan, Ffermdy Hendre, Wonastow, Monmouth, NP25 4DJ  
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SO 45765 12411
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Dŵr daear trwy system ymdreiddiad
Math o elifiant: Elifiant triniaeth eilaidd
Cyfaint: 8.3 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 05 Tachwedd 2024

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf