Mr Philip Robinson - Lower Farm Road, Bowling Bank, Wrecsam, LL13 9RY
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mr Philip Robinson
Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-026852
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Cryno
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Lower Farm Road, Bowling Bank, Wrecsam, LL13 9RY
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SJ 40847 50483
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Ffos yn draenio i ragnant ddienw Afon Dyfrdwy
Math o elifiant: Elifiant carthion triniedig
Cyfaint: 4 metr ciwbig y dydd
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 5 Tachwedd 2024
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cardiff Cathays Park
Welsh Government Offices
Cathays Park
King Edward VII Avenue
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.