Adelphi Limited - South Dock, East Way Road, Newport Docks, Newport, NP20 2WE
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Adelphi Limited.
Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-024940
Math o gyfleuster rheoledig: Safle ailgylchu metel (cymysg)
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: South Dock, East Way Road, Newport Docks, Newport, NP20 2WE.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 3 Hydref 2024.
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Caniatáu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.